Software: Apache/2.2.16 (Debian). PHP/5.3.3-7+squeeze19 uname -a: Linux mail.tri-specialutilitydistrict.com 2.6.32-5-amd64 #1 SMP Tue May 13 16:34:35 UTC uid=33(www-data) gid=33(www-data) groups=33(www-data) Safe-mode: OFF (not secure) /usr/share/dasher/ drwxr-xr-x |
Viewing file: Select action/file-type: CRYFHAU SAFLE'R GYMRAEG YNG NGHWRS ADDYSG YSGOLION Mewn adran arall canolbwyntir ar y cyfle a rydd y Ddeddf Diwygio Addysg 1988 i ymestyn addysg Gymraeg fel pwnc a chyfrwng. Dengys ystadegau diweddaraf y Swyddfa Gymreig y tir y mae'n bosibl ei ennill wrth gynyddu nifer y disgyblion a gaiff y cyfle i dderbyn eu haddysg yn y Gymraeg. Yn sgîl cyhoeddi'r adroddiad ar y Gymraeg yn y cwricwlwm a'r gofynion statudol a gaiff eu gweithredu o Fedi 1990 ymlaen, cynhaliwyd cyfarfodydd â nifer o awdurdodau addysg i gasglu gwybodaeth am eu hanghenion ym myd addysg Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf. Mae amrywiaeth mawr yn y gwahanol siroedd a rhaid disgwyl am ragor o fanylion mewn perthynas â gweithredu gofynion y Gymraeg cyn y gellir cynnig cyngor ar faterion polisi sy'n berthnasol i Gymru gyfan a siroedd unigol. Er enghraifft, mae prinder athrawon i addysgu Cymraeg a dysgu trwy gyfrwng yr iaith yn achosi cryn bryder ynglÅ·n â diogelu lle'r Gymraeg yn y cwricwlwm cenedlaethol. Yn ystod y flwyddyn, tynnwyd sylw'r Swyddfa Gymreig yn gyson at bwysigrwydd y cynlluniau sydd gan yr awdurdodau i gynnal gwasanaeth athrawon bro a sefydlu canolfannau i hwyr-ddyfodiaid er mwyn goresgyn anawsterau sy'n codi o brinder athrawon a mewnlifiad disgyblion di-Gymraeg i ardaloedd Cymraeg. Ar ryw olwg, mae'n galondid fod cynifer o'r problemau mae'r awdurdodau yn eu hwynebu yn codi o'r galw mawr a chynyddol am addysg Gymraeg. CYFLENWI ADNODDAU Yn yr adroddiad hefyd manylir ar y ffeithiau ynglÅ·n â darparu adnoddau ar gyfer addysg Gymraeg. Yn ystod y flwyddyn, cryfhawyd y gyfundrefn i adnabod anghenion at y dyfodol gan gytuno mai paneli Adran Gymraeg CBAC fyddai'r ffordd fwyaf effeithlon o wneud hyn. I ddynodi'r anghenion ym meysydd addysg feithrin, dysgu'r Gymraeg i oedolion ac addysg bellach, defnyddiwyd gweithgorau arbenigol a sefydlwyd eisoes. Mae aelodaeth y paneli a'r gweithgorau hyn yn adlewyrchu amryfal agweddau ar addysg Gymraeg, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r gwahanol sectorau addysg a rhanbarthau Cymru. Treulir cryn amser a chyllid bob blwyddyn yn manylu ar yr anghenion, gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael a gofynion newydd y cwrs addysg. Llunir rhesymoliad manwl ar gyfer pob cais am nodded gan y paneli a'r gweithgorau. Yna cyfrifoldeb PDAG yw cydlynu'r holl geisiadau, eu gosod mewn trefn blaenoriaeth a llunio rhesymoliad cynhwysfawr cyn eu cyflwyno i'r Swyddfa Gymreig. Eleni cynhaliwyd trafodaethau rhwng swyddogion y Swyddfa Gymreig a PDAG ar raddfa ehangach na'r blynyddoedd cynt cyn y cafodd y dyraniad terfynol ei gyhoeddi, a da oedd clywed fod " y Gweinidogion yn ddiolchgar am y cyngor y bu i chi ei roi wrth ein helpu i ddod i'r penderfyniadau hyn. Maent yn croesawu'r datblygiad hwn a chredant na all hyn ond gwella yn sgîl y gwaith sydd ar y gweill erbyn hyn i ddatblygu cynlluniau tymor hir PDAG". Croesewir y cynnydd yn y nawdd a ddaw o du'r llywodraeth, ond y mae ystadegau yn dangos fod yr anghenion ymhell o'u diwallu. Mae gan PDAG rôl o gadw golwg ar y gwaith a gyllidir, a hefyd o ofalu y bydd defnyddio priodol ar y cynnyrch. Mae pwysigrwydd yr agweddau hyn ar waith y pwyllgor yn debyg o gynyddu, ac eleni dechreuwyd cofnodi ar ddata-bâs yr holl ddatblygiadau diweddar a'r rhai sydd ar y gweill. RO^L YMGYNGHOROL PDAG Cyhoeddodd y Swyddfa Gymreig nifer o ddogfennau yn ymwneud â'r cwricwlwm cenedlaethol a chafwyd ymateb gan y pwyllgor i nifer ohonynt. Croesawyd yn arbennig y cyfle i drafod yn helaeth ddau adroddiad sy'n allweddol i ddyfodol addysg Gymraeg, sef adroddiad gweithgor yr Ysgrifennydd Gwladol a'r gorchmynion drafft ar y Gymraeg ac adroddiad interim y gweithgor Hanes dros Gymru. Yn ei ymateb i'r adroddiad Cymraeg nododd y pwyllgor nifer o bynciau y byddai'n briodol iddo eu harchwilio a datblygu polisiau arnynt ar fyrder. Gellir eu dosrannu'n dri maes: (a) datblygu hyfforddiant, (b) datblygu adnoddau, ac (c) dosbarthu gwybodaeth. Manylir arnynt yn yr adroddiad. Yna, yn sgîl cyhoeddi adroddiad interim Ieithoedd Modern pwysleisiwyd yr angen i gynnwys y Gymraeg yn y rhestr o ieithoedd sy'n bosibl eu dysgu yn Lloegr. Cynigiwyd sylwadau hefyd ar ddeddf iaith ddrafft Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Cyfrannodd swyddogion a chynrychiolwyr PDAG i drafodaethau nifer o bwyllgorau a gweithgorau a berthyn i gyrff addysgol eraill. Mynychwyd cyfarfodydd o Gyngor Cwricwlwm Cymru, pwyllgor hyfforddiant cychwynnol a mewn-swydd a phwyllgor llywio'r Gymraeg gan y Cyfarwyddwr; cynrychiolwyd PDAG ar nifer o bwyllgorau llywio eraill y cyngor gan addysgwyr y Gymraeg. Cyfrannwyd hefyd i drafodaethau pwyllgor llywio cenedlaethol hyfforddiant-mewn- swydd y Gymraeg, paneli pwnc CBAC, gweithgorau llywio data-bâs cenedlaethol NERIS a'r Asiantaeth Hyfforddi, a phrosiect datblygu dwyieithrwydd mewn addysg bellach. CYSYLLTIADAU A^'R CYHOEDD Trefnwyd pabell arddangos gan PDAG yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Nyffryn Nantlle. Cafwyd cyfle i hysbysebu gwaith y pwyllgor ac i arddangos adnoddau a gyllidwyd gan y Swyddfa Gymreig ac a gynhyrchwyd gan yr Uned Iaith Genedlaethol, Canolfan Astudiaethau Addysg Aberystwyth, Canolfan Astudiaethau Iaith Bangor, NERIS a MEU (Uned Feicroelectroneg Cymru). Dangoswyd cryn ddiddordeb mewn ffilm fideo, a gomisiynwyd gan PDAG ac a gynhyrchwyd gan Ganolfan Adnoddau Clwyd, yn olrhain hynt disgyblion, rhai o gartrefi di- Gymraeg, a dderbyniodd eu haddysg trwy'r Gymraeg. Cynhyrchwyd taflenni i'w dosbarthu i lywodraethwyr ac ysgolion yn amlinellu manteision addysg Gymraeg, a rhagwelir mai cyflenwi gwybodaeth am y Gymraeg fel iaith a chyfrwng fydd un o brif swyddogaethau'r pwyllgor yn y dyfodol agos. STAFF Ddiwedd mis Awst 1989 dychwelodd y ddau swyddog datblygu Mr. Hywel Jeffreys a Mr. John Wyn Thomas i'w swyddi gydag awdurdodau Morgannwg Ganol a Dyfed yn eu trefn. Penodwyd Dr. Alun Ogwen i ddechrau ym mis Medi 1989 a Miss Siwan N. Rees i ddechrau 1 Ebrill 1990 yn swyddogion datblygu. DIOLCH Ar ddiwedd fy nghyfnod fel Cyfarwyddwr PDAG hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad diffuant i'r Cadeirydd, i aelodau'r hen bwyllgor a'r newydd, i aelodau'r amrywiol weithgorau, i'm cydweithwyr yn y swyddfa ac i bawb a gyfrannodd i waith y pwyllgor o'i ddechreuad ansicr dair blynedd yn ôl. Cafwyd cyfle i ymgynghori'n helaeth ag addysgwyr o bob rhan o Gymru a phob un o'r sectorau addysgol. Rhoddwyd yn hael a diflino o'u harbenigedd a'u hamser gan bawb. Mae addysg Gymraeg yn gadarnach a chyfoethocach o'u plegid. Hoffwn fanteisio'n arbennig ar y cyfle hwn i ddiolch i ddau o'n haddysgwyr amlycaf, yr oedd y Gymraeg yn agos iawn at eu calonnau, am eu cyngor cadarn a'u cefnogaeth barod i waith y pwyllgor ar bob achlysur, sef Mr. Illtyd Lloyd (Prif Arolygydd Ysgolion Cymru a ymddeolodd yn gynt eleni) a Mr. Gareth Lloyd Jones (Ysgrifennydd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru a fydd yn ymddeol ddiwedd Awst). STRATEGAETH PDAG 1 SWYDDOGAETH PDAG Gwahoddwyd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru ym 1986 gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i sefydlu'r Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg gan addo darparu'r adnoddau angenrheidiol i gynnal y Pwyllgor. Wrth estyn y gwahoddiad, amlinellodd brif elfennau ei swyddogaeth: 1.1. bod yn fforwm a fyddai'n gallu cynghori llywodraeth ganol a lleol ar bolisi iaith; 1.2. gwella cydlynu ymhlith asiantaethau sy'n cyfrannu at addysg yn yr iaith Gymraeg; 1.3. dynodi anghenion datblygiad, a blaenoriaethau oddi mewn i'r anghenion hynny, ac i fod yn gyfrwng i'w hateb; 1.4. dosbarthu gwybodaeth; 1.5. dynodi anghenion ymchwil. 2. STRATEGAETH PDAG. Yn dilyn, amlinellir y strategaeth i gyflawni'r swyddogaeth hon (gellir cael copi o'r strategaeth yn llawn o swyddfa PDAG). 2.1 Sefydlu fforwm (gweler Swyddogaeth PDAG: 1.1) Sicrheir bod PDAG yn gweithredu fel fforwm drwy sefydlu'r broses ymgynghorol ganlynol: - cynnal cyfarfodydd rheolaidd o'r pwyllgor; - sefydlu gweithgorau parhaol á neu dros dro i archwilio meysydd penodol; - ymgynghori â gweithgorau arbenigol a sefydlwyd gan gyrff eraill; - cynnal cyfarfodydd cyhoeddus cenedlaethol á neu ranbarthol yn ôl yr angen; - ymgynghori â'r Awdurdodau Addysg Lleol (yn arbennig prif ymgynghorwyr ac ymgynghorwyr y Gymraeg), addysgwyr yn y sectorau ysgol a cholegau addysg bellach ac uwch (gan gynnwys colegau Prifysgol Cymru) a'r Asiantaeth Hyfforddi. 2.2 Cydlynu (1.2) Cydlynu yw un o swyddogaethau pwysicaf PDAG. Bydd y pwyllgor yn cydlynu gweithgareddau'r asiantaethau sy'n datblygu addysg Gymraeg drwy'r dulliau canlynol: - cadw cofnod manwl o'r datblygiadau a gyflawnwyd neu sydd ar y gweill; - cydlynu cynlluniau datblygu er mwyn gwneud y defnydd mwyaf cost effeithiol o'r adnoddau; - sicrhau bod cynlluniau yn cyfateb i feini prawf addysgol cydnabyddedig, i amserlen datblygu penodol ac o fewn y cyllid a benwyd. 2.3 Anghenion (1.3) 2.3.1 Dynodi'r anghenion Swyddogaeth allweddol arall a gyflawnir gan PDAG yw dynodi'r anghenion datblygu a'u gosod mewn trefn blaenoriaeth. 2.3.2 Cyflenwi'r anghenion Cyflenwir yr anghenion: (i) trwy ddatblygu adnoddau addysgol, megis: (a) penodi asiantaethau datblygu; (b) monitro datblygiadau; (c) cynhyrchu á neu gyhoeddi'r adnoddau mewn gwedd addas; (ch) dosbarthu'r adnoddau; (d) ôl-brofi'r adnoddau ar ôl cyfnod o'u defnyddio'n gyffredinol; (ii) trwy hybu dulliau addysgu cyfoes a pherthnasol, megis: (a) darparu canllawiau a chymorth arall ar gyfer athrawon (mewn ymgynghoriad â Chyngor Cwricwlwm Cymru, yr Awdurdodau Addysg Lleol a'r colegau); (b) dadansoddi ac adolygu methodoleg dysgu gan ddefnyddio cynorthwyon priodol i'w harddangos; (c) hybu hyfforddiant- mewn-swydd yng nghyswllt datblygiadau a gomisiynwyd. 2.4 Materion polisi (1.1) Perchir annibyniaeth pob AALl, sefydliad ac asiantaeth gan PDAG. Fodd bynnag, clustnodir meysydd polisi lle y gallai PDAG estyn cyngor i lywodraeth ganol a lleol, ysgolion a cholegau, ac eraill sy'n darparu addysg gymunedol. Maent yn cynnwys: - dulliau o wella cyflenwad athrawon, trwy hyfforddiant dechreuol a hyfforddiant-mewn- swydd er mwyn cyflenwi anghenion addysg Gymraeg yn y tymor byr a'r tymor hir; - dulliau o ddarparu addysg feithrin briodol; - dulliau o sefydlu'r Gymraeg ym maes llafur ysgolion cynradd ac uwchradd nad ydynt yn ysgolion Cymraeg yn ôl diffiniad y Ddeddf Diwygio Addysg, a sut i wella'r ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg yn gyffredinol; - dulliau i ateb anghenion mewnfudwyr di-Gymraeg; - ehangu addysg Gymraeg mewn unedau trydyddol, a cholegau addysg bellach ac uwch; - dulliau o ddarparu addysg Gymraeg ar gyfer oedolion. 2.5 Dosbarthu gwybodaeth (1.4) Sicrheir dosbarthu gwybodaeth am ddatblygiadau ym maes addysg Gymraeg drwy'r dulliau canlynol: - hysbysu'r asiantaethau o bob datblygiad sy'n briodol i'w maes diddordeb er mwyn osgoi dyblygu ymdrechion; - defnyddio rhwydwaith hysbysu NERIS; - cyhoeddi bwletin i addysgwyr yn nodi datblygiadau; - cyhoeddi taflenni hysbysaeth i lywodraethwyr, rhieni a'r cyhoedd yn gyffredinol; - adroddiad blynyddol. 2.6 Dynodi anghenion ymchwil (1.5) Er mwyn dynodi anghenion ymchwil a fydd yn cynnig sylfaen ddiogel i gynllunio darpariaeth ac i ddatblygu polisiau, dulliau dysgu ac addysgu, a chynlluniau cyhoeddi, sefydlir gweithgor arbenigol gan PDAG: - i ddynodi prosiectau ymchwil a'u gosod mewn trefn blaenoriaeth; - i gyfarwyddo prosiectau ymchwil a ddatblygir gan PDAG. 1989 - 90 : SYLFAEN I ADEILADU ARNI 1 Y GYMRAEG FEL PWNC Pan sefydlwyd PDAG yn 1987, wrth nodi ystadegau'r Swyddfa Gymreig ar y canrannau isel o ddisgyblion yn y sectorau cynradd ac uwchradd a oedd yn dysgu'r Gymraeg, mewn rhai mannau yng Nghymru, y cwestiwn sylfaenol a wynebai'r pwyllgor oedd: "Sut y gall PDAG sicrhau cyfle i ragor o ddisgyblion ddysgu'r iaith?" O fewn blwyddyn daeth y Ddeddf Diwygio Addysg i rym, gan roi i'r Gymraeg statws pwnc craidd mewn ysgolion Cymraeg a statws pwnc sylfaen yng ngweddill ysgolion Cymru. Ar yr un adeg, sefydlodd Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru weithgor, dan gadeiryddiaeth yr Athro Gwyn Thomas, i'w gynghori ynghylch Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio priodol ar gyfer y Gymraeg. Ymddangosodd yr adroddiad hwnnw ym mis Mehefin 1989 a chyhoeddwyd Gorchmynion Statudol ar y Gymraeg a Chymraeg ail iaith yn ystod Haf 1990 fel y gellir eu gweithredu o ddechrau'r flwyddyn academaidd 1990 - 91. Yn ei gynigion, mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn derbyn awgrym y gweithgor y dylid gweithredu eu hargymhellion mewn dau fodd : Blaenoriaethau Ymchwil Y mae nifer o'r ffactorau a nodir uchod yn rhyngberthnasol ac yn gwau i'w gilydd. I bwrpas crynhoi rhestr o anghenion ymchwil, penderfynwyd mabwysiadu'r fframwaith a ganlyn, sy'n dangos y gofynion o fewn un o bedair ffram gyd-berthnasol. (Model - Fframwaith Ymchwil Addysg Gymraeg/Ddwyieithog: Iolo Wyn Williams. Gweler atodiad) Ar gyfer pob un o'r pedair ffram yn y model, y mae rhestr gyffredinol yn dilyn o brojectau ymchwil y dylid rhoi ystyriaeth fanwl iddynt. Y mae'r Gweithgor Ymchwil wedi manylu ym mhob categori ar y projectau y dylid rhoi'r brif flaenoriaeth iddynt yn y tymor byr, (gan gydnabod fod oblygiadau tymor byr a hir ynghlwm mewn rhai ohonynt). Yn achos y projectau blaenoriaeth, rhoddir amlinelliad bras o'r math o waith y gellid ei gyflawni yn nhermau: a) y broblem i'w hystyried, a b) y camau ymchwil i'w dilyn. A YR IAITH YN Y GYMDEITHAS Thema bwysig yn yr adran hon yw cwestiwn ymagweddu. Rhoddir blaenoriaeth i (i) agweddau rhieni a (ii) agweddau cyflogwyr. A1 Cwestiwn: Beth sy'n peri fod rhieni (Cymraeg/di-Gymraeg) mewn gwahanol rannau o Gymru (ardaloedd Cymraeg/Seisnigedig/cymysg ieithyddol) yn ymagweddu fel y gwnant tuag at addysg Gymraeg? Briff Ymchwil Cyffredinol * Disgrifio a diffinio'r broblem - deall cymhellion/ofnau rhieni * Adolygu'r ymchwil perthnasol - tystiolaeth o Gymru á neu wledydd eraill * Ymchwil pellach yn arwain at ddatblygu strategaeth ar gyfer ateb rhai o'r anawsterau a gyfyd, gwerthu manteision dwyieithrwydd etc A2 A3 Projectau Eraill A4 A5 B. Y GYFUNDREFN ADDYSGOL B1 Cwestiwn: I ba raddau mae prinder adnoddau materol a dynol yn rhwystr i ddatblygiad addysg Gymraeg neu'n arwain i gynllunio darpariaeth mewn ffyrdd arbennig Briff Ymchwil Cyffredinol * Dadansoddi'r sefyllfa: ymchwil ystadegol - "awdit" sefydliadol (sy'n rhagdybio y gellir sefydlu trefn foddhaol o gasglu a diweddaru'n rheolaidd wybodaeth am ddisgyblion a'u anghenion, athrawon, gofynion y cwricwlwm/cyrsiaú cyflogwyr, deunyddiau sydd ar gael etc) * Ymchwilio i ddulliau gwahanol o wneud darpariaeth o ran dulliau cyflwyno (ee dysgu dwyieithog neu ddulliau dysgu agored) trwy ymchwil cymharol neu ymchwil gweithredol. B2 B3 Projectau Eraill B4 B5 C Y GYFUNDREFN ADDYSGOL CH DYSGU A DEFNYDDIO IAITH 5 DATBLYGU RHAGLEN YMCHWIL I GYFARFOD AG ANGHENION ADDYSG GYMRAEG 5.1 Y cwestiwn sy'n sail i ddatblygu rhaglen ymchwil mewn perthynas ag addysg Gymraeg yw: Beth yw'r ffactorau a allai hyrwyddó rhwystro dysgu Cymraeg fel pwnc a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg; 5.2 Nodir 4 maes addysg Gymraeg sy'n cwmpasu'r Gymraeg fel pwnc ac fel cyfrwng: Cymraeg - Iaith Gyntaf; Ail Iaith Estynedig; Ail Iaith Sylfaenol Cyfrwng Cymraeg 10 Darperir agweddau o'r 4 maes addysg Gymraeg yn y sectorau addysg canlynol: Sector Meithrin Sector Cynradd Sector Uwchradd Sector Addysg Bellach/ Uwch Sector Addysg Oedolion 5.3 Y ffactorau a allai hyrwyddó rhwystro dysgu Cymraeg fel pwnc a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yw'r canlynol: 5.3.1 Cymhelliant 5.3.2 Disgwyliadau mewn perthynas â gwaith 5.3.3 Adnoddau 5.3.4 Amgylchiadau cyfundrefnol 5.3.5 Polisiau Iaith 5.3.6 Y cyd-destun cymdeithasol 5.3.7 Gwybodaeth am iaith a defnyddio iaith 5.3.8 Materion addysgol 5.3.1 Cymhelliant Cymhelliant yw'r ffactor seicolegol fwyaf allweddol o bosibl o safbwynt penderfynu dros addysg Gymraeg neu beidio ar ran rhieni a phlant. Mewn gwlad ddwyieithog fel Cymru, lle mae'n naturiol ac yn ofynnol i bawb ddysgu'r Saesneg sy'n fyd eang ei defnydd, mae'r rheidrwydd i ddysgu a defnyddio iaith carfan leiafrifol o'r boblogaeth ac iaith sydd wedi ei chyfyngu o ran defnydd i dir Cymru yn dibynnu ar wahanol gymhellion. Ymhlith llawer o resymau dros siarad Cymraeg ceir y canlynol: - ymlyniad at iaith rhieni a chartref; - ymlyniad at iaith bro enedigol a'r gymdeithas leol; - ymlyniad at werthoedd diwylliannol a chrefyddol; - amlygiad o arwahanrwydd cenedlaethol a diwylliannol; - cyfrwng i gael llawer o bleser a bodlonrwydd; - cyfrwng i dderbyn profiadau amrywiol a chyfoethogi personoliaeth; 11 - cymhwyster i gael swydd; - argyhoeddiad bod siarad Cymraeg yn sicrhau fod rhai swyddi'n cael eu cyflawni'n fwy effeithiol; - ymdeimlad o gyfrifoldeb dros gynnal iaith a diwylliant sydd mewn perygl o ddiflannu. Pan fo'r cymhelliant a'r ewyllys yn gadarnhol ac yn gryf mewn perthynas â'r iaith ac addysg Gymraeg, gwelir llwyddiant. Fodd bynnag, un o'r rhwystrau pennaf sy'n atal datblygiad addysg Gymraeg ac sy'n arafu adfer yr iaith yw diffyg cymhelliant ac ewyllys. Argymhellir ymgymryd ag ymchwil mewn rhai agweddau allweddol o'r maes hwn a fyddai'n cynorthwyo llunwyr polisiau ac addysgwyr gweithredol i hyrwyddo agweddiadau positif a chefnogol wrth gynllunio rhaglen datblygu addysg Gymraeg. Felly mae angen ymchwil i ganfod: - Manteision cognitif a chymdeithasol dwyieithrwydd; - Y ddelwedd sydd gan y Gymraeg. Mae hwn yn faes eang, ond heb wybod sut y mae'r cyhoedd (di-Gymraeg yn bennaf) yn "gweld" safle'r iaith heddiw, anodd yw cynllunio er mwyn newid delwedd yr iaith. - Cymhellion gwahanol garfannau o rieni o blaid addysg Gymraeg; pa ddelwedd o'r Gymraeg neu ddisgwyliadau sydd gan rieni dros eu plant wrth eu hanfon i ysgol Gymraeg; pa ddelwedd sydd gan "Yr Ysgol Gymraeg" fel sefydliad, heb sôn am ysgol unigol? A oes yna elfennau dosbarth ynghlwm yn y drefn bresennol, yn enwedig ymhlith rhieni plant yr ysgol Gymraeg mewn ardal di-Gymraeg? Os oes, sut y mae'r elfennau hynny yn gweithio er lles neu er drwg i'r iaith? - Y dulliau mwyaf effeithiol o drosglwyddo gwerth addysg Gymraeg i rieni ifanc sy'n Gymry Cymraeg neu'n ddi- Gymraeg (Mae adroddiad y Gweithgor Cyhoeddusrwydd yn manylu ar hyn). - Agweddau disgyblion uwchradd o gartrefi Saesneg eu hiaith tuag at y Gymraeg. - Nodweddion, cymhelliad a sefyllfa bersonol oedolion sy'n llwyddo (hy y cysylltiad rhwng llwyddiant a'r newidiadau mawr ym mywydau unigolion, fel cael plentyn, dychwelyd i Gymru, ymddeol, ysgariad). - Y ffactorau sy'n pennu agweddau oedolion at y Gymraeg. (Ffactorau cymdeithasol, galwedigaethol, hanesyddol, cefndirol etc). 12 - Astudiaeth o'r ffactorau sy'n peri i oedolion adael dosbarthiadau ar wahanol lefelau. - Y dulliau mwyaf effeithiol o ddenu oedolion i ddosbarthiadau ac anghenion yr oedolion hynny o ran darpariaeth. (Gweler adroddiad y Gweithgor Cyhoeddusrwydd). 5.3.2 Disgwyliadau mewn perthynas â gwaith Tan yn ddiweddar ychydig oedd y swyddi proffesiynol lle defnyddid y Gymraeg fel cymhwyster angenrheidiol i'w cyflawni'n effeithiol; fe'u cyfyngwyd i feysydd addysg a'r weinidogaeth eglwysi yn bennaf. Fodd bynnag, roedd y gallu i siarad yr iaith mewn galwedigaethau megis meddygaeth a'r gyfraith yn fodd i greu perthynas agos ac felly sicrhau gwasanaeth mwy effeithiol. Ar yr un pryd, ceid llawer o swyddi cyffredin mewn tref a phentref lle defnyddid y Gymraeg yn gyson fel cyfrwng naturiol cyfathrebu, megis mewn siop, gweithdy a swyddfa. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, ymledodd y Gymraeg i fod yn gwymhwyster dymunol mewn nifer cynyddol o swyddi proffesiynol, ac yn gymhwyster angenrheidiol mewn rhai meysydd newydd, yn arbennig y cyfryngau a rhai swyddi yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae pwyslais cynyddol y dyddiau hyn, yn arbennig yn y sector addysg uwchradd, ar ennill cymwysterau a meistroli sgiliau ar gyfer byd gwaith. Hefyd mae'r swyddi lle mae angen cyfathrebu (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn Gymraeg yn fwy lluosog ac amrywiol nag erioed o'r blaen. Felly mae'n ofynnol i addysg Gymraeg ymateb yn ystyrlon a brwdfrydig i'r dimensiwn galwedigaethol hwn. O safbwynt datblygu addysg Gymraeg i ateb gofynion byd gwaith, byddai'n werthfawr ymgymryd ag ymchwil i'r defnydd a wneir ac y gellid ei wneud o'r Gymraeg mewn gwahanol swyddi yn y sector cyhoeddus a phreifat. Gellid wedyn sicrhau bod cyrsiau addysg Gymraeg yn darparu'n briodol ar eu cyfer. Sefydlwyd project eisoes i'r perwyl hwn i ganfod yr anghenion galwedigaethol mewn rhai meysydd penodol ac i gynllunio rhaglen ddatblygol yn y sector addysg bellach is. 13 Gallai ymchwil gynnig rhai o'r atebion i'r meysydd canlynol: - A yw'r defnydd prin o'r Gymraeg mewn masnach a diwydiant preifat yn gorfodi ieuenctid sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg i chwilio am waith yn y sector cyhoeddus ac a yw cynghorwyr gyrfaol yn parhau i drosglwyddo'r math hwn o ddisgwyliadau mewn perthynas â'r Gymraeg? - Y berthynas rhwng iaith leiafrifol â gyrfaoedd yn y sector cyhoeddus; h.y a ydyw'n cynyddu dibyniaeth yr iaith ar lywodraeth leol a chanolog, ac os ydyw, beth yw'r canlyniadau i awtonomi'r grŵp iaith hwnnw? - Gwerth y Gymraeg yn economaidd/cymdeithasol o safbwynt cyflogwyr a'r sgiliau perthnasol y dylid eu hyrwyddo; - Y cyflogwyr yn y sector preifat a chyhoeddus ym mhob ardal a fyddai'n gallu manteisio ar weithwyr dwyieithog. 5.3.3 Adnoddau Er mwyn i addysg Gymraeg ddatblygu'n wasanaeth addysgol teilwng ac effeithiol, mae'n ofynnol sicrhau cyflenwad digonol o adnoddau a sicrhau hefyd y defnydd gorau o'r adnoddau hynny. Mae'r gwasanaeth yn dibynnu yn bennaf ar ddau gategori o adnoddau, sef Athrawon a Gwerslyfraú Cyfarpar. Athrawon Ni ellir cynnal na datblygu addysg Gymraeg heb gyflenwad digonol o athrawon sydd wedi eu cymhwyso'n briodol ar gyfer amrywiol agweddau o'r gwasanaeth. Cyfeiriwyd at brinder dybryd mewn rhai meysydd gan y gweithgorau sector, e.e. athrawon ail iaith yn y sector cynradd, ac athrawon cyfrwng yn yr sector uwchradd. Mae dau gynllun yn cael eu datblygu ar hyn o bryd sy'n amcanu i geisio sicrhau cyflenwad o athrawon ar gyfer addysg Gymraeg: a) sefydlwyd project ymchwil gan Gyfadran Addysg Prifysgol Cymru i ganfod y rhesymau am amhoblogrwydd dysgu fel gyrfa ymhlith disgyblion chweched dosbarth a myfyrwyr colegau gyda'r bwriad o ddileu'r prif ragfarnau a chyflwyno delwedd fwy derbyniol o'r swydd; 14 b) mae PDAG yn cyd-weithio â'r uned Teaching as a Career (TASC), dan nawdd y Swyddfa Gymreig, i ddarparu adnoddau cyhoeddusrwydd Cymraeg ar addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg fel gyrfa. Er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r adnoddau dynol prin, argymhellir llunio BASDATA, i'w gadw'n gyfredol, a fydd yn cynnwys manylion am: Staffio a) audit o athrawon sydd yn y gwasanaeth addysg Gymraeg ar hyn o bryd, gan nodi eu meysydd dysgu; b) audit o athrawon sydd y tu allan i'r gwasanaeth addysg Gymraeg, ond sydd â diddordeb a chymwysterau, a rhai â diddordeb ac a ddymunai gymwysterau i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. [Cynhwysir enghraifft o holiadur ar gyfer llunio Audit Staffio yn Atodiad ] Cyrsiau - audit a fyddai'n cynnwys gwybodaeth am y posibiliadau o ddatblygu gwahanol agweddau ar addysg Gymraeg yn yr ysgolion a'r colegau; Er mwyn sicrhau addysgu effeithiol byddai angen ymchwil i feysydd hyfforddiant a thechnegau dysgu ar batrwm yr awgrymiadau canlynol: - llunio cynllun hyfforddiant i gymhwyso athrawon i ddysgu Cymraeg fel pwnc a thrwy gyfrwng y Gymraeg; - archwilio strategaethau dysgu er mwyn adnabod y rhai mwyaf effeithiol ar gyfer dysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg ar batrwm Ysgolion ar Waith a Primary schools: some aspects of good practice; - archwilio'r posibilrwydd o greu strategaethau dysgu gwahanol a newydd yn ôl y galw, ee grwpiau bychain, dysgu o bell. 15 Rhagwelir y colegau addysg ac adrannau addysg y Brifysgol yn cyd- weithredu gyda'r AALl i ddarparu cyrsiau llawn-amser a rhan-amser er mwyn hyfforddi pobl gymwys (ee graddedigion mewn meysydd eraill) i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwerslyfraú Cyfarpar Rhoddwyd y flaenoriaeth ar hyd y blynyddoedd ar y gwerslyfr fel y pwysicaf o'r adnoddau dysgu. Drwy gymorth Grant yr Iaith Gymraeg, dan nawdd y Swyddfa Gymreig, sicrhawyd cyflenwad cynyddol o werslyfrau mewn amrywiaeth o feysydd i leddfu rhywfaint ar anghenion addysg Gymraeg. Mewn byr amser gweddnewidwyd sefyllfa'r gwerslyfrau yn sylweddol mewn rhai meysydd o ganlyniad i'r cymorth hwn. Bu dwy asiantaeth yn bennaf gyfrifol am ddarparu ar lefel genedlaethol: Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru - Yr Adran Gymraeg (CBAC) Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth - Y Ganolfan Adnoddau Addysg (CAA) (Cyhoeddodd CAA Catalog Adnoddau Addysg 2 yng Nghorffennaf 1987, sef ail argraffiad y catalog a gyhoeddwyd gyntaf yn 1984. Mae'r catalog mewn dwy ran: Er mwyn iawn ddeall iaith a'r ffordd y mae plentyn yn ei dysgu mae angen ei gweld bob amser fel rhywbeth sy'n rhan o ddiwylliant, fel elfen yn nyfeisgarwch cymdeithasol dyn. Dim ond dyn sydd â'r gallu i greu a dysgu iaith. Mae ei hangen arno i fynegi ei anghenion a'i ddyheadau, ei brofiadau, ei deimladau a'i freuddwydion ac yn sgîl hynny fe ddaw yn gyfrwng i rannu'r meddyliau hynny. Trwy hynny fe droir meddyliau unigolyn yn feddyliau cymdeithas, ac oherwydd y cyfoeth sydd felly'n cronni ynddo bydd y meddwl cymdeithasol hwnnw yn rhoi maeth a golud i feddyliau'r unigolion sy'n cyfrannu iddo ac yn rhoi ehangder a dyfnder iddynt. Felly, yn ogystal â bod yn un o sgîl-gynhyrchion pwysicaf pob diwylliant, y mae iaith hefyd yn feithrinfa i ddiwylliant ac yn gyfrwng i sicrhau ei barhad. Yr amodau sy'n hyrwyddo dysgu iaith Amod 1 - Trochiad Mae iaith yn rhan o fyw pob plentyn o'r funud y caiff ei eni. O'r funud honno mae ystyron a synau a goslefau iaith ei gymdeithas yn ei amgylchynu. Trwy gydol yr amser mae'r defnydd a wneir o'r iaith a ddaw i'w glyw yn ymwneud â phethau ac â digwyddiadau go iawn. Hynny yw y mae hi'n ystyrlawn, yn bwrpasol ac yn GYFAN. Dim ond yn anaml iawn y bydd ef yn cael profiad o iaith sydd yn amddifad o synnwyr. Amod 2 - Arddangosiad Term a fabwysiadwyd i ddibenion addysgol gan Frank Smith yw "arddangosiad". Mae "modelü a "phrentisiö yn dermau cyfystyr. Yr hyn a olygir yw'r hyn sy'n digwydd pan mae plentyn yn dysgu iaith, sef ei fod yn dyst i filoedd ar filoedd o enghreifftiau o iaith yn cael ei defnyddio i ddibenion ffwythiannol ac ystyrlawn. Trwy fod yng nghwmni pobl eraill sy'n defnyddio iaith fel erfyn i bwrpasu amlwg, penodol, mae plentyn yn dysgu sut i ymddwyn fel defnyddiwr iaith, i rannu'r PWRPAS er mwyn dod i wybod SUT. (Nid yr un yw ARDDANGOS a HYFFORDDIANT FFURFIOL. Pan fydd arddangos yn digwydd mae'r plentyn yn cael cyfle i fod yn rhan o bwrpas gweithgarwch, i fod yn rhan o fwriad y sawl sy'n arddangos. Yn aml, mewn sefyllfa o'r fath nid yw'r arddangoswr na'r plentyn yn ymwybodol o'r ffaith bod dysgu ac addysgu yn digwydd gan eu bod â'u bryd ar y pwrpas. Mewn gwrthgyferbyniad amlwg â hyn y mae dysgu ffurfiol yn hunan-ymwybodol, yn ddarniog ac yn tueddu i roi ffocws ar yr iaith ei hun. Mae ei bwyslais ar y ffurf yn hytrach nag ar y ffwythiant.) Amod 3 - Disgwyliad Un o'r dylanwadau mwyaf pwerus ar blentyn yw natur y negeseuon cudd y mae'n eu derbyn wrth iddo ymwneud â phobl eraill. I blentyn bach sydd heb eto feistroli iaith y gymuned y mae'n byw ynddi, y mae'r ffaith bod y bobl sy'n ei amgylchynu ag iaith yn dangos yn gwbl amlwg iddo eu bod yn DISGWYL iddo yntau hefyd ddatblygu'n siaradwr, yn ddylanwad pwysig arno. Heb yn wybod fe ddaw i gredu yn ei botensial ei hun fel siaradwr. Bydd yr hyder a ddaw yn sgîl y credu hwnnw yn rhoi hyder iddo arbrofi a mentro gyda iaith. Amod 4 - Cyfrifoldeb Yn y gorffennol bu'n ffasiynol i feddwl am ddysgu iaith fel ffurf ar ddynwarediad. Mae defnyddiau dysgu sy'n arwain athrawon i drin eu plant fel parotiaid yn seiliedig ar y meddylfryd hwn. Ond yr hyn sy'n nodweddu iaith yw ei thuedd, bob amser, i gynrychioli meddyliau'r sawl sy'n ei harfer yn hytrach nag ail adrodd yr hyn a lefarodd person arall. Hynny yw, y mae'r cyfrifoldeb am yr hyn a leferir yn nwylo'r defnyddiwr. Nid yw meistrolaeth y plentyn ifanc ar gonfensiynau'r iaith lafar yn tyfu am fod rhywrai yn ei gymuned yn penderfynu rhoi hyfforddiant penodol iddo ar ddefnydd priodol o ansoddeiriau neu ffurfiau amherffaith y ferf. Tyfu y mae hi trwy i blentyn gymryd arno'i hun y cyfrifoldeb o geisio dilladu ei feddyliau mewn iaith. Fel y dywedodd Halliday, nid mater o'i dysgu hi yn gyntaf ac yna ei defnyddio i wahanol ddibenion yw caffael iaith. Mae'r dysgu iaith yn digwydd wrth i blentyn ddysgu sut y gellir ei defnyddio. Mae sawl llwybr yn perthyn i'r daith hon, ond nid yw pob plentyn yn dilyn yr un trywydd. Amod 5 - Brasamcanu Mewn sefyllfa naturiol, normal, nid oes disgwyl i blentyn gyrraedd safon o berffeithrwydd ieithyddol o'r dechrau cyntaf un, ac y mae goddefgarwch mewn perthynas â'r "amherffeithrwydd" hwnnw yn un o nodweddion amlwg y sefyllfa ddysgu iaith lwyddiannus. Yn aml y mae plentyn yn siarad mewn ffordd ddealladwy ymhell cyn iddo fod â rheolaeth lawn dros seiniau iaith ei gymuned a gall pob defnyddiwr iaith hyfedr saernio brawddegau er nad oes ganddo, o angenrheidrwydd, ddealltwriaeth lawn o "ramadeg" ffurfiol llunio brawddegau. Mater o fentro yw dysgu iaith, o gymryd siawns gyda'r cyfrwng er mwyn cyflwyno neges. Mae angen i blentyn ddeall bod consyrn ei gymuned gyda'i genadwri a bod ei ymdrechion i fynegi'r genadwri honno, sy'n aml yn garbwl a bler, yn gymeradwy yng ngolwg y rhai sy'n ei derbyn. Bydd y plentyn yn sylweddoli hefyd, gydag amser, bod yr hyn sy'n gymeradwy yn newid fel y bydd yn aeddfedu ac yn datblygu fel defnyddiwr iaith wrth i'r rhai sy'n ymwneud ag ef deilwrio eu disgwyliadau yn ôl yr hyn a wyddant am natur eu hyfedrwydd. Amod 6 - Adborth Wrth iddo weithredu'n ieithyddol yn ei gymuned y mae'r plentyn yn derbyn cymorth cyson gan bersonau eraill. Mewn ymateb i'w ymdrech i'w fynegi ei hun, bydd y siaradwr aeddfetach yn cynnig adborth iddo, adborth o fath unigryw sy'n ystyr ganolog ac sydd hefyd yn amddifad o unrhyw elfen fygythiol ee Plentyn Ifanc: "pan" ethin Plentyn HÅ·n: Ia, cwpan Gethin ydi honna ynte neu Plentyn: "nath fi myn i Wrecsam efo nain fi Dydd Sadwrn" Athro: "Mi es ti i Wrecsam hefo dy nain Dydd Sadwrn. 'Dwyt ti'n eneth lwcus. Ni fydd yr un oedolyn sy'n gweithredu mewn sefyllfa fel hyn yn disgwyl i blentyn gofleidio pob elfen yn yr adborth ar unwaith. Bydd yn gwybod yn hytrach mai'n raddol, dros amser, y mae'r darnau ieithyddol yn syrthio i'w lle. Addysg Gynradd Wrth osod y seiliau egwyddorol gwnaed y sylwadau canlynol am addysg gynradd yn gyffredinol gan y Gweithgor: 1.1 Nodweddion ysgol lwyddiannus Er mwyn sicrhau addysg feithrin/gynradd lwyddiannus argymhellir y canlynol: 1 bod y cwrs addysg yn galluogi'r plentyn: - i ehangu ei wybodaeth o feysydd astudiaeth penodol; - i ddatblygu ei sgiliau iaith, rhif a symudiadau corfforol; - i hyrwyddo datblygiad cysyniadau i'w alluogi i gyffredinoli, i gysylltu syniadau a dod i gasgliadau ar sail gwybodaeth a rheswm; - i ddatblygu ymagweddiadau a fydd yn hyrwyddo dysgu, gan gynnwys parodrwydd i holi, i wrando, i arsylwi, i ganolbwyntio ar dasg benodol, i weithio fel unigolyn a chydag eraill, ac i ddysgu o lwyddo ac o fethu; 2 bod y prifathró athrawes a'r staff wedi cytuno ar y nodau sydd yn ymwneud â gwaith academaidd a datblygiad personol a chymdeithasol y disgyblion a bod y canllawiau cwricwlaidd yn glir; 3 bod disgwyliadau clir gan bob aelod o'r staff o'r hyn y dylid ei gael oddi wrth y disgyblion, a bod y disgwyliadau hyn wedi eu sylfaenu ar gyrchnodau y cytunwyd arnynt ac yn sail, yn eu tro, i asesu a mesur cynnydd disgyblion ac i'r cofnodion cyrhaeddiad a gedwir gan athrawon; 4 bod trefnu'r cwrs addysg i amlygu ehangder, cydbwysedd, perthnasedd a gwahaniaethu mewn perthynas â phrofiadau pob plentyn yn sylfaenol bwysig; mae hyn yn rhoi'r cyfle i bob agwedd ar y cwrs addysg i chwarae ei ran briodol, gan fod llawer o'r addysg mwyaf arwyddocaol yn digwydd pan ddeuir â gweithgareddau'r amryfal feysydd at ei gilydd yn un cyfanwaith crwn; 5 bod angen cysylltu amryfal elfennau'r cwrs addysg, ee trwy ddilyn thema neu dopig cyffredin, drwy'r ysgol gyfan pan fo'n briodol; nodir bod budd addysgol a chymdeithasol sylweddol yn deillio o gynllunio hyn yn ofalus; 6 bod cydbwysedd ystyrlon rhwng yr athro dosbarth sydd â'r cyfrifoldeb pennaf dros ddysgu'r dosbarth, a chyfraniadau gan arbenigwyr mewn maes penodol pan fo hynny'n addas; 7 bod adnoddau digonol ac amrywiol ar gael yn yr ysgol; 1.2 Nodweddion gwaith y dosbarth Er mwyn sicrhau rhaglen o brofiadau addysgol a fydd yn eang, cytbwys, perthnasol a gwahaniaethol, argymhellir y canlynol: 1 bod y gwaith yn bwrpasol ac yn ddiddorol er mwyn meithrin hunan ddisgyblaeth yn y disgyblion trwy eu cymell i gymryd cyfrifoldeb dros benderfyniadau'n ymwneud â'r tasgau dan sylw; 2 bod diddordeb y disgyblion yn cael ei gynnal drwy sicrhau amrywiaeth o weithgareddau sy'n berthnasol i'w haeddfedrwydd, cyraeddiadau a'u diddordebau; 3 bod yr athro'n amrywio'i ddulliau dysgu er mwyn herio'r plant i weithredu'n bwrpasol a meddwl yn fentrus; 4 bod yr athro yn cynorthwyo'r plant i feddwl yn ddwys ac i roi trefn ar eu syniadau mewn perthynas â'r gweithgareddau a'r profiadau a ddarperir; 5 bod yr athro'n ymwybodol o'r angen i sicrhau datblygiad iaith pob plentyn er mwyn cynyddu ei gyneddfau meddyliol drwy ei annog, pan fo'n briodol: - i lefaru'n hyderus ac i bwrpas; - i wrando'n astud; - i arsylwi'n fanwl; - i holi cwestiynau pwrpasol; - i ateb cwestiynau'n briodol; - i ymresymu ar sail ei wybodaeth a'i brofiad; - i gynnig damcaniaethau a'u hamddiffyn; bydd yn angenrheidiol weithiau i bwysleisio a sefydlu sgiliau iaith drwy weithgarwch mwy ffurfiol ar gywirdeb mynegiant, cyfoeth geirfa, sillafu cywir, a llawysgrifen ddestlus; 6 bod athrawon yn ymwybodol o gefndir cymdeithasol a diwylliannol y plant a bod y gwaith yn cael ei addasu pan fo'n briodol yn ôl anghenion y cefndir; 7 bod yr athrawon yn hybu disgyblion i ymgyrraedd y safon uchaf o fewn eu gallu mewn gwahanol feysydd profiad; 8 bod cyrhaeddiad pob unigolyn yn cael eu nodi'n ofalus a bod ystyriaeth o hyn wrth drefnu'r profiadau a gweithgareddau sy'n dilyn; 2 MEYSYDD PENODOL YN Y CWRICWLWM 2.1 CYMRAEG Yn y sefyllfa bresennol gellir yn fras ddisgrifio lefel ieithyddol plant mewn pum categori: a) hwyr-ddyfodiaid; b) dysgwyr; c) dysgwyr da; ch) safon estynedig yn y Gymraeg; d) mamiaith. Cyfeirir at bob un o'r categoriau hyn yn yr adroddiad, ond cynhwysir a-ch dan y pennawd Cymraeg fel ail iaith, ac ymdrinir â mamiaith ar wahân. 2.1.1 Cymraeg fel ail iaith Sefyllfa gymhleth iawn yw Cymraeg ail iaith yn y sector cynradd. Mae sawl ffactor yn achosi hyn megis natur ieithyddol y gymuned, polisi iaith yr AALl a hyfedredd yr athrawon yn yr iaith. Ar sail datblygiadau arwyddocaol ac addysgu blaengar ym maes dysgu Cymraeg fel ail iaith yn ystod y deng mlynedd diwethaf awgrymir y canlynol: 1 Mae'n bwysig cynllunio'r gwaith llafar i fodloni gofynion iaith a sefyllfaoedd penodol yn hytrach na gofynion dilyniant gramadegol; byddai hyn yn sicrhau cyfeirio'r gwaith llafar, ar lefel y plant bach a phlant iau, at gyfathrebu y mae iddo berthynas agos ag iaith bob dydd; 2 Byddai'n werthfawr ehangu profiadau llythrennedd y plant sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith gan y byddai hyn yn ymestyn eu sgiliau darllen, ysgrifennu a'u hyfedrwydd llafar; Gan ystyried pwysigrwydd y sylwadau hyn, cytunwyd mai'r nod wrth ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol gynradd yw: "rhoi amrywiaeth o brofiadau addysgol yn y Gymraeg, am gyfnod helaeth o bob dydd o'r flwyddyn gyntaf yn yr ysgol, gan gymryd i ystyriaeth gyraeddiadau gwahaniaethol y disgyblion" Er mwyn cyrraedd y nod hwn rhaid gofalu nad yw'r label ail iaith yn gostwng disgwyliadau. 4 YSTYRIAETHAU ADDYSGOL Y SECTOR Penderfynodd y gweithgor, wrth ystyried anghenion addysg gynradd yn yr iaith Gymraeg heddiw, weithredu yn ôl y canllawiau canlynol: 1 Gosod delfryd; 2 Archwilio'r sefyllfa bresennol; 3 Ystyried blaenoriaethau, o safbwynt gwasanaeth ac adnoddau. Cytunwyd hefyd bod y Gweithgor yn seilio'u penderfyniadau ar yr egwyddorion a'r syniadaeth a nodir yng nghyhoeddiadau diweddaraf y Swyddfa Gymreig a'r Adran Addysg a Gwyddoniaeth, gan ganolbwyntio'n arbennig ar ddau o gyhoeddiadau Arolygwyr ei Mawrhydi: Edrych yn ôl ( ) - Y Swyddfa Gymreig Primary Schools: some aspects of good practice (1987) - Adran Addysg a Gwyddoniaeth 4.1 Nodweddion ysgol llwyddiannus Er mwyn sicrhau addysg feithrin/gynradd lwyddiannus argymhellir y canlynol: 1 bod y prifathró athrawes a'r staff wedi cytuno ar y nodau sydd yn ymwneud â gwaith academaidd a datblygiad personol a chymdeithasol y plant; 2 bod disgwyliadau clir gan bob aelod o'r staff o'r hyn y dylid ei gael oddi wrth y plant; 3 bod canllawiau cwricwlaidd clir gan yr ysgol; 4 bod adnoddau digonol ac amrywiol ar gael yn yr ysgol; 5 bod cydbwysedd ystyrlon rhwng yr athro dosbarth a oedd â'r cyfrifoldeb pennaf dros ddysgu'r dosbarth, a chyfraniadau gan arbenigwyr mewn maes penodol pan fo hynny'n addas; 6 bod angen cysylltu amryfal elfennau'r cwrs addysg, ee trwy ddilyn thema neu dopig cyffredin drwy'r ysgol gyfan pan fo'n briodol; nodir bod budd addysgol a chymdeithasol sylweddol yn deillio o gynllunio hyn yn ofalus; 7 bod trefnu'r cwrs addysg i amlygu ehangder, cydbwysedd, perthnasedd a gwahaniaethu mewn perthynas â phrofiadau addysgol yn sylfaenol bwysig; mae hyn yn rhoi'r cyfle i bob agwedd ar y cwrs addysg i chwarae ei ran briodol, gan fod llawer o'r addysg mwyaf arwyddocaol yn digwydd pan ddeuir â gweithgareddau'r amryfal feysydd at ei gilydd yn un cyfanwaith crwn. 4.2 Nodweddion Gwaith y Dosbarth Er mwyn sicrhau rhaglen o brofiadau addysgol a fydd yn eang, cytbwys, perthnasol a gwahaniaethol, argymhellir y canlynol: 1 bod y gwaith yn anffurfiol ond yn bwrpasol ar yr un pryd; mae hyn yn meithrin hunan ddisgyblaeth yn y disgyblion trwy eu cymell i gymryd cyfrifoldeb dros benderfyniadau'n ymwneud â'r tasgau dan sylw; 2 bod diddordeb y disgyblion yn cael ei gynnal drwy sicrhau amrywiaeth o weithgareddau sy'n berthnasol i'w haeddfedrwydd, cyraeddiadau a'u diddordebau; 3 bod profiadau gwrando, darllen a siarad yn cael eu hamrywio yn ôl pwrpas y gwaith; 4 bod athrawon yn ymwybodol o gefndir cymdeithasol a diwylliannol y plant a bod y gwaith yn cael ei addasu pan fo'n briodol yn ôl anghenion y cefndir. 5 bod yr athrawon yn hybu disgyblion i ymgyrraedd y safon uchaf o fewn eu gallu mewn gwahanol feysydd profiad; 6 bod cyrhaeddiad pob unigolyn yn cael eu nodi'n ofalus; yn dilyn hyn bod arfarniad yn digwydd cyn gosod y dasg nesaf yng ngoleuni'r cyrhaeddiad a'r arfarniad; 7 bod y disgyblion yn ymwybodol o bwrpas pob darn o waith. Dylid nodi bod y Prifathro a'r Brifathrawes wedi cynnig sylwadau penodol ar ddatblygu cwricwlwm yr ysgol gynradd, a bod ysgol un ohonynt wedi derbyn gwobr Brydeinig yn sgîl blaengarwch cwricwlwm yr ysgol. Felly, gyda'r cefndir athronyddol-gyffredinol yn glir, roedd modd symud ymlaen i'r meysydd penodol yn y cwricwlwm. Yn yr adroddiad Edrych yn ôl ceir adran arbennig ar addysg feithrin. Gellir rhannu'r nodweddion gorau rhwng y rhai cyffredinol a berthyn i'r uned neu'r ysgol feithrin a'r rhai mwy penodol yn y dosbarth. 4.3 Nodweddion yr Uned Feithrin 1 Mae'r mwyafrif o ddosbarthiadau ac unedau meithrin wedi llunio'u nodau, eu hamcanion a'u cynlluniau eu hunain gan rychwantu profiadau cymdeithasol, ieithyddol, mathemategol, gwyddonol, creadigol, moesol a chorfforol. Fel rheol, pwysleisiant mai sylfaen meithrin medrau yn yr amryfal agweddau ar y cwrs addysg yw cynnig profiadau dysgu uniongyrchol sy'n hybu diddordeb, chwilfrydedd a mynegiant plant ifanc. 2 Mae arferion meithrin da yn caniatau ar gyfer grwpio plant yn hyblyg yn ôl y gweithgareddau y maen ynghlwm wrtgtbt, ac ar gyfer dewis rhydd o weithgareddau o fewn amrediad eang o ddarpariaeth. 3 Cedwir rhestr gyfeirio o'r prif gerrig milltir yn natblygiad y plant - gall hyn gynnwys agweddau emosiynol, cymdeithasol, corfforol a deallusol. O ganlyniad, gellir graddol lunio disgrifiad cydlynus o gefndir, cyrhaeddiad ac anawsterau'r plentyn. 4.4 Nodweddion Gwaith yn y Dosbarth 1 Yn y dosbarthiadau a'r unedau meithrin gorau cynigir amrywiaeth o weithgareddau ysgogol ar gyfer chwarae pwrpasol y tu mewn a'r tu allan i'r adeilad; 2 Bydd amrywiaeth o offerynau cerddorol ..... oll yn hyrwyddo profiadau gwrando. 5 MEYSYDD PENODOL YN Y CWRICWLWM Cyn manylu ar y gwahanol feysydd, gwnaed y pwyntiau cyffredinol canlynol: 1 Bod llawer o rieni oherwydd diffyg gwybodaeth, yn anwybodus mewn perthynas â'r dewisiadau sydd ar gael iddynt.[Adroddiad ar waith y Gweithgor Cyhoeddusrwydd mewn rhan arall o'r adroddiadau] 2 Bod sicrhau cyhoeddusrwydd i ddarpariaethau a manteision addysg ddwyieithog yn hanfodol bwysig; 3 Ar ôl gweithgareddau amrywiol yn yr oed meithrin, bod addysg disgyblion rhwng 7 a 9 oed braidd yn ddigyffro; 4 Bod angen perswadio athrawon a rhieni o werth y dulliau newydd o ddysgu yn hytrach na dibynnu'n ormodol ar lyfrau, ac awgrymwyd y canlynol fel cyfryngau posibl i'w darbwyllo: i) Hyfforddiant-mewn-swydd ii) Fideos ar arfer da. [Nodwyd bod hyn eisoes ar y gweill yn Awdurdod Addysg Clwyd]. iii) Theatr mewn addysg sydd yn cwmpasu sawl un o'r elfennau creadigol a ystyrir yn hanfodol i ddatblygiad addysg plentyn. Manylwyd wedyn ar rannau penodol o'r Cwricwlwm. 5.1 Cymraeg fel ail iaith Roedd yr adroddiad Edrych yn ôl yn tynnu sylw at ddatblygiadau arwyddocaol ym maes dysgu Cymraeg fel ail iaith: 1 Cynllunio'r gwaith llafar i fodloni gofynion iaith a sefyllfaoedd penodol yn hytrach na gofynion dilyniant gramadegol. Mae hyn yn sicrhau cyfeirio'r gwaith llafar ar lefel y plant bach a phlant iau at gyfathrebu ac mae iddo berthynas agos ag iaith bob dydd; 2 Dylid ehangu profiadau darllen y plant sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith. Byddai hyn yn ychwanegu at gymhwysedd llafar y disgyblion. Mae'r adroddia o'r farn "bod amrywiaeth teg o ddeunydd darllen ail iaith addas ar gael erbyn hyn". 3 Noda'r adroddiad "mai'r datblygiad mwyaf arwyddocaol ym maes dysgu Cymraeg fel ail iaith fu cynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau dysgu gan dimau o athrawon brö. Barn yr adroddiad yw bod "cyfran dda ohono'n gysylltiedig â themâu a thopigau sy'n adlewyrchu diddordebau'r plant. Mae defnyddio'r deunyddiau hyn, sy'n aml yn cynnwys nodiadau cyfarwyddyd ar ddulliau gweithio, wedi arwain at godi safonaü; Gan ystyried pwysigrwydd y sylwadau hyn, cytunwyd mai'r nod o ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol gynradd oedd: "rhoi amrywiaeth o brofiadau addysgol yn y Gymraeg am gyfnod helaeth o bob dydd, o'r flwyddyn gyntaf yn yr ysgol gan gymryd i ystyriaeth gyraeddiadau gwahaniaethol y disgyblion" Cytunwyd: a) bod angen rhagor o fyfyrwyr yn y Colegau Addysg â diddordeb mewn dysgu ail iaith; b) bod angen trochiant llwyr yn yr ail iaith mor gynnar â phosibl ac nad yw ugain munud y dydd o ddysgu ail iaith yn ddigonol; c) bod angen gosod lefelau cyrhaeddiad graddedig a fyddai'n sicrhau dilyniant a chynnydd. Yn sgîl hyn bod angen camu ymlaen o ddysgu ail iaith i ymgyrraedd at safon Estynedig yn y Gymraeg erbyn 16 oed a bod angen dechrau gweithredu'r polisi yma yn y blynyddoedd nesaf; ch) bod angen creu cyrsiau carlam a fyddai'n addas ar gyfer blwyddyn olaf yr ysgol gynrad a blynyddoedd cynnar yr ysgolion uwchradd er mwyn sicrhau yr un cyrhaeddiad; d) bod angen llyfrau darllen addas i ddilyn rhai fel Jac y Do a Sali Mali. Cytunwyd y dylid rhoi blaenoriaeth uchel i Gynllun Darllen Graddedig yn yr ail iaith; dd) bod angen goresgyn yr anhaster o ledu cynllun darllen o un sir i'r llall; e) bod yr Uned Iaith yn gwneud cais i'r Swyddfa Gymreig am Swyddog Cynradd a fyddai'n ymwneud â mamiaith ac ail iaith. Yn y tymor byr, byddai pwyslais gwaith y swyddog ar blant a oedd a phroblemau caffael iaith, am amrywiol resymau; f) bod yr Uned Iaith yn casglu gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael, er mwyn canfod sut yr oedd awgrymiadau'r Gweithgor Cynradd yn cydlynu â chynlluniau'r Uned Iaith; ff) bod angen datblygu gwaith yr Athrawon Bro yn y maes dysgu ail iaith; Pwysleisiwyd rôl yr Athrawon Bro droeon. Nodwyd yr amrywiol agweddau ar eu gwaith [Gweler Ymateb yr AALl]. Cytunwyd na ddylid defnyddio'r Athrawon Bro fel athrawon cyflenwi. Nodwyd bod angen creu cyflenwad digonol o athrawon bro i ymweld ag ysgolion yn yr ardaloedd Seisnig. Credai'r Gweithgor y gallai'r Athrawon Bro gynnig arweiniad i'r athrawon ail iaith yn y dosbarth. Un enghraifft o rôl newydd yr Athrawon Bro yw eu cyngor a'u harweiniad yn y canolfannau i hwyrddyfodiaid a sefydlwyd gan rai o AALl Cymru. Mewn un awdurdod, yr Athró awes B/Fro sydd yn gyfrifol am ymweld ag ysgolion yr hwyrddyfodiaid yn ystod y dyddiau pan na fydd y disgyblion yn y ganolfan, er mwyn sicrhau dilyniant i'r gwaith. "Mae'r pwyslais pennaf ar feithrin llafaredd y plant. Y bwriad yw cysylltu'r iaith â gwahanol brofiadau a bydd gweithgareddau perthnasol yn cael eu cynnwys yn y fwydlen iaith - megis gwaith llaw amrywiol, chwaraeon, symudiadau,g waith dramatig, ayb. Ceisir cyflwyno iaith ar draws y cwricwlwm" [Disgrifiad o ganllawiau un o'r canolfannau] 5.2 Cymraeg Mamiaith Cafwyd cyfeiriadau pwysig at ddysgu Cymraeg fel mamiaith yn yr adroddiad Edrych yn ôl: 5.2.1 "Y dylanwad pennaf ar ansawdd a safon y gwaith yn y famiaith fu'r mabwysiadu helaeth ar ddull sy'n pwysleisio cynhyrchu a defnyddio iaith mewn amrywiaeth cynyddol o gyd-destunau ar draws y cwrs addysg cynradd. O ganlyniad, caiff y plant fwy o gyfle i'w mynegi ei hunan ar lafar ac ar bapur mewn amrywiaeth o foddau, gan gynnig deunydd crai i'w ddadansoddi a'i gywiro ...... Yn y mwyafrif o ddosbarthiadau plant bach, ceir cyplysu clos ar iaith a phrofiad, ac enillir cymhwsedd llafar yn rhwydd. Yn y dosbarthiadau mwyaf effeithiol defnyddir y cymhwysedd hwn yn sail i ddatblygu medrau darllen ac ysgrifennü. A'r adroddiad ymlaen i fynegi gofid bod y rhaglen a gynigir yn nes ymlaen yn yr ysgolion cynradd "yn fwy ffurfiol ac yn fwy caeth i lyfrau ac ni chynhelir, bob tro, y cynnydd cynnar mewn datblygiad llafar". 5.2.2 Mae'r adroddiad yn sôn bod athrawon mamiaith yn dibynnu i raddau helaeth ar ddeunyddiau "a ddeilliodd yn wreiddiol o 2 broject datblygu'r cwrs addysg sy'n ymdrin â datblygiad disgyblion yn eu hiaith gyntaf ar draws yr ystod oedran gynradd". Noda'r adroddiad bod gwelliant yn swm ac ansawdd y deunyddiau oherwydd y projectau hyn, cynllun llyfrau'r CBAC a'r Swyddfa Gymreig a gwaith yr Athrawon Bro. Ond mae'n nodi'r diffygion hefyd: "Er mor bwysig yw'r datblygiadau hyn, erys llawer bwlch, yn enwedig o ran yr angen i gael helaethach amrywiaeth o ddeunydd cyfeirio ac adnoddau i gynnal gwaith project a gwaith topig yn y dyniaethau ac mewn gwyddoniaeth". 5.2.3 Roedd y pwyntiau hyn yn gefndir i drafodaethau ac argymhellion y Gweithgor Cynradd. Cefnogwyd sylwadau'r Adroddiad yn sawl un o brif argymhellion y Gweithgor: 1 Dylid cyplysu dysgu iaith ag amrywiol weithgareddau a fyddai'n symbylu gwaith llafar, megis drama; 2 Bod angen deunyddiau Cymraeg mamiaith ar draws y cwricwlwm. Ond o ystyried anghenion y Cwricwlwm Craidd pwysleisiwyd meysydd Mathemateg a Gwyddoniaeth. Soniwyd hefyd am Gyfrifiaduraeth a Dylunio Crefft a Thechnoleg [manylion pellach isod]; 3 Dylid cefnogi athroniaeth Cynllun y Porth gan ehangu ei orwelion gyda rhagor o ddeunydd pwrpasol. Roedd y Gweithgor o'r farn bod safon iaith Cynllun y Porth yn anodd i ddysgwyr. Nodwyd bod rhai athrawon, erbyn hyn, eisiau canllawiau gramadegol wrth ddysgu Cymraeg; (b) Ysgolion traddodiadol Mae nifer gynyddol o ysgolion traddodiadol uwchradd (o'u cyferbynnu ag ysgolion dwyieithog penodedig) yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwelir uchod bod 24 ohonynt bellach yn Ysgolion Cymraeg yn ôl diffiniad Deddf Addysg 1988. Gobaith PDAG yw gweld cynnydd sylweddol yng nghyfanswm y 42 o Ysgolion Cymraeg presennol (sef 18 ysgol ddwyieithog benodedig a 24 ysgol draddodiadol). Cyflawnir hyn drwy gael rhieni a chyfeillion yr iaith i ddod yn llywodraethwyr ysgol ac i bwyso am gynyddu'r pynciau a ddysgir trwy gyfrwng y Gymraeg. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd rôl llwyodraethwyr a rhieni dan y Ddeddf Addysg newydd. O safbwynt cynnal ac adfer y Gymraeg - boed trwy gyfrwng ysgolion dwyieithog penodedig neu dradoddiadol - mae eu cyfraniad yn allweddol. Patrymau addysg ddwyieithog yn y sector uwchradd Defnyddir yr ymadrodd "addysg ddwyieithog" yn yr adroddiad hwn i olygu addysg a gyflwynir trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Oherwydd bod yr ysgolion uwchradd wedi datblygu polisiau dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn unigol, ceir amrywiaeth o'r naill i'r llall yn ôl y gofyn a'r adnoddau. Fe all y sefyllfa ieithyddol yn yr ysgolion hyn fod yn ddyrys gan achosi nifer o anawsterau. Mae mamiaith y disgybl yn ffactor sy'n cymhlethu'r broses o symud o'r cynradd i'r uwchradd. Yn aml ffurfir dosbarth gallu cymysg o blant a fydd yn derbyn rhan helaeth o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd ffurfir dosbarthiadau o ddysgwyr da a fydd yn derbyn cyfran o'u haddysg drwy'r Gymraeg. Yna, ym mlynyddoedd 2 a 3 ar ôl cyfnod diagnostig o gadw llygad ar gynnydd, dysgir y disgyblion mewn grwpiau wedi'u setio neu ffrydio. Gan mai prif nod y cwrs addysg 14-16 oed ydyw paratoi disgyblion ar gyfer arholiadau allanol, mae'r ymgais i gadw cydbwysedd rhwng y ddwy iaith yn yr amgylchiadau hyn yn golygu bod y patrymau dysgu yn amrywio llawer o ysgol i ysgol. (Gweler yr Atodiad am fanylion mewn perthynas â Modelau Addysg Ddwyieithog) Argymhellir (1) bod angen arfarnu'r systemau dysgu dwyieithog hyn a'u gwella: - drwy gynorthwyo'r athro i ddiwallu anghenion dwyieithog disgyblion o alluoedd cymysg o ran cyraeddiadau iaith a deallusrwydd cynhenid; - drwy fanteisio ar gynlluniau ADAG i ddatblygu dulliau dysgu mwy annibynnol a disgybl ganolog; - drwy gydymffurfio â rhaglenni astudiaeth a thargedau cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol. (2) yn wyneb y safle creiddiol a sylfaenol a roddir i'r Gymraeg, bod yr anawsterau a ganfuwyd yn y modelau dysgu hyn yn amlygu tair problem sylfaenol, sef: - yr angen am ymchwil i ddulliau dysgu dwyieithog blaengar; - yr angen i roi sgiliau ieithyddiol newydd i athrawon; - yr angen i baratoi pecynnau aml-gyfrwng a all gynnal dysgu annibynnol disgybl-ganolog. * Ym 1984-85, dan nawdd grant penodol, ac mewn cyd-gysylltiad â Choleg y Brifysgol yn Aberystwyth, sefydlwyd project - Hyfforddiant mewn Swydd ar ansawdd y profiadau addysgol mewn sefyllfa ddwyieithog a systemau gwahanol o ddwyieithrwydd. (a) Nifer yr ysgolion uwchradd yn defnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng c) Cymraeg fel pwnc ar draws Ysgolion Uwchradd Cymru O'r ystadegau yn (c) gwelir mai canran gweddol isel sy'n dysgu'r Gymraeg fel iaith gyntaf ym mlynyddoedd 1 - 5, ond bod y canran hwnnw'n eithaf cyson o flwyddyn i flwyddyn, gan amlygu'r ffaith nad yw llawer o'r disgblion Cymraeg eu hiaith yn gollwng y pwnc cyn yr arholiadau 16+. Fodd bynnag, mae'r canran sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith yn weddol uchel yn ystod blwyddyn 1 a 2, ond o flwyddyn 3 ymlaen, pan fo'r Gymraeg yn bwnc dewisol, dechreuir gollwng y pwnc nes cyrraedd blwyddyn 4 pryd y mae'r rhifau sy'n cefnu ar y Gymraeg wedi cynyddu'n ddirfawr. (ch) Y Gymraeg fel pwnc yn y Cwricwlwm Cenedlaethol Ym Mehefin 1988 sefydlodd Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cymreig weithgor, dan gadeiryddiaeth yr Athro Gwyn Thomas, i lunio rhaglenni astudiaeth a nodi targedau cyrhaeddiad yn y Gymraeg fel mamiaith ac ail iaith ar gyfer y Cwricwlwm Cenedaethol. Paratoir rhaglenni a thargedau ar gyfer disgyblion 7, 11, 14 a 16 oed, gan nodi tair lefel cyrhaeddiad - disgyblion cymedrol (sef y norm) rhai o allu is na'r norm, rhai o allu uwch na'r norm. Gan fod y Ddeddf Addysg yn sicrhau fod y Gymraeg yn bwnc gorfodol yng nghwricwlwm pob ysgol yng Nghymru i ddisgyblion rhwng 5 ac 16 oed, bydd yn ofynnol i'r gweithgor Cymraeg lunio rhaglenni astudiaeth ar gyfer amrywiaeth eang o ddisgyblion, ee : - plant o gartrefi Cymraeg eu hiaith gyda'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt; - plant o gartrefi di-Gymraeg sy'n mynychu ysgolion cynradd ac uwchradd dwyieithog penodol ac sy'n meistroli'r Gymraeg i'r un lefel o gymhwysedd cyfathrebol â Chymry Cymraeg eu mamiaith; - plant o gartrefi di-Gymraeg sy'n mynychu ysgolion cynradd ac uwchradd dwyieithog penodol ond sy'n profi ychydig anhawster i feistroli holl sgiliau'r Gymraeg i'r un graddau o fedrusrwydd â'r Saesneg; - plant o gartrefi di-Gymraeg sy'n mynychu ysgolion cynradd ac uwchradd traddodiadol ac sy'n dysgu'r iaith drwy gyfrwng gwersi yn y Gymraeg fel pwnc (rhyw hanner awr bob dydd); - plant o gartrefi di-Gymraeg sy'n mynychu ysgolion cynradd lle mae'r ddarpariaeth i ddysgu'r iaith naill ai'n brin neu achlysurol neu lle nad oes darpariaeth o gwbl; - plant sy'n fewnfudol i Gymru ac sy'n cyrraedd yr ysgol gynradd ac uwchradd (yn aml yn y broydd Cymraeg) ar unrhyw adeg yn ystod eu gyrfa ysgol rhwng 5 ac 16 oed. Y nod yw llunio rhaglenni astudiaeth ar gyfer pob un o'r categoriau uchod gan amcanu i sicrhau y bydd cymaint ag sy'n bosibl, os nad pob un, o blant Cymru yn meistroli'r Gymraeg yn ystod eu cwrs ysgol. (Manylir ar y sector ail iaith mewn adroddiad sy'n canolbwyntio ar y garfan allweddol hon.) 1.1.2 Arolwg o'r hyn y gellir adeiladu arno 1. Gwell ymagweddu cyhoeddus at addysg ddwyieithog Mae'r ffactorau oedd yn rhwystro Addysg Gymraeg rhag datblygu ar raddfa gydlynus yn cilio wrth i gynllunwyr ddechrau sylweddoli beth fydd effeithiau dileu'r ffiniau rhwng gwledydd y Gymuned Ewropeaidd ym 1992. Cadarnheir y safle a roddir i'r Gymraeg yn y Cwriwlwm Cenedlaethol gan y canlynol: 1) casgliadau ymchwil sy'n tystio bod unigolion dwyieithog yn tueddu i ragori ar rai uniaith o ran meddwl creadigol a dargyfeiriol; 2) apêl cynyddol gan gyflogwyr am weithlu sy'n meddu ar sgiliau gwaith dwyieithog; 3) goddefgarwch ar ran yr awdurdodau a chynllunwyr polisiau yn gyffredinol tuag at ddiwylliannau llai. Wrth gyfeirio at ddiwylliannau a berthyn i fewnfudwyr diweddar, argymhellodd Gweithgor Swann 1983 sefydlu polisiau amlhiliol, aml- ddiwylliannol ac amlieithog er mwyn symud y farn gyhoeddus ymlaen o'r unieithrwydd ynysig a berthynai i gyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig. Yn sicr, mae'r math hwn o ymagweddu'n gymorth i greu'r hinsawdd briodol ar gyfer datblygu'r Gymraeg; Ond o weithio mewn cyd-destun ag iddo ymrwymiad Ewropeaidd cynyddol, a yw seiliau'r Gymraeg (yn addysgol, yn ddiwylliannol, yn ieithyddol, yn gymdeithasol) yn ddigon cryf i oresgyn y gofynion newydd a ddaw yn sgîl hyn? 1.2.0 Cyfoesedd y cyrsiau addysgú modelau dysgu dwyieithog Yn ddiweddar bu llawer o ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach yn diwygio'u cwricwlwm. Buont yn flaengar eu hymateb drwy ddatblygu : - cyrsiau integredig wedi'u seilio ar y math o gynlluniau traws-adrannol a geir yn "Better Schools"; - cyrsiau addysg ar sail athroniaeth y 9 maes profiad a nodwyd gan AEM (Curriculum Matters 2.) - strategaethau ar sail egwyddorion ADAG gyda phwyslais ar feysydd galwedigaethol; Bellach mae gan yr ysgolion a'r colegau hyn gronfa o batrymau dysgu dwyieithog amserol. Maent yn amserol am iddynt ystyried y cwricwlwm fel uned gyfan sy'n cynllunio fod rhaglen waith unigol pob plentyn yn broses o brofiadau gweithredol. Ochr yn ochr â'r cyrchnodau arholiad, sicrheir fod rhaglen waith pob disgybl yn amlygu: Ehangder - drwy gyflwyno'r profiad ieithyddol/dwyieithog yng nghyd-destun pob un o'r naw maes profiad (mathemategol, gwyddonol, ayb.) ac yn cymhwyso sgiliau'r cwrs addysg i fywyd a gwaith cymunedol; Perthnasedd - drwy gysylltu'r rhaglen waith â'r angen i addasu'r dysgu a'r addysgu i ddiddordeb a gyrfa bersonol y disgybl ee. bod i elfennau addysgol fel iaith a diwylliant werth parhaol i fywyd dinesig ar ôl gadael ysgol; Cydbwysedd - drwy amcanu i ymestyn y dysgu ymhellach na'r gofynion arholiadol ee. rhoi addysg bersonol a chymdeithasol dan bynciau fel gofal iechyd, cynllunio gyrfa, ymddygiad moesol, ymwybyddiaeth wleidyddol/ economaidd ayb. Gwahaniaethedd - drwy addasu'r cyrsiau a'r modd y'u dysgir yn ôl gallu, angen a dyhead y dysgwr. Sefydlwyd sawl arfer dda ar sail addysgu grwpiau cymysg o ran cyraeddiadau iaith a gallu cynhenid. Drwy ddefnyddio dulliau dysgu gwahaniaethol gellir cynnal hyder a diddordeb disgyblion sy'n dysgu drwy ddull dwyieithog. Mae cyflawni nodau gwahaniaethedd yn cryfhau'r dulliau dysgu newydd ar draul dulliau traddodiadol. Mewn erthygl ar Ddysgu Dwyieithog mewn Colegau Addysg Bellach yng Nghymru (Mai 1988), fe eglura Arfon Rhys : "Problem fwyaf y dull traddodiadol o ddysgu yw ei bod yn amhosibl delio ag anghenion myfyrwyr unigol yn drylwyr yn y dosbarth traddodiadol. Tuedd.... yw dysgu ar lefel gallu mwyafrif y dosbarth gan anwybyddu i raddau y mwyaf galluog a'r lleiaf breintiedig... Nid oes cyfle... i'r myfyrwyr ddysgu drostynt eu hunain, ac o'r safbwynt dysgu dwyieithog rhaid anelu'r wers at allu ieithyddol y mwyafrif. Gallai hyn greu problem mewn dosbarth lle mae mwyafrif y myfyrwyr yn Gymry Cymraeg, er enghraifft, gan y byddai tueddiad i'r darlithydd ar gwrs dwyieithog anghofio bod rhaid cadw elfen o Saesneg yn y dysgu hefyd os yw'r cwrs i fod yn un gwir ddwyieithog." Er gwaethaf yr ail bwyso a'r ail ddatblygu y bydd rhaid i Addysg Gymraeg eu hwynebu wrth weithredu'r Cwricwlwm Cenedlaethol, bydd y gronfa o arferion da sydd ar gael yn gynhaliaeth werthfawr. 1.3.0 Ethos Gymraeg yn ddylanwad ysgogol a phwerus Afraid sôn am gryfder y Saesneg yn ein cymdeithas yn gyffredinol; mae'n treiddio i bron bob cilfach ohoni, yn yr ardaloedd gwledig fel yn y trefi a'r dinasoedd. Mae arwyddion Saesneg i'w gweld ar bob tu a'i seiniau'n llifo drwy'r cyfryngau i bob cartref, yn wir i ystafelloedd preifat ein plant a'n hieuenctid drwy gyfrwng y dechnoleg gyfoes. Mae is-ddiwylliant yr ifanc yn eithriadol o gyfoethog a deniadol, ac felly'n rymus. Her addysg Gymraeg yw cyflwyno gwerthoedd gorau ein diwylliant er mwyn galluogi ein disgyblion i fanteisio ar ragoriaethau dau ddiwylliant. Ar sail y cyfoeth sy'n deillio o ddwy iaith hynafol, rhydd addysg Gymraeg gyfle iddynt ehangu eu gorwelion a dyfnhau eu profiadau. Agorwyd yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf hanner canrif yn ôl i gynnal y diwylliant a'r iaith Gymraeg ymhlith plant tref fechan Aberystwyth a oedd yn cyflym ymseisnigo. Yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf ehangodd Addysg Gymraeg y tu hwnt i ddychymyg yr arloeswyr cynnar hyn. Profwyd bod creu ethos Gymraeg fwriadus sy'n adlewyrchu gwerthoedd y diwylliant Cymraeg ar ei orau yn arwain at hinsawdd gefnogol o fewn cymuned yr ysgol (ar ran rhieni, disgyblion ac athrawon) yn ogystal ag ysbryd o genhadaeth. Mae hinsawdd o'r fath yn gymorth i hyrwyddo brwdfrydedd ar ran disgyblion i fanteisio ar bob cyfle y gall addysg Gymraeg ei gynnig drwy elwa'n llawn ar gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg a phrofi agweddau amrywiol o'r diwylliant Cymraeg. Wrth bwysleisio'r Gymraeg a Chymreictod rhoddir statws iddynt ym mywyd a gwaith beunyddiol yr ysgol a rhoddir bri arnynt yng ngolwg y gymdeithas. Felly mae'n bwysig sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn gyson ac yn naturiol ar gyfer pob gweithgaredd a phob busnes dyddiol drwy gyfrwng: - gwasanaeth bore a chyhoeddiadau'r dydd, - rhaglen o weithgareddau cymdeithasol yn cynnwys clybiau adloniadol ac allgyrsiau fel gwersylloedd yr Urdd, Eisteddfodau, gwyliau sgio a thramor, ayb. - arwyddion Cymraeg/dwyieithog ar hysbysfyrddau ymhobman ynghyd â manylion yn Gymraeg/dwyieithog mewn adroddiadau gwaith, cylchlythyron a phrospectws. Eisteddodd Guto. Yn ystod y pwl chwerthin a ddilynodd ffraethineb ysblennydd yr athro taflodd gip slei ar y ddalen bapur o dan y llyfr gwaith. Yn llechwraidd ofalus, agorodd gornel. O dan ei lythrennau bras: BETH AM YFORY? roedd Bethan wedi ysgrifennu'n gymen a haerllug: Beth amdano? Cynddeiriogodd. Roedd wedi hanner disgwyl ateb o'r fath, ond berwai serch hynny. Berwodd am weddill y wers. Byddai wedi hoffi brasgamu i lawr yr eil, ei chodi'n grwn o'i sedd a'i hysgwyd nes bod ei dannedd yn clecian yn ei phen 'mennydd-gwybedyn. Roedd wedi amau fod rhywbeth ar droed a hithau wedi bod yn ei osgoi'n ddiweddar. Roedd wedi bod ar gefn ei cheffyl gwyn drwy'r wythnos, yn gwrthod siarad ag e. Doedd hynny ddim yn newydd. Un oriog a sbeitlyd oedd hi. Duw a ŵyr pam y poenai amdani. Doedd hi'n neb arbennig. Roedd yna ddigon o ferched eraill yr un mor bert â hi, a chanddynt natur fwynach na hi. Piti na fyddai'n clafychu am rywbeth ych-a-fi a fyddai'n ei hagru hi; fel pla o blorod neu ddôs o glwy'r pennau. Byddai wrth ei fodd yn gweld ei hwyneb wedi chwyddo. Byddai hynny'n wers iddi. Yn ei thynnu i lawr beg neu ddau. Y fadam fach la-di-da! Roedd yn dal i ferwi pan ganodd y gloch ganol bore. Fel arfer byddai Bethan yn aros ar ôl i lyfu'r hen Dwm Tew ond y bore hwn roedd ar ei thraed ac allan trwy'r drws cyn i Guto gasglu ei lyfrau at ei gilydd. Erbyn iddo ymladd ei ffordd trwy'r pla o ferched ac allan i'r cyntedd roedd wedi diflannu. Daeth ar ei thraws bum munud wedi hynny, yn eistedd yn ddiogel ar fainc yn yr haul, gyda chriw o'i ffrindiau'n clegar fel gwyddau o'i chwmpas. Llygadrythodd arni o bell; rhythodd hithau'n ôl, ei thrwyn yn yr awyr. Yn ddiweddarach, yn ystod yr awr ginio, aeth i loetran y tu allan i ddrysau tai bach y merched = man na ddylai fod yn agos ato ar unrhyw gyfrif. Ei fwriad oedd ei bachu wrth iddi ddod allan, ond yn amlwg roedd madam wedi rhag-weld ei gynlluniau ac wedi gofalu bod ganddi gwmni. Y tro hwn, edrychodd y ffrind hefyd yn ffroenuchel arno. Anwybyddodd Guto honno ac amneidio ar Bethan. "Ti'n dod i fyny'r ffordd?' "Alla i ddim,' oedd ateb Bethan. "Gormod i' neud.' "Allwn ni ddim,' ategodd y ffrind. "Gormod i' neud.' Bant â'r ddwy gyda'i gilydd, fraich ym mraich. Gallai eu clywed yn giglan wrth iddyn nhw droi'r cornel. Pam roedd rhaid i ferched fod mor annifyr bob amser? Doedd dim disgwyl i ddiwrnod oedd yn dirwyn i ben â dôs ddwbwl o ffiseg fod yn arbennig o bleserus i neb, hyd yn oed os oedd yn ddiwedd yr wythnos. Doedd Ei Mawrhydi ddim yn gwneud ffiseg. Pe bai hi, gallai Guto o leiaf fod wedi eistedd yno'n ei melltithio. Fel roedd pethau, ni fedrai wneud mwy nag eistedd yno'n pendroni. Cwmanai Rod yn ei ymyl ar stôl uchel yng nghefn y lab (eu cuddfan arferol!) yn cyfansoddi brawddegau brwnt yn ei lyfr Ffis a Cem gan wneud ei orau glas i danio diddordeb Guto mewn limrigau coch. "Aeth menyw a deithiai i Lunden...' "Ca dy geg!' "I blatfform yr orsaf yn borcen...' "Gwranda. Ca dy geg, wnei di?' Gwthiodd Rod fysedd i'w wyneb. "Be sy'n dy boeni di?' "Does dim yn 'y mhoeni i.' "Nicyrs Ffansi 'di troi'i chefen?' Wel? Beth os oedd hi? Crymanodd Guto ac edrych yn bwdlyd i lawr y lab lle'r oedd Miss Davies yn potsian â jar gloch a thamaid o falŵn llipa. Pa ots? Doedd hynny ddim yn ei boeni. Doedd e ddim wedi ei ffans**io gymaint â hynny. Rhywun i chwarae o gwmpas gyda hi; dyna i gyd oedd hi. Roedd rhaid i foi gael rhywun; fedrai neb loetran o gwmpas ar ei ben ei hunan; ond a bod yn onest doedd e erioed wedi meddwl rhyw lawer ohoni. Doedd hi erioed wedi codi fawr o chwant arno. A bod yn onest, doedd yr un ferch wedi mennu rhyw lawer arno. Doedd e ddim fel Rod, wedi colli'i ben am ryw. Gallai wneud y tro'n iawn hebddo. Eto i gyd, doedd cael ei wrthod ddim yn beth neis, yn enwedig heb wybod pam. Doedd dim o'i le arno, hyd y gwyddai. Neu oedd e? Oedd ei anadl yn drewi, neu ei gorff, neu = am un eiliad frawychus credodd ei fod yn drewi fel ffwlbart = ond na, yr idiot blewog yna yn ei ymyl oedd yn chwarae â'r llosgydd Bunsen. Byddai'n chwythu'r lle'n danchwa os na fyddai'n ofalus. Edrychodd yn flin arno. Doedd yr un ferch, hyd y gwyddai, wedi gwrthod Rod. Beth oedd gan Rod nad oedd ganddo fe? Doedd dim mwy yn ei ben, doedd e'n dda i ddim mewn athletau, a doedd dim blew ar ei frest. Mae'n wir ei fod wedi dechrau siafio, ond roedd rhaid craffu cyn gweld hynny; a ta beth, roedd y ffaith fod ganddo blorod yn anfantais fawr. Plorod anferth, coch a oedd nawr ac yn y man yn codi'n gop**aon melyn. Doedd dim plorod gan Guto. Doedd ei wyneb ddim fel hen esgid, chwaith. Beth amser yn ôl roedd hyd yn oed wedi clywed ei fodryb Luned yn dweud wrth ei fam, "Ma' Guto chi'n mynd i fod yn fachgen golygus, on'd yw e?' Gwgodd. Mynd i fod ddywedodd hi a gallai hynny olygu ei bod yn dal i edrych arno fel plentyn, yn llyfn, heb fagu siâp. Pe bai'n dod i hynny, doedd e ddim yn siŵr a oedd am fod yn "fachgen golygus'. Byddai'n well ganddo fod yn aeddfed ag wyneb fel hen esgid. Roedd yn siŵr na fyddai'r hen gwcw yna wedi cefnu ar Rod pe bai hi'n mynd allan gydag e. Daliodd Rod ei lygaid a wincio. "Cwyd dy galon...ma'r môr yn berwi o bysgod.' Wel! Dyna beth oedd brawddeg wreiddiol. Ar ei ffordd i lawr i'r ystafelloedd ymolchi ar ddiwedd y dydd aeth am dro o gwmpas y Neuadd Ymgynnull i gael cip slei ar hysbysfyrddau'r tai. Gwnâi hyn bob pnawn Gwener fel cloc. Fentrai e ddim stopio i graffu'n fanwl arnyn nhw, rhag ofn i rywun ei weld a dweud, "Dyna fe'n rhythu, y llo bach, yn chwilio am 'i enw 'to'. Ond roedd yn ddigon diogel i fynd heibio'n ddidaro a thaflu cip cyflym. Ond arswyd y byd = heddiw bu'n rhaid iddo fynd nôl i edrych yr eilwaith i ofalu nad oedd yn dychmygu pethau. Ond doedd e ddim. Rhythodd ar y daflen. Y Tîm ar gyfer Gêm y Tai. Mer. Mai 12. R. Parri (capten) D. Jones G. Bowen... Roedd e wedi cyrraedd! Oedd! Wedi gwneud ei farc. Trwy gil ei lygad, gwelodd gysgod o rywbeth melyn. Trodd fel fflach i weld cwt Bethan yn diflannu trwy ddrws. Magodd blwc a rhedodd ar ei hôl, a'i chornelu lle na fedrai ddianc, ar dop y grisiau oedd yn arwain i lawr i'r ystafelloedd newid. "Wel?' Syllodd arno'n wynebgaled. "Wel beth?' "Wnest ti ddim ateb 'y nghwestiwn i.' "Pa gwestiwn?' "Ro'n i'n meddwl y bydden ni'n cwrdd fory.' "O?' Cododd yr "o' yna'i wrychyn = yn ofnadwy! "'Drycha,' meddai. "Rwy i wedi gweud wrth Rod yn barod y bydden ni'n cwrdd ag e lawr yn y disgo.' "Wyt ti nawr?' Cododd hyn ei wrychyn fwy byth. "'Ti'n gwbod 'mod i wedi blydi wel gweud.' "Paid rhegi,' atebodd Bethan. "Rwy 'di gweud wrthot ti o'r bla'n.' Roedd hi'n ddigon i wneud i unrhyw un regi. Gwasgodd ei fysedd yn ddwrn. Roedd hi'n lwcus y gallai ffrwyno'i dymer. "'Drycha,' meddai, mor dawel ag y medrai, "'Drycha, pan fydd person yn gweud wrth rhywun y bydd e'n gwneud rhwbeth, all e ddim mynd nôl ar 'i air y funud ola.' Taflodd Bethan ei phen yn ôl. "Pwy sy'n mynd nôl ar 'i air? Dwy i ddim yn cofio neb yn gofyn i fi.' Beth roedd hi'n ceisio'i ddweud? Neb wedi gofyn iddi. Roedd hi yno'n rhan o'r grŵp pan wnaed y penderfyniad on'd oedd hi? Os nad oedd am ddod, ei busnes hi oedd dweud hynny. "Ma' hi'n edrych i fi fel pe bai rhai pobol ffordd hyn yn cymryd gormod yn ganiataol,' meddai Bethan. A dechreuodd gochi. Pwy oedd yn gwneud iddi gochi? Trodd yn disgwyl gweld Twm Tew yno, ond y cyfan a welodd Guto oedd Bob Parri, yn dod o'i ymarfer wrth y rhwydau, ei wallt yn chwys i gyd a'i grys yn batsys llaith. Gwenodd Bethan arno, gwên swil, wylaidd, "Hai, Bob'. Cododd Bob Parri ei law gan ateb, "Hai, Bethan'. Yn amlwg, roedd yn gwybod ei henw. Ail flwyddyn y chweched, ac yn gyfarwydd ag enw merch o'r pumed dosbarth nad oedd yn neb. "Paid â chredu y bydd e'n edrych ddwywaith arnat ti,' meddai Guto'n llawn cenfigen. Roedd y gwrid wedi cilio'n barod a thaflodd ei bag dros ei hysgwydd. "'Na beth wyt ti'n feddwl.' Culhaodd ei lygaid. "Wyt ti'n mynd mas 'dag e?' "Falle. Falle ddim.' Yr oedd hi. Roedd e'n gwybod ei bod hi. Roedd am gael gwared arno fe fel y gallai fynd gyda'r twmffat hunanbwysig yna. Dyma pam roedd hi mor swta ac annymunol. Teimlo'n euog roedd hi, roedd hynny'n amlwg. Fel pe bai'n difaru'n sydyn, meddai, "Ma'n flin gen i am ddydd Sadwrn. Fe ddylet ti fod wedi gofyn i fi 'nghynt. Beth am ofyn i Carol fynd 'da ti? "Stwffia Carol,' oedd ateb Guto. Doedd hi ddim wedi mynd i'r pen arno nes y gwnâi unrhyw ferch y tro. Roedd yn well ganddo fod ar ei ben ei hun. Gallai aros gartre i ddarllen llyfr neu roi help llaw i halio cratiau cwrw. Doedd e ddim wedi colli'i ben ar ddisgos, ta beth. A doedd e ddim yn poeni rhyw lawer am ferched chwaith. "Rhywbryd eto, falle,' meddai Bethan. "Cer i grafu,' y carai fod wedi'i ddweud wrthi. Doedd e ddim yn sylw doeth, mae'n wir, ond byddai ei ynganu wedi rhoi pleser ofnadwy iddo = dros dro. Ond ddywedodd e'r un gair o'i ben. Yn ddiweddarach, fe'i holodd ei hun yn dwll = pam y bu mor uffernol o lipa? Wrth gerdded adre'n benisel linc-di-lonc hyd lwybr a redai yn ymyl gwifrau netin uchel y cae chwaraeon, dechreuodd Guto freuddwydio. Y gêm griced rhwng dau o'r tai oedd yr olygfa a gonsuriodd. A gwelai ryw R. Parri yn mynd allan heb sgorio (os am ddewis, ar ôl pêl gyntaf y belawd gyntaf) tra oedd rhywun arbennig o'r enw G. Bowen, yn afrad o ddihidio, yn taro chwechau i'r dde a chwechau i'r chwith...ie, a gwastraff ar amser fyddai iddi hi gredu y byddai e'n ei derbyn yn ôl unwaith eto, o ie. Wnâi e mo hynny hyd yn oed pe dôi hi ato ar ei gliniau gan grefu arno. Rhoesai'r gorau i'r hen fuwch. Unwaith ac am byth. Amen! Gan mai dydd Gwener oedd hi roedd yn rhaid iddo roi stop ar bopeth am wyth o'r gloch (hynny yw peidio â syllu'n wag ar y bocs tra sticiai ei ddychymyg binnau i ddelw gŵyr o Bethan) a mynd ar draws y comin i nôl Catrin o'i dosbarth bale. Roedd honno'n un o'i dasgau rheolaidd, yn un y bu'n ei gwneud ers tri mis, byth er iddi gael ei ffordd a mynd i ddau ddosbarth yr wythnos. Bydd Bleddyn, sydd bellach yn ddarlithydd yn yr Adran Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn traddodi ei araith brynhawn Iau yr Eisteddfod am 1.45 o'r gloch."Os bydd yr Eisteddfod hanner cystal â'r W^yl Gyhoeddi mi fydd hi'n wythnos wych'' - y mae Eirian Dulyn Owen, trefnydd yr Eisteddfod, yn edrych ymlaen at W^yl gofiadwy. Yn enedigol o'r ardal - fe'i magwyd yn Nhalysarn - dywed i'r holl bwyllgorau fod yn eithriadol o weithgar ac er fod llai o "ddwylo'' i'w cael nag mewn ambell ardal arall oherwydd poblogaeth denau ni fu pall ar eu brwdfrydedd, meddai. Y mae Pennaeth Adran yr Eisteddfod, Elvey Macdonald, yn cytuno. Yn yr un mlynedd ar bymtheg y bu ynglÅ·n â'r Eisteddfod gwelodd y gost o'i chynnal yn codi o œ30,000 i œ600,000. "Y mae hyn yn golygu bod cyfrifoldebau pwyllgorau lleol wedi cynyddu i raddau helaeth,'' meddai. Ond fe lwyddodd rhai Eisteddfod Dyffryn Nantlle ac Arfon i ddod i ben â hi yn effeithiol iawn, ychwanega. I wneud yn siwr bod yr W^yl yn llwyddiant ymarferol mewn cyfeiriad arall y mae'r trefnwyr yn awyddus iawn i bawb sydd yn teithio i'r Eisteddfod ddilyn y cyfarwyddiadau traffig i Glynllifon yn ofalus iawn. "Gall eu hanwybyddu olygu arafwch a thagfeydd,'' meddent. Bydd llawer o deithio yn ôl ac ymlaen rhwng Glynllifon a Chaernarfon gan fod dwy o'r prif ganolfannau rhagbrofion, Ysgol Syr Huw Owen ac Ysgol Maesincla, yn y dref. Er mwyn hwyluso trefniadau a gostwng llif y traffig, trefnir bysiau gwasanaeth gwennol a fydd yn teithio, um bob tua pum munud, rhwng y ddwy ysgol a'r maes. Bydd y gwasanaeth yn cychwyn am 7.45 yn y bore. Y maent yn pwysleisio na ddylai neb ddod i mewn i Ysgol Syr Huw Owen i barcio. Lleolir arosfan y bysiau wennol ger prif fynedfa Ysgol Maesincla. Y newyddion da i bawb fydd yn teithio mewn ceir i'r Eisteddfod eleni yw na fydd yn rhaid talu am barcio! Yn ôl Alun Jones, Cadeirydd y pwyllgor cae a phabell, trafnidiaeth a pharcio, y mae hyn eto yn gam i hwyluso llif y traffig i Glynllifon gan mai ond un fynedfa sydd i'r maes. "Er mwyn hepgor anhawsterau wrth i bobl dreulio amser yn chwilota yn eu pyrsiau am bres parcio a dal y traffig i fyny fe benderfynwyd peidio â chodi tâl parcio eleni,'' meddai. Yn ogystal â chystadleuthau amrywiol, yn cynnwys dawnsio disgo a chanu roc, trefnwyd rhaglen lawn ar gyfer pafiliwn Mabirocion. Ymhlith enwau cyfarwydd fel Jess, Geraint Lovgreen a Mojo ceir rhai mwy anghyfarwydd megis Wil a'i Wallgofion a'r Beganifs! Bydd Robert John y consuriwr yn perfformio ddydd Llun a ddydd Mawrth a chewch gwmni Criw Hafoc ar yr un dyddiau. Os am gdaw'ch bys ar byls adloniant cyfoes Cymraeg a mwynhau cystadleuthau'r W^yl, Mabirocion amdani!Yn ôl y trefnwyr y mae'n amlwg bod cystadleuthau Eisteddfod Dyffryn Nantlle ac Arfon wedi taro deuddeg gyda chystadlu ar bob un. Bu cynnydd yn y rhai yn cystadlu ar y Noson Lawen gyda saith chwmni yn mentro i'r maes. Cafwyd cymaint yn cystadlu ar y Gystadleuaeth Cân Gyfoes i rai rhwng 14-25 oed, bu'n rhaid trefnu i gynnal rhagbrofion ychwanegol. Yn ystod yr haf, cyhoeddir Ystadegaeth Elfennol (Gwasg Prifysgol Cymru) gan y Dr Gwyn Chambers sydd yn ddarllenydd yn Adran Fathemateg Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Wedi 36 mlynedd yn yr adran bydd Dr Chambers yn ymddeol flwyddyn i'r haf nesaf. Bu Annes Glynn yn sgwrsio gydag ef am ei yrfa yn y coleg, y newidiadau a fu, y prinder o Gymry Cymraeg sydd yn dilyn gyrfa ym maes gwyddoniaeth, ei ddiddordeb mewn ieithoedd a'i gysylltiad ag ysbiwr i'r KGB... Ganwyd a magwyd Gwyn Chambers yn Llundain, yn fab i Gymro Cymraeg o Lerpwl a Chymraes o Dywyn, Meirionnydd. Pan oedd yn bymtheg oed symudodd y teulu i fyw i Borthmadog. "Cyn hynny, yn Llundain, ieithoedd oedd fy mhynciau cryf i yn yr ysgol. Fel arfer byddwn yn dod yn top yn fy nosbarth mewn Lladin a Ffrangeg. Rhyw bymthegfed fyddwn i mewn mathemateg fel rheol! Ond yn y chweched dosbarth yn ysgol Port. mi ges i athrawes mathemateg arbennig o dda.'' Fu dim troi'n ôl wedyn. Aeth ymlaen i'r Brifysgol ym Mangor i astudio mathemateg ac er i'w ddiddordeb afieithus mewn ieithoedd barhau (gall ddarllen Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Rwseg) ym maes mathemateg y gwnaeth ei fywoliaeth. Ym Mhrifysgol Bangor y bu ers dros ddeg mlynedd ar hugain. Gwelodd sawl newid yn ystod y cyfnod hwnnw: "Y rhan fwya' er gwaeth mae gen i ofn. Yn ystod y blynyddoedd dwaetha, fe fu pwysa' allanol i ehangu'r Brifysgol a'r canlyniad ydi nad ydw i ddim yn 'nabod fy myfyrwyr hanner cystal ag y byddwn i. Mae gen i rhyw dair gwaith yn fwy o fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf eleni nag oedd gen i pan o'n i'n dechra' er enghraifft.'' Sylwodd ar ddirywiad graddol yn safon addysg y myfyrwyr sy'n dod i mewn hefyd meddai. "Dwi'n gwybod bod 'na lot gormod o siarad am addysg yn yr ysgolion gan bobol Prifysgol sy'n gwybod dim am y peth ond mae gen i gydymdeimlad ag athrawon dosbarth chwech dan drefn newydd pethau. Dwi'n poeni na fydd seilia' ar gyfer lefel A mor gadarn ag y buon nhw ac y bydd yn rhaid gostwng safon gwaith dosbarth chwech. Dwi'n sylwi nad oes gan y myfyrwyr sy'n dod i mewn rwan ddim yr un cefndir mathemategol ag oedd ganddyn nhw gynt. Er enghraifft, efallai y bydda'i'n trafod fformiwla y bydda'i'n cymeryd yn ganiataol eu bod yn ei wybod ac yn darganfod nad ydyn nhw ddim. Ychydig flynyddoedd yn ôl fe fydden nhw ar flaenau bysedd y myfyrwyr. Dwi'n cael yr argraff mai 'chydig o swyddi athrawon mathemateg sy'n cael eu hysbysebu y dyddiau hyn. Rhyw ddyfalu ydw i ond dwi'n poeni efallai mai'r hyn sy'n digwydd ydi bod ysgolion yn defnyddio pobol heb gymwysterau iawn i ddysgu mathemateg oherwydd y cyfyngu ariannol sy wedi bod.'' Peth arall sydd yn gofidio Gwyn Chambers yw cyn lleied o Gymry Cymraeg sydd yn mentro i faes mathemateg. Rhyw ddau neu dri sydd yn gwneud gradd anrhydedd yn yr adran eleni, er enghraifft. Mae'n teimlo ei fod yn dueddiad cyffredinol ym maes gwyddoniaeth: "Dydi'r diwylliant Cymraeg ddim yn ymwybodol o wyddoniaeth rhywsut. Y drwg ydi wrth gwrs bod cyn lleied o swyddi yn y maes yng Nghymru; yn ne ddwyrain Lloegr y mae'r rheini. "Ar ben hynny mae gen i ofn bod 'na draddodiad wedi bod yn y coleg yma o benodi Saeson i gadeiriau gwyddonol hefyd. Mae rhywun yn byw mewn gobaith y bydd newid. Ar y llaw arall mae 'na bobol wedi mynd i Brifysgolion yn Lloegr a allai fod wedi cynnig am swyddi yng Nghymru pe bae nhw isio. Ond wnaethon nhw ddim. Ond dydi bod yn Gymro da yn rhywle fel Bradford yn dda i ddim.'' Mae'n cyfaddef nad peth hawdd o gwbl fu bod yn Gymro Cymraeg yn y Brifysgol ym Mangor yn ystod y blynyddoedd diwethaf: " Mae 'na adega' annifyr iawn wedi bod yn y coleg yma, er bod petha'n well dan y drefn newydd. Ond dwi'n cofio cyfnod ychydig o flynyddoedd yn ôl pan oedd y myfyrwyr Cymraeg yn protestio, roedd rhywun yn cyrraedd adre wedi blino'n lân ar ebychiada' harthiog ambell un gwrth Gymraeg yn y lle 'ma. "Tan y protestiadau hynny doedd pobol o'r tu allan ddim wedi sylweddoli cyn lleied o bynciau oedd yn bosib' eu gwneud trwy gyfrwng y Gymraeg yma. Dros y blynyddoedd, fe fu rhai adrannau'n fwriadol yn peidio penodi Cymry Cymraeg. Er bod y rhai fu'n gyfrifol am hyn wedi mynd bellach, y mae'r ethos yn parhau.'' Gwêl Gwyn Chambers fai ar Gyngor y Coleg i raddau helaeth hefyd: "Dwi'n teimlo y dylai rhai o'r aelodau lleyg fod wedi sefyll i fyny yn erbyn yr academyddion mewn blynyddoedd a fu a pheidio â derbyn y cwbwl a ddywedwyd wrthyn nhw'n ddigwestiwn. Yn bersonol, oherwydd fy magwraeth yn Llundain, dydw i ddim yn parchu Saeson fwy nag y dylwn i.'' Er gwaetha'r newidiadau a fu yn y Brifysgol ym Mangor dros y blynyddoedd dywed Gwyn Chambers y bydd yn colli'r ochr ddysgu yn arw. Er hynny fe fydd ganddo ddigon i'w gadw'n brysur. Gobeithia barhau gyda'i waith ymchwil mewn mathemateg gymhwysol a'i waith ar fwrdd golygyddol Y Gwyddonydd , ysgrifennu ambell adolygiad a dilyn ei ddiddordeb mewn ieithoedd (cyfieithodd un o ddramau Gogol,Yr Archwilydd i'r Gymraeg yn ddiweddar). Does ganddo ddim nod arbennig: "Dwi'n un sy'n cymeryd bywyd fel ag y mae o'n dod ac wedi gwneud hynny erioed,'' meddai. BOCS: Cyn ei benodi yn ddarlithydd ym Mangor bu Gwyn Chambers yn gweithio am saith mlynedd gyda Gwasanaeth Gwyddonol y Llynges o ganol y pedwardegau hyd ddechrau'r pumdegau. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n rhannu swyddfa â dyn arall am ddwy flynedd: "Ro'n i'n gwybod 'i fod o'n "uwch sosialydd'' o fath ond roedd o'n foi dymunol iawn ac yn ddiwylliedig tu hwnt. "Dychmygwch y sioc a ges i pan ddarllenais i erthygl am lyfr Chapman Pincher am yr "Apostles''(y grŵp o ysbiwyr yn cynnwys Blunt, Burgess a Maclean) mewn papur Sul ychydig o flynyddoedd yn ôl a gweld llun o'r dyn y bum i'n rhannu swyddfa ag o yn eu plith! A minnau'n gyfrifol am oriad y safe oedd yn llawn o ddogfennau cyfrinachol, pwysig ar y pryd! Y New Statesman a'r Daily Telegraph oedd y papurau newydd y byddai'n eu darllen sydd yn dangos nad oes raid i'ch gwleidyddiaeth chi gydfynd â'r papur newydd 'dach chi'n ei ddarllen bob tro!' 'Y mae i Glynllifon, lle lleolir yr Eisteddfod eleni, hanes cyfoethog. Adeiladwyd tÅ· cerrig helaeth ar y safle gyntaf yn 1607 gan Syr William Glyn, AS Môn ac Uchel Siryf Sir Gaernarfon. Un o berhenogion mwyaf lliwgar y tÅ· oedd Thomas Wynn. Yn y ddeunawfed ganrif ehangodd y stâd trwy adeiladu dwy gaer anferth ar ei dir, sef Caer Williamsberg a Chaer Belan ar geg orllewinol Afon Menai ger Dinas Dinlle. Fe'i hurddwyd yn Arglwydd Niwbwrch yn 1776. Yn 1782, ag yntau mewn dyledion trymion wedi marwolaeth ei wraig, ffodd i'r Eidal gyda'i fab 13 oed. Bu yno am naw mlynedd. Tra yn yr Eidal syrthiodd Thomas mewn cariad â merch 13 oed, Maria Stella Petronilla yn Tuscany. Priodwyd y ddau yn 1786 a dychwelodd y cwpl i Glynllifon yn 1792. Cawsant ddau fab. Wedi marwolaeth Thomas yn 1807 ail briododd Maria â gŵr o Rwsia a hynny ym Mharis. Erbyn 1821 roedd y Plas angen ei atgyweirio'n arw. Gafaelodd mab hynaf Thomas a Maria yn y gwaith a phenderfynodd adeiladu tŵr cerrig sylweddol yng nghanol Parc Glynllifon fel claddfa i'r teulu. Wedi ei farw, parhaodd ei frawd, Spencer Buckley Wynn â'r gwaith ond yn dilyn tân yn 1836 dinistrwyd y rhan helaethaf o'r adeilad. Yn ystod y blynyddoedd dilynol ail adeiladwyd y plasdy a stablau Glynllifon a chodwyd estyniad helaeth yn 1890. Nodwedd fwyaf trawiadol yr adeilad yw'r brif fynedfa sydd â phortico talog yn cael ei gynnal gan chwe colofn Ionig o farmor Môn. Maent yn ffurfio oriel y tu allan i'r llawr cyntaf lle ceir pedwar cerflun yn cynrychioli'r pedwar tymor. Erbyn hyn y mae Glynllifon yn ganolfan ar gyfer cyrsiau llawn amser mewn amaethyddiaeth a cheir dau gwrs preswyl llawn amser. Yn ogystal â chyrsiau preswyl eraill mae Glynllifon hefyd yn Ganolfan iaith a daw disgyblion ysgol yno o bob rhan o Wynedd am wythnos ar y tro i ddysgu Cymraeg ac i'w gloywi. Y tu draw i'r garej roedd rhai coed addurnol wedi eu trimio mor ofalus â chŵn rhech. Y tu draw iddynt hwy safai tÅ· gwydr mawr gyda tho crwn uchel. Yna mwy o goed a thu draw i bopeth, llinell solat, anwastad, anghyffyrddus troed y bryniau. Ar ochr ddwyreiniol y cyntedd, arweiniai grisiau wedi eu haddurno â theils i fyny i oriel â rheiliau haearn a thamaid arall o ramant gwydr lliw. Roedd cadeiriau caled mawr gyda seddau crwn coch moethus wedi eu gwthio yn erbyn y bylchau gwag ar hyd y wal o gwmpas. Nid ymddangosai fod unrhyw un yn eistedd arnynt byth. Yng nghanol y wal orllewinol roedd lle tân mawr gwag gyda sgrîn efydd o bedwar panel colynnog ac uwchben y lle tân roedd silff ben tân gyda chiwpids yn y corneli. Uwchben y silff ben tân hongiai darlun olew mawr ac uwchben y darlun roedd llumanau gwÅ·r meirch, naill ai wedi eu rhwygo gan fwled neu eu bwyta gan wyfyn, ar ffurf croes mewn ffrâm wydr. Roedd y darlun yn un o swyddog mewn ystum ffurfiol yn gwisgo lifrai llawn o tua chyfnod Rhyfel Mecsico. Roedd gan y swyddog fwstas twt, du, imperialaidd, llygaid du, poeth a chaled fel y glo, a golwg cyffredinol dyn y byddai'n talu i gyd-dynnu ag o. Meddyliais y gallai hwn fod yn daid i'r Cadfridog Sternwood. Go brin mai'r Cadfridog ei hun ydoedd, er fy mod wedi clywed ei fod yn tynnu 'mlaen dipyn i fod yn dad i ddwy ferch a oedd yn dal yn eu hugeiniau peryglus. Roeddwn yn dal i rythu ar y llygaid du, poeth pan agorodd ddrws ym mhell yn ôl o dan y grisiau. Nid y bwtler yn dychwelyd ydoedd. Merch oedd yno. Roedd hi tuag ugain oed, yn fychan ac eiddil o gorff, ond ymddangosai'n wydn. Gwisgai drowsus glas golau ac edrychent yn dda arni. Cerddai fel pe bae ar awyr. Roedd ganddi wallt tenau melyngoch, tonnog wedi ei dorri yn dipyn byrrach na'r ffasiwn cyfoes o dresi "gwas bach" wedi eu cyrlio odditano ar y gwaelod. Roedd ei llygaid yn llwydlas fel llechi, a phan edrychent arnaf roeddent yn gwbl ddi-fynegiant bron. Neshaodd draw tuag ataf a gwenodd gyda'i cheg ac roedd ganddi ddannedd bychan, miniog, rheibus mor wyn â bywyn oren newydd ei blicio ac mor ddisglair â phorslen. Roeddent yn loyw wlyb rhwng ei gwefusau main, gor-dyn. Doedd dim lliw yn ei hwyneb ac nid edrychai'n rhy iach. " 'Dach chi'n dal, yn 'tydach?" meddai. " Doeddwn i ddim wedi bwriadu bod." Agorodd ei llygaid yn fawr. Roedd hi mewn penbleth. Roedd hi'n meddwl. Gallwn weld, hyd yn oed mor fuan wedi ei chyfarfod, fod meddwl wastad yn mynd i beri trafferth iddi. "Pisyn hefyd," meddai. "Ac mi ddalia'i eich bod chi'n gw'bod hynny." Ebychais. "Be' 'di'ch enw chi?" "Reilly," meddwn. "Doghouse Reilly." "Dyna fi enw digri." Brathodd ei gwefus a throi ei phen ychydig ac edrychodd arnaf o gornel ei llygad. Yna gostyngodd blew ei hamrannau nes eu bod nhw bron ag anwesu ei gruddiau a'u codi yn ara deg eto, fel cyrtan mewn theatr. Byddwn yn dod yn gyfarwydd â'r tric hwnnw. Bwriad hwnnw oedd gwneud i mi rowlio drosodd ar fy nghefn â'm pedair pawen yn yr awyr. " 'Dach chi'n baffiwr o fri?" gofynnodd, pan wnes i ddim. "Ddim yn hollol. Ffuretwr ydw i." "Ffu..ffu..." Taflodd ei phen yn ôl yn flin, a disgleiriai lliw cyfoethog ei gwallt yng ngolau pŵl braidd y cyntedd mawr. " 'Dach chi'n gwneud hwyl am fy mhen i." "Mm..." "Be'?" "Cerwch o'na," meddwn. "Mi ddaru chi nghlywed i." "Ddeudoch chi ddim byd. Dim ond pryfociwr mawr ydach chi." Cododd ei bawd a'i frathu. Roedd siâp anarferol iddo, yn denau a chul fel bys ychwanegol, heb unrhyw dro yn y cymal cyntaf. Fe'i brathodd a'i sugno yn ara deg, gan ei droi yn ei cheg fel babi gyda theth rwber. " 'Dach chi'n dal ofnadwy," meddai. Yna piffiodd chwerthin gyda rhyw ddifyrrwch dirgel. Trodd ei chorff wedyn yn araf a gosgeiddig, heb godi ei thraed. Disgynnodd ei dwylo yn llipa wrth ei hochr. Gogwyddodd tuag ataf ar flaenau ei thraed. Syrthiodd yn syth yn ôl i'm breichiau. Roedd yn rhaid i mi ei dal hi neu adael iddi daro ei phen ar y llawr brithwaith. Fe'i deliais hi o dan ei cheseiliau a gollyngodd ei choesau odani yn syth. Roedd yn rhaid i mi ei dal yn agos i'w chadw i fyny. Pan roedd ei phen yn erbyn fy mrest fe'i trodd o gwmpas a phiffiodd chwerthin. " 'Dach chi'n ciwt," meddai gyda chwerthiniad bach. "Dwi inna' hefyd." Ddywedais i ddim byd. Felly dewisodd y bwtler yr eiliad gyfleus honno i ddychwelyd trwy'r drysau gwydr a'm gweld yn ei dal. Nid fod ots ganddo i bob golwg. Roedd yn ddyn tal, tenau, ariannaidd, tua chwe deg oed, fwy neu lai. Roedd ganddo lygaid glas, mor bell ag y gallai llygaid fod. Roedd ei groen yn llyfn a chlir a symudai fel dyn a chanddo gyhyrau iach iawn. Cerddodd yn araf ar draws y llawr tuag atom a symudodd y ferch oddiwrthyf gyda phlwc sydyn. Gwibiodd ar draws yr ystafell i waelod y grisiau ac fe'u dringodd fel ewig. Roedd wedi diflannu cyn i mi fedru cael fy ngwynt ataf a'i ollwng allan. Meddai'r bwtler yn ddifynegiant: "Fe wêl y Cadfridog chi yn awr, Mr Marlowe." Gwthiais fy ngên i fyny oddiar fy mrest ac amneidio arno. "Pwy oedd honna?" "Miss Carmen Sternwood, syr." "Mi ddylech chi ei d'yfnu hi. Mae hi'n edrach yn ddigon hen." Edrychodd arnaf gyda chwrteisi dwys ac ailadroddodd yr hyn a ddywedodd ynghynt. Aethom allan trwy'r drysau gwydr ac ar hyd llwybr llyfn o fflagiau coch a oedd yn arwain o'r garej hyd ymyl pellaf y lawnt. Roedd gan y gyrrwr bachgenaidd yr olwg gar sedan mawr du cromiwm allan erbyn hyn ac roedd yn tynnu llwch oddiar hwnnw. Arweiniodd y llwybr ni ymlaen at ochr y tÅ· gwydr ac agorodd y bwtler ddrws i mi a safodd o'r neilltu. Roedd yn agor allan i rhyw fath o gyntedd oedd bron mor gynnes â phobty ar wres isel. Fe'm dilynodd i mewn, caeodd y drws allanol, agorodd ddrws ar y tu mewn ac aethom trwy hwnnw. Yna roedd hi'n wirioneddol boeth. Roedd yr awyr yn fyglyd, yn wlyb a llaith ac yn llwythog gan aroglau gorfelys tegeiriannau trofannol yn eu blodau. Roedd y waliau gwydr a'r to yn drwm gan ager a thasgai diferion mawr o leithder i lawr ar ben y planhigion. Roedd lliw lledwyrdd afreal i'r golau, fel golau wedi ei ffiltro trwy danc acwariwm. Llenwai'r planhigion y lle; roedd fforest ohonynt, gyda dail ffiaidd, cnawdol a choesau fel bysedd dynion marw newydd gael eu 'molchi. Roeddent yn arogleuo mor llethol ag alcohol yn berwi dan flanced. Gwnaeth y bwtler ei orau i'm tywys drwodd heb i mi gael peltan yn fy wyneb gan y dail soeglyd, ac ymhen amser daethom i fan agored yng nghanol y jyngl o dan y to crwn uchel. Yma, mewn man gwag yn cynnwys fflagiau siâp hecsagon, taenwyd hen ryg Twrcaidd coch ar lawr ac ar y ryg roedd cadair olwyn, ac yn y gadair olwyn roedd gŵr oedrannus, yn amlwg yn darfod, yn ein gwylio ni'n dod gyda llygaid du y diffoddwyd yr holl dân ynddynt ers amser maith, ond a gynhwysai o hyd uniongyrchedd glo-ddu y llygaid yn y darlun a grogai uwchben y silff ben tân yn y cyntedd. Roedd gweddill ei wyneb yn fasg difywyd, gyda'r gwefusau di-waed, y trwyn miniog, yr arleisiau wedi pantio a gwaelodion y clustiau yn troi tuag allan sydd yn arwyddion o farwolaeth yn agosau. Lapiwyd ei gorff hir a chul - yn y gwres hwnnw - mewn carthen car a gŵn ymolch coch wedi colli ei liw. Roedd ei ddwylo tenau crafangog wedi eu plethu'n llac ar y garthen, yr ewinedd yn lasgoch. Glynai ychydig gudynnau o wallt gwyn sych i groen ei ben, fel blodau gwyllt yn ymladd am eu heinioes ar graig foel. Safai'r bwtler o'i flaen a dywedodd: "Dyma Mr Marlowe, Cadfridog." Ni symudodd yr hen ŵr, na siarad nac amneidio hyd yn oed. Dim ond edrych srnaf yn farwaidd. Gwthiodd y bwtler gadair wiail laith yn erbyn cefn fy nghoesau ac eisteddais i lawr. Cymrodd fy het gan ei 'sgubo i fyny yn ddeheuig. Yna llusgodd yr hen ŵr ei lais i fyny o waelod pydew a meddai: "Brandi, Norris. Sut ydych chi'n hoffi'ch brandi, syr?" "Fel mae o'n dod," meddwn i. Aeth y bwtler ymaith rhwng y planhigion atgas. Siaradodd y Cadfridog eto, yn araf deg, gan ddefnyddio ei nerth mor ofalus â dawnswraig ddi-waith yn defnyddio ei phâr olaf o sanau gorau. "Roeddwn i'n arfer hoffi fy un i gyda champagne. Y champagne mor oer â Valley Forge a thua trydedd ran gwydraid o frandi odditano. Gallwch ddiosg eich côt, syr. Mae'n rhy boeth yma i ddyn â gwaed yn ei wythiennau." Sefais a thynnais fy ngh^ot oddiamdanaf a thynnais fy hances boced allan a sychais fy wyneb a'm gwddf a chefn fy ngarddyrnau. Doedd St Louis yn Awst yn ddim o'i gymharu â'r lle hwnnw. Eisteddais i lawr eto gan chwilota'n ddifeddwl am sigaret ac yna arhosais. Sylwodd yr hen ŵr ar yr ystum a gwenodd yn egwan. "Gallwch ysmygu, syr. Rwy'n hoffi arogl baco." Taniais y sigaret a chwythu llond ysgyfaint o fwg i'w gyfeiriad ac fe'i gwyntiodd fel daeargi wrth dwll llygoden fawr. Plyciai'r wên egwan yng nghonglau cysgodlon ei geg. "Mae hi wedi mynd pan fo'n rhaid i ddyn foddio ei wendidau drwy gyfrwng un arall," meddai'n sychlyd. "Rydych chi'n edrych ar oroesiad di- fflach iawn bywyd digon lliwgar, cripil â'i ddwy goes wedi eu parlysu a dim ond hanner ei goluddion ganddo. Dim ond ychydig iawn o bethau y gallaf eu bwyta ac mae fy nghwsg mor debyg i ddeffro fel nad yw'n haeddu'r enw bron. Mae'n ymddangos fy mod i'n bodoli i raddau helaeth ar wres, fel pry copyn newydd anedig, ac mae'r tegeiriannau'n esgus dros gael gwres. Ydych chi'n hoffi tegeiriannau?" "Dim yn arbennig," meddwn i. Hanner caeodd y Cadfridog ei lygaid. "Mae nhw'n bethau ffiaidd. Mae eu cnawd nhw'n rhy debyg i gnawd dynion. Ac mae eu persawr fel melyster pwdr hwran." Rhythais arno â'm ceg ar agor. Roedd y gwres meddal gwlyb fel mantell o'n cwmpas. Amneidiodd yr hen ŵr, fel pe bae ei wddf yn ofnus o bwysau ei ben. Yna dychwelodd y bwtler gan wthio troli de trwy'r jyngl, cymysgodd frandi a soda i mi, lapiodd y bwced rew gopr gyda napcyn tamp, ac aeth ymaith ar ysgafn droed rhwng y tegeiriannau. Agorwyd drws a'i gau y tu cefn i'r jyngl. Cymerais lymaid o'r ddiod. Llyfai'r hen ŵr ei wefusau wrth fy ngwylio, drosodd a throsodd, gan dynnu un wefus yn araf ar draws y llall, wedi ymgolli'n alarus, fel trefnwr angladdau yn "molchï ei ddwylo yn sych. "Dywedwch beth o'ch hanes, Mr Marlowe. Rwy'n cymryd fod gen i hawl i ofyn?" "Siwr, ond dim ond 'chydig iawn sydd 'na i'w ddweud. Dwi'n dri deg tri mlwydd oed; mi fum i mewn coleg ar un adeg a dwi'n dal i fedru siarad Saesneg os oes 'na alw am hynny. Does 'na fawr o alw yn fy maes i. Mi fum i'n gweithio i Mr Wilde, y DA, fel ymchwiliwr unwaith. "Mi dd'wedsoch chi'r gwir yn fan'na,' meddai'r gweinidog. "Ac eto, pan fydd gair Duw yn dweud wrthych chi fod pwy bynnag sy'n credu yn yr Iesu yn cael bywyd tragwyddol, rydach chi'n dweud fod hynny'n rhy...rad rywsut. Ond rydych chi'n anghofio, gyfaill, ei bod hi wedi costio'n ddrud ddychrynllyd iddo Fo i'ch codi chi o bwll pechod ac anobaith. Mi gollodd ei Fab ei waed er eich mwyn chi, er mwyn i chi gael cynnig dihangfa.' Dduw ein Tad, diolch i ti am y cynnig sydd yn dy Air di y cynnig o fywyd tragwyddol i bob un ohonom. Cynorthwya ni i dderbyn dy gynnig, ein Tad, fel y cawn ni etifeddu'r bywyd tragwyddol yr wyt ti'n ei gynnig i ni, a llawenhau yn dy gwmni a'th gariad yn y bywyd hwn. Amen (Chwefror 1988) Teimlo'n Hoed Sut hwyl sydd arnoch chi'r bore 'ma? Eitha da? Rydw i'n falch o glywed hynny achos rydw i wedi bod yn eitha stiff yn codi'r dyddiau diwetha 'ma. Fy oed i ydi o mae'n debyg. Mi fydda i'n ddeugain ymhen rhai misoedd ac yn cael ychydig ar y naw o ymarfer corff, i'r fath raddau fel fy mod i wedi dechrau cerdded milltir neu ddwy bob nos er mwyn ceisio cadw'n fwy heini. Ers rhai blynyddoedd sylwais ar fy nghyfeillion, o basio'r deugain, yn rhuthro allan i loncian neu farchogaeth beic, a chael cryn ddifyrrwch o'u gweld yn eu trowsusau bach yn ceisio rhoi taw ar lais amser. A dyma fi, bellach, yn lled fygwth ymuno â nhw er syndod i mi fy hun. Henaint, ys dywedodd rhywun, ni ddaw ei hunan. Ond mae yna gysur bob amser i'r Cristion sy'n teimlo ei fod o'n heneiddio. Dewch gyda mi am dro y bore 'ma i ganol ail lythyr Paul at y Corinthiaid. Dyma a ddywed o: "Am hynny, nid ydym yn digalonni. Er ein bod o ran y dyn allanol yn dadfeilio, o ran y dyn mewnol fe'n hadnewyddir ddydd ar ôl dydd... Gwyddom, os tynnir i lawr y babell ddaearol hon yr ydym yn byw ynddi, fod gennym adeilad oddi wrth Dduw, tÅ· nad yw o waith llaw, sydd yn dragwyddol yn y nefoedd.' Ie, diddorol yntê? Sôn y mae Paul am y lleoedd hynny y mae Duw wedi'u paratoi ar gyfer eneidiau ei bobol. Mae'n cymharu ein cyrff presennol ni â phebyll, pethau dros dro, nad ydyn nhw ddim wedi cael eu hadeiladu i barhau. Ond mae'r tÅ· nefol sy'n ein haros yn cael ei bortreadu'n adeilad cadarn, cryf, rhyfeddol o drigfan gan nad dyn sydd wedi'i godi, ond Duw. Ac fe â Paul ymlaen i sôn am ofal Duw amdanon ni yn yr adeilad hwnnw. Bydd yn ein gwisgo mewn mantell wych o anfarwoldeb wedi'i llunio â'i law ei hun. Does dim disgrifiad manwl, cofiwch; mae'n siŵr fod yn rhaid disgwyl am y profiad ei hun i wybod yr hyn fydd o. Ydyn ni'n teimlo'n hoed y bore 'ma? Twt! Gadewch i ni dderbyn gwahoddiad yr Iesu ac ystyried degawdau'n gerrig milltir ar y ffordd i'r Gogoniant. Hwyl! (Mehefin 1987) Y Sylfaen Gadarn Bore da. Bob blwyddyn, mi fydda i'n mynd ar ryw fath o bererindod yn ôl i weld y tÅ· lle cefais fy ngeni. Rhif un, Greenhill, Pontycymer, ynghanol cymoedd Morgannwg. Dyffryn cul yw Cwm Garw, a thai gl**owyr wedi'u codi yn rhesi ar hyd bob ochor; yn wir, yr unig le fflat yw'r ffordd fawr sy'n arwain at bentref Blaengarw ym mhen ucha'r cwm, y rheilffordd a'r afon a oedd, yn nyddiau fy mhlentyndod, yn ddu, ddu o lwch y glo. Clywais rywun yn dweud unwaith fod llethrau'r cwm lle saif Pontycymer mor serth nes bod modd i drigolion y naill ochor ysgwyd llaw â phreswylwyr y tai ar yr ochor arall. Wel, go brin fod hynny'n wir, ond roedd y mynydd y tu ôl i'n tÅ· ni mor uchel fel ei bod hi'n fachlud arnon ni tua dau y prynhawn, a'n dil&eit mawr oedd cael mynd i Ogmore by Sea weithiau ar fin nos o haf i weld yr haul eto! Rhyw dai digon simsan oedd yn ein rhes ni. Y ddau dÅ· pen, Brynheulog a Brynhyfryd, os ydw i'n cofio'u henwau'n iawn, yn dai o frics coch ac yn gadarn iawn yr olwg. Ein tÅ· ni, wedyn, yn dÅ· cerrig, a dau dÅ· llai yn pwyso arno o'r ochor. A phwyso ar ei gilydd fyddai llawer o'r tai yno, am fod yr hen weithfeydd glo wedi tanseilio cynifer o adeiladau. Un, dau, tri Greenhill oedd ein tai ni a rhifau saith, wyth a naw yn eu dilyn ymhen ychydig, ond yn y bwlch rhyngddyn nhw roedd tomen fawr o rwbel y cyfan a oedd yn weddill o rifau pedwar, pump a chwech. Roedd hen dwnnel tanddaearol, gannoedd o droedfeddi islaw, wedi mynd â'i ben iddo a'r tri thÅ· uwchben a fu'n gartrefi, efallai, i rai o'r coliars a wnaeth y twnnel, wedi disgyn yn domen flêr o gerrig a fframiau ffenestri, ac yn lle chwarae bendigedig i blentyn wyth oed. Mae seiliau'n bwysig. Seiliau cadarn i'n tai a seiliau cadarn i'n bywydau i'n cynnal pan fydd gofalon byd yn pentyrru arnom, a phoen a phrofedigaeth yn cipio'r llawr oddi tanon ni. Dywedodd Iesu, "Pob un felly sy'n gwrando ar y geiriau hyn o'r eiddof ac yn eu gwneud, fe'i cyffelybir i ddyn call a adeiladodd ei dÅ· ar y graig.' Onid ei eiriau ef yw'r graig gadarnaf y medrwn ni seilio'n bywyd arni? (Hydref 1987) Ar Lan y Môr Helô y'a. Roeddwn i'n darllen yn Y Cymro mai tywydd mis Mehefin eleni oedd y salaf ers talwm, ac roeddwn i'n falch o weld Gorffennaf yn cychwyn. Gorffennaf wir, dyna i chi enw ar fis sydd wedi cychwyn arni â thywydd a fu'n grasboeth o bryd i'w gilydd. Sut mae hi heddiw, tybed? Mae yna ymadrodd hyfryd i ddisgrifio tywydd ar ddechrau dydd pan fedr fynd yn hindda neu'n ddrycin: rhyw dywydd "be wna i' yn 'te. I lan y môr yr aeth y wraig a'r plant yr wythnos ddiwethaf. Peth digon masochistaidd i'w wneud yn fy marn i: rydw i'n gochyn ac yn llosgi'n hawdd pan fydd yr haul yn danbaid. Gorfod chwilio am ryw chwe throedfedd o dywod go lân i barcio'r corff, y bwced a'r rhaw a'r holl geriach a chael tywod yn crensian rhwng ein dannedd wrth fwyta'r brechdanau ac yn rhedeg yn afon fach ar hyd y tudalennau rydych chi'n ceisio'u darllen. A'r môr yna wedyn, yn cropian i fyny'r traeth yn ddireidus i gosi bysedd eich traed a gwneud i chi hel eich paciau i rywle arall. Ond wedi dweud hynny, mae yna fwynhad i'w gael o dreulio diwrnod ar lan y môr, a chyfle i ail-fyw ambell bleser o'ch plentyndod coll. Porthcawl, Langland, Oxwich a'r Mwnt padlo, pysgota efo rhwyd ac adeiladu cestyll ar y tywod yn ogystal ag yn yr awyr. Mae'r lleoliad wedi newid erbyn heddiw a'r genhedlaeth nesa'n cael eu difyrru yn sŵn tonnau Dinas Dinlle, Aberdaron, Aberffraw a Benllech. Roedd yr hynaf wrthi'r diwrnod o'r blaen yn codi clamp o gastell a'i addurno â cherrig a gwymon ac yna gwneud ffos o'i gwmpas yn barod i ddal dŵr y môr yn dod i mewn? O, na, roedd milord yn trotian yn ôl a blaen i ymyl y dŵr efo'i fwced, yn tywallt ei llond i'r ffos ac yn methu'n lân â deall pam nad oedd y ffos yn llenwi. Ond o'r diwedd, wedi hir ddisgwyl, cyrhaeddodd y môr y castell a gor-lenwi'r ffos mewn amrantiad. Ac felly y mae hi mewn bywyd pan fyddwn ni'n rhygnu ymlaen yn ein nerth ein hunain. Dim llawer yn digwydd. Fawr o lwyddiant. Ond os gadawn ni i foroedd gallu a chariad Duw olchi trosom a thrwom, gall y rhieni drawsnewid unrhyw sefyllfa a rhoi nerth arbennig i ni i gario ymlaen a brwydro, beth bynnag yw tristwch neu ddigalondid yr amgylchiadau. O Dad, anfon donnau dy ras a'th gariad aton ni'r bore yma. Amen. (Gorffennaf 1987) Darllen y Print Mân Bore da i chi. Wel, mi gefais i fodd i fyw yr wythnos ddiwethaf. Wedi teithio i Lundain ar y trên roeddwn i i nôl y plant, a oedd wedi bod ar eu gwyliau yn nhÅ· Dam-cu a Mam-gu yn Surrey. Penderfynais ddal y trên deng munud i naw adref, ar fore Sul. "Popeth yn iawn,' meddai fy Nhad-yng-nghyfraith, "Mi â' i â chi i orsaf Euston.' A dyma gytuno ar hynny. Ac felly, am chwarter wedi wyth fore Sul, cerddais i mewn i'r concourse yn Euston. Syllu'n reit flinedig ar bawb a cherdded at yr amserlen. Roeddwn wedi gadael fy nghar yng Nghyffordd Llandudno, felly dyma fwrw golwg ar y darn hwnnw o'r hysbysfwrdd a oedd yn cyhoeddi amseroedd "Trenau i Gyffordd Llandudno'. Deng munud i naw. I ffwrdd â mi i chwilio am blatfform un deg pedwar, yn cario cesys, a'm dau ges bach yn trotian yn tu ôl i mi, y ddau'n falch iawn o bobo rycsac ar eu cefnau yn cynnwys eu pyjamas ac ati. Go brin bod angen eich diflasu chi â manylion am y daith bum awr ond wedi cyrraedd arfordir y gogledd dyma ddechrau pryderu tipyn bach. Dyna ni'n gwibio heibio Prestatyn heb stopio; heibio i'r Rhyl, Abergele, Bae Colwyn. A fydden ni'n sefyll yng Nghyffordd Llandudno? Breciodd y trên wrth agos*au at yr orsaf; codais y plant o'u sedd, y cesys o'r tu ôl i amryw gadeiriau a stryffaglio tua'r drws. Arafodd y trên ac yna, gyda dwndwr mawr, rhuodd drwy'r orsaf a'i heglu hi am Fangor! Yno, yn ffodus, roedd yna drên i gyfeiriad Llundain yn ein disgwyl a chyn pen chwinciad roedden ni yn ôl yng nghyffiniau Llandudno eto. Ond fedrwn i ddim peidio â chwerthin pan gyhoeddodd Aled yn y car ein bod ni bellach yn mynd heibio i'r twnnel newydd rhwng Conwy a Phenmaenmawr am y drydedd gwaith! Nawr, pe bawn i wedi oedi i ddarllen y print mân ar yr amserlen yn Euston, buaswn wedi gweld fod angen newid i drên arafach yn Crewe. Mae llawer un wedi talu'n ddrud iawn cyn heddiw am beidio â darllen y print mân. Tybed nad ydyn ni, rai ohonon ni, yn edrych ar air Duw fel print mân nad yw'n berthnasol i'n taith ni trwy fywyd? Anffodus a dweud y lleiaf fyddai peidio â'i ddarllen ac yna canfod i ni wneud camgymeriad o'r mwyaf. (Gorffennaf 1987) Yr Ymwelydd Dirgel Yn yr Unol Daleithiau erstalwm, adroddid chwedl am Iesu Grist, a dyma hi: Roedd yna hen gwpwl, o'r enw Chuck a Martha yn byw mewn caban allan yng nghanol gwastatir Arkansas lle mae'r caeau'n ymestyn yn batrwm fflat diderfyn dros ymyl y gorwel i bob cyfeiriad. Roedd hi'n nosi, a neb i'w weld yn cerdded ar hyd y lôn unig oedd yn arwain at ddrws y caban. Y tu mewn, roedd Chuck a Martha'n eistedd o bobtu'r tân yn ddiamynedd, braidd. Roedden nhw wedi gwahodd Crist i swper. Roedd hi'n hwyr. cyfarwyddiadau mae'r cyfarwyddiadau i'r disgyblion at ei gilydd yn eglur ac yn ennyn hyder, gyda rhyw ychydig o amheuaeth ynghylch profion darllen haen a a b. nodwn fod athrawon wedi canfod rhai anawsterau gyda'r profion darllen ar y lefelau isaf ] diwyg y deunyddiau barn y gweithgor oedd fod diwyg y deunyddiau i'w ganmol gan deimlo bod lliw y clawr, ansawdd y print a'r dylunio'n arbennig yn gallu ennyn ymateb holl ystod gallu CA3. credai'r gweithgor fod yma ddeunyddiau rhagorol i'w defnyddio mewn ysgolion yn y dyfodol fel adnodd yn enghreifftio a safoni'r cwricwlwm cenedlaethol. wrth drafod y profion darllen ac ysgrifennu, mynegwyd pryder fod argraffu profion mewn pedwar lliw ar gyfer pedair haen yn tynnu sylw anffodus at asesiadau nad ydynt eto yn wybyddus i'r disgyblion. yn y cyfarfodydd adborth cadarnhawyd y teimlad hwn er na fynegwyd yr un pryder ynghylch cymraeg ail iaith ]. a yw'r ddarpariaeth asesu mewn haenau a c / ch ), yn arbennig ar gyfer tc 2 a 3, yn dderbyniol ? a yw'n asesu'n ddibynadwy ddisgyblion yr oedd ansicrwydd ynghylch yr haen briodol ar eu cyfer, neu a gam gyflwynwyd ? 3 ) yn y tc llafar teimlai'r gweithgor bod dosraniad yr haenau, yn dair haen, yn gwbl briodol yn rhesymegol, ac yn hawdd ei ddilyn. mae'n digon o orgyffwrdd rhwng yr haenau fel na ddylai unrhyw ddisgybl syrthio rhwng dwy haen. nid oedd y gweithgor yn teimlo bod y dosraniad culach, mewn pedair haen, ar gyfer TC2 darllen ) a TC3 ysgrifennu ) mor llwyddiannus â dosraniad yr haenau yn y llafar. gan fod rheidrwydd ar athrawon i bennu lefelau disgyblion fisoedd ymlaen llaw er mwyn archebu'r papurau prawf priodol, gall hyn arwain at gamlefelu ac, felly at dangyflawni. deallwyd mai gofynion y profion darllen a'r angen i sicrhau ystod priodol o ddeunyddiau darllen a barodd i'r asiantaeth gynllunio ar sail pedair haen, ond wedi rhoi ystyriaeth ddyfnach i'r deunyddiau ochr yn ochr â'r haenau, barn y gweithgor oedd y dylid ystyried eto a ellir asesu darllen mewn tair haen. nid oes unrhyw anhawster gwneud hynny yn y tc ysgrifennu. awgrymai'r gweithgor y dylai'r asiantaeth anelu at asesu tair haen ym mhob targed cyrhaeddiad ym 1993. pe bai modd sicrhau fod elfennau cyffredin yn y gwahanol haenau i asesu'r lefelau gorgyffwrdd byddai hyn yn fanteisiol ; er enghraifft lle bo hynny'n briodol gallai cwestiynau uchaf un haen fod yn gwestiynau isaf yr haen nesaf. a yw'r asesiadau'n briodol ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig ? a oedd ffurf y deunyddiau, lliw ac yn y blaen yn rhwystr i rai disgyblion ? 16 ) gwelir isod rai sylwadau am natur gyfyng y tasgau darllen ar gyfer haen a. bydd angen ymgynghori ymhellach ag ymgynghorwyr arbenigol ynghylch disgyblion ag anghenion addysgol arbennig. nodwn fod athrawon y cyfarfodydd adborth yn argyhoeddedig na ellir asesu lefel 1 a 2 ond pan fo'r disgyblion mewn awyrgylch gyfarwydd a'r athro / awes arferol yn bresennol ]. a fyddai'n briodol defnyddio tas un haen fel paratoad symbyliad ) ar gyfer asesu haen uwch ? 9 ) gwelai'r gweithgor fudd mewn defnyddio deunyddiau haen a yn y tc llafar er mwyn cynhesu disgyblion ar gyfer yr haenau eraill. er y gallai hyn gymryd mwy o amser, byddai pawb wedi cael yr un sbardun cychwynnol cyn symud ymlaen at y dasg yn yr haen briodol. yn sicr, o dderbyn y sbardun hwn yn y llafar a'i barhau o fewn yr un thema gyda'r darllen, yna, byddai'r dasg ysgrifenedig yn manteisio ar y cefndir cyfoethog hwn. argymhellodd y gweithgor y dull hwn o weithredu fyddai yn tanlinellu gwerth thema gyffredin. a yw'r profion a'r tasau yn asesu'n ddilys y datganiadau o gyrhaeddiad y bwriedir iddynt eu hasesu 1 ) ac a ydyw'r dystiolaeth y cyfeirir ati yn y cynllun marcio yn adlewyrchu holl ofynion y dog perthnasol ? 15 ) barn y gweithgor oedd fod yr asesu drwyddi draw yn llwyddo i asesu'r datganiadau, ac y dylid llongyfarch awduron y tasau a'r profion ar eu gwaith. nodwyd bod rhai o'r datganiadau a nodir yn y llyfrynnau cofnod yn anghyflawn, a bod hynny wedi ei ddangos gydag atalnodau ee gan fod llawer o'r datganiadau yn amlweddog y mae hyn yn naturiol, e. e. i asesu TC1 dog 1 ii gwrando ar storiau a cherddi defnyddiwyd stori yn hytrach na na eleni. bydd cyfle i amrywio o flwyddyn i flwyddyn wrth asesu dogau o'r fath. nodwyd bod tasg haen a, asesu darllen trwy lafar, yn gyfyngedig i ddarllen ar goedd, ac er ei bod yn asesu'r dogau 1ii, 2i a 3ii yn briodol, gellid bod wedi asesu ymateb hefyd dogau 2vi, 3iii a 3iv ) i gysoni'r asesu gyda'r haenau eraill, ac er mwyn bod yn gyson â gofynion asesu lefel 3 yn yn allweddol 1 ym 1992 ). credai'r gweithgor bod y prawf darllen ar gyfer haen a yn brawf priodol er fod peth amwysedd ynghylch yr atebion priodol i gwestiwn 1 a allai achosi problem wrth farcio. mynegwyd amheuaeth hefyd a oedd cwestiwn 3 ar gyfer haen b yn ddilys fel prawf darllen, ond yn brawf ysgrifennu, ond manion yw'r rhain mewn cyfanwaith derbyniol. ystyriai'r gweithgor fod pob haen wedi'i'i'n ofalus yn unol â gofynion gwahaniaethol y lefelau. ar gyfer datganiadau cyrhaeddiad TC3 ysgrifennu, edrychodd y gweithgor yn fanwl ar y datganiadau gan gymharu'r cynnwys yn y llyfryn cofnod a'r dog gwreiddiol yn y cwricwlwm stadudol. o'u hastudio'n fanwl gwelwyd fod popeth perthnasol i'r ddau linyn a oedd yn cael eu hasesu eleni yno. roedd llinyn mynegi safbwynt a barn wedi'i hepgor o'r llyfryn cofnod gan nad oedd yn cael ei asesu eleni. roedd y gweithgor felly'n hollol fodlon bod cynnwys y llyfryn cofnod yn gyflawn ac yn gywir ac yn adlewyrchiad o asesu dilys. a yw'r cynlluniau marcio yn rhai priodol ? 15 ) canmolwyd y llyfryn cofnod fel dull clir a hylaw o asesu ac o gofnodi. barn y gweithgor oedd fod canllawiau asesu yn fwy priodol na'r pennawd cynllun marcio, gan fod asesu datganiad yn wahanol i gynllun marcio traddodiadol. deallwyd mai ymateb i gais athrawon yr oedd yr asiantaeth wrth osod y cynllun marcio ochr yn ochr â'r dogau ac mai ymgais oedd hyn i daflu goleuni pellach ar y dogau. codai amryfusedd yn y meddwl athrawon wrth geisio dehongli a mewnioli'r datganiadau, a gwelwyd y cynllun marcio fel canllaw buddiol er enghraifft TC1 llafar t 4 dog awgrym y cynllun marcio lefel 3 cynnig sylwadau sylwadau sy'n fwy nag un frawddeg lefel 4 cyfrannu'n effeithiol rhoi o leiaf dri sylw lefel 5 cyfrannu'n effeithiol cymryd rhan yn gyson trwy wneud cyfraniadau rheolaidd TC2 darllen t 4 dog cynllun marcio lefel 4 casglu gwybodaeth rhoi o leiaf dri rheswm lefel 5 cyflwyno mewn ffurf addas ysgrifennu hyd at un ochr tudalen lefel 6 dynodi'r prif bwyntiau ysgrifennu mwy nag un ochr i dudalen lefel 8 cyflwyno'n eglur cyflwyno gwybodaeth gynhwysfawr yn hollol glir a threfnus ystyriai'r gweithgor fod y cynllun marcio yn cynnig canllawiau gwerthfawr, ond fod angen gofalu rhag i'r canllawiau droi'n hualau. mae'r enghreifftiau uchod o ysgrifennu hyd at un tudalen neu fwy nag un tudalen yn galw am asesiad gwahanol lle bo maint yr ysgrifen yn amrywio. mewn man arall tc 1 lefel 5 ) gelwir am bum brawddeg mewn cyd-destun llafar lle nad yw brawddegau yn hawdd i'w cyfrif. naws y a chyfraniad pob disgybl sydd yn bwysig wrth benderfynu'r lefel. roedd y gweithgor yn argymell parhau gyda'r canllawiau asesu, gyda rhybudd i athrawon eu dehongli yn ôl eu barn broffesiynol. credai'r gweithgor fod y llyfryn enghreifftiol o waith disgyblion o'r ysgolion fu'n cyn- dreialu'r gweithgareddau yn werthfawr fel canllaw pellach ar gyfer asesu ac ar gyfer safoni. dosbarthwyd y llyfryn hwn i bob ysgol ar gyfer marcio'r tasau. awgrymai'r gweithgor y dylid sicrhau deunydd cyffelyb yn y blynyddoedd i ddod. a yw'r profion a'r tasau yn cwrdd â gofynion CA3 caay i asesu o leiaf hanner y datganiadau o gyrhaeddiad ar unrhyw lefel ? 5 ) derbyniai'r gweithgor mai dim ond trwy asesu parhaus gan athrawon y gellir asesu rhai dogau. hefyd ni ellir mewn un flwyddyn asesu trwy das a phrawf pob un o'r dogau y mae'n bosibl ei asesu. hanfod asesu o'r fath yw yw, ac mae'n hanfodol cyfuno asesiad athro gydag asesiad tas a phrawf. ar ran yr asiantaeth scya ) cyflwynwyd achos fod y tasau a'r profion yn asesu o leiaf hanner y datganiadau y gellid eu hasesu yn y modd hwn mewn amser rhesymol, a mynegodd y gweithgor fod hon yn egwyddor dderbyniol, o gofio mor gynhwysfawr y mae llawer o'r dogau. wedi i'r gweithgor gyfarfod lluniwyd dadansoddiad pellach o'r datganiadau o a aseswyd gweler yr atodiad i'r adroddiad hwn ) sy'n cadarnhau'r gosodiad uchod ac yn egluro pam fod rhai lefelau fel pe baent yn brin o'r nod. oes yna ddatganiadau eraill y gellid eu hasesu trwy'r profion neu'r tasau ? 5 ) derbyniai'r gweithgor na ellir asesu'r dogau canlynol ond trwy asesiad parhaus : TC1 cyflwyniad llafar 4iv 5iv 6 iv TC1 cyflwyniad testunol efallai ) 3iv 4iii 5iii 6iii 8ii 9ii 10ii TC2 darllen yn gyson dog i ar bob lefel TC3 ail ail ail ail ail ail ail mae elfen o ddewis rhwng datganiadau yn anorfod oherwydd cyfyngiadau amser. gwnaed hynny ym 1992 trwy asesu ysgrifennu creadigol, a chyflwyno gwybodaeth gan adael mynegi barn TC3 dog ii o lefel 4-9 ) o'r neilltu am y tro. hefyd dewiswyd darnau rhyddiaith yn hytrach na barddoniaeth i ymateb iddynt ar wahân i haen ch ) yn TC2. yn yr un tc nid aseswyd y dogau sy'n cyfeirio at ddadansoddi technegau testunau anllenyddol TC2 5iii 6iii 7iii 8iii 9iii ). dylid asesu'r dogau hyn yn eu tro. un clwstwr sylweddol arall o ddogau nas aseswyd ydyw'r dogau sy'n ymwneud â nodweddion iaith yn hytrach na na iaith, lle'r aseswyd y dogau i gyd ) : TC1 3 v 4 v 5 v 6 v 7 iv 8 iv 9 iv 10 iii TC2 5 v 6 v 7 v 8 v 9 v 10 v TC3 5 vii6 vi 7 vi 8 v 9 v 10 iv hwyrach fod angen dehongli ac enghreifftio mwy ar y dogau hyn cyn y gellir eu hasesu, gan fod eu mynegiant yn aml yn wahanol i'r dogau eraill. lle bo sampl o ddatganiadau o gyrhaeddiad yn cael eu hasesu trwy brofion a tasau, gall hynny, fel mewn unrhyw arholiad, ddylanwadu ar ganlyniadau'r asesiad. gall disgybl sydd yn llwyddo'n well i ysgrifennu stori nag i fynegi barn fod ar ei fantais eleni, ac i'r gwrthwyneb. gall natur y dasg neu hyd yn oed ofynion y datganiad ei hun amrywio. bydd angen dadansoddiad manwl yn nes ymlaen i ganfod a oes arwyddocaol rhwng asesiadau'r gwahanol ddogau. rhoddodd y gweithgor sylw manwl i'r targedau cyrhaeddiad unigol, a'r materion a godwyd can caay. TC1 llafar pa mor hylaw yw'r das hir eleni ? 9 ) barn y gweithgor oedd fod y das estynedig yn fodd effeithiol i gyflawni'r asesiad llafar ac i gadarnhau asesiad athro. cytunwyd hefyd fod y das lafar yn bwysig i gadarnhau statws yr iaith gymraeg yn y cwricwlwm ac i gadarnhau pwysigrwydd gwaith llafar er mwyn cyflawni amcanion y cwricwlwm cenedlaethol cymraeg. bydd deunyddiau'r das hon yn werthfawr er enghreifftio a safoni'r cwricwlwm cenedlaethol. a yw'r canllawiau ar gyfer cyflwyno'r das hir yn eglur a diamwys ? a ydyw athrawon yn gyson yn eu cyflwyniad, ac yn eu dehongliad o'r cymorth a ganiateir i ddisgyblion ? 7 ) hyd y gellir barnu ymddengys fod y canllawiau yn eglur er fod cryn swmp ohonynt. byddai'n well pe byddai'r cyfarwyddyd ar gyfer haen 1 t 7 ) yn yr un ffurf â'r cyfarwyddyd ar gyfer haen 2, a phe cyfeirid at haen a b c ch fel yn y dogfennau terfynol. gyrfa'r gŵr o dregaron carey jones tud. 47-54 ) heddwch er iddo wneud llawer dros gymru ac addysg a thros ymneilltuaeth a rhyddid crefyddol cofir am henry richard yn fwyaf arbennig heddiw fel apostol heddwch. teilyngodd y teitl hwn am iddo weithio mor ddiflino o blaid heddwch a cheisio dwyn gwledydd y byd i gyd-fyw yn heddychlon â'i gilydd. ar derfyn y rhyfel a fu rhwng prydain a ffrainc, sef yn 1815, roedd trigolion prydain yn dyheu am heddwch. ni olygai hynny eu bod yn gwrthwynebu rhyfel fel y cyfryw, ac arwydd o hynny oedd y dathliadau a drefnwyd ganddynt ar ôl buddugoliaeth prydain ym mrwydr mrwydr. pobl i'w difrio fel cachgwn oedd y pasiffistiaid, a hyd yn oed ar ôl 1815 nid oedd llawer o bobl yn barod i dderbyn y syniad o ddileu rhyfel yn gyfan. eu dyhead oedd cael mwynhau cyfnod hir o heddwch gan obeithio na fyddai'n rhaid i brydain ryfela am flynyddoedd lawer, a chredai rhai fod dyfodol masnach prydain yn dibynnu ar heddwch ar fôr a thir. yng nghymru ceisiodd pregethwyr o fri ddarbwyllo eu cynulleidfaoedd y dylent gefnogi bob ymdrech i ymgyrchu o blaid heddwch. y gweinidogion cryfaf eu sêl oedd william rees gwilym hiraethog ) a samuel roberts s. r. ), ac wrth gwrs henry richard, ymhlith eraill, yn lloegr. roedd cymaint o sôn am heddwch ym mhobman a chafodd ei osod fel testun cystadlaethau mewn llawer o eisteddfodau, gan gynnwys yr eisteddfod genedlaethol, ac enillodd gwilym hiraethog gadair am ei awdl ar heddwch yn 1851. yn ôl yn 1816 sefydlwyd cymdeithas heddwch yn llundain, i hyrwyddo'r gwaith dros gael heddwch sefydlog, a chrynwr o dde cymru oedd un o'r gwür a sefydlodd y gymdeithas ac ef oedd ei chadeirydd cyntaf. ei enw oedd joseph tregelles price, meistr gwaith haearn mynachlog nedd, ger castell nedd. bu farw yn 1854. cymro oedd ysgrifennydd cyntaf y gymdeithas, sef evan evans o gastell nedd. aeth y gymdeithas o nerth i nerth ac roedd iddi ganghennau yn lloegr a chyfandir ewrob. yr unig gangen yng nghymru, yn ôl pob tebyg, oedd cangen abertawe a nedd, a sefydlwyd gan joseph price yn 1817, a dosbarthwyd ganddi lawer o bamffledi ac ysgrifau cymraeg i gyflwyno safbwynt y gymdeithas heddwch. siaradai llawer o wy ^ r amlwg prydain yn gyhoeddus yn erbyn rhyfel ac ar un adeg dywedodd un o weinidogion y llywodraeth mai angen, newyn, haint a marwolaeth yw rhyfel. erbyn 1848 roedd holl wledydd dylanwadol y byd yn gwybod am y gymdeithas heddwch ac roeddynt yn barod i wrando'n eiddgar ar ei neges. dyna'r flwyddyn pan benodwyd y parchedig henry richard yn ysgrifennydd y gymdeithas a bu'n weithgar a llwyddiannus yn ei swydd am dri deg a saith o flynyddoedd. cyfnodolyn y gymdeithas oedd herald of peace ac ysgrifennai henry richard yn rymus a threiddgar iawn ynddo o blaid heddwch. bu'n llafurio'n gyson o blaid heddwch am flynyddoedd cyn hynny, gan deithio o amgylch y wlad i ddarlithio ac annerch cyfarfodydd yn aml. defensive war oedd testun ei ddarlith yn y neuadd fasnach,, street, llundain ar y pumed o chwefror 1845. pwysleisiodd ynddi nad oedd yn cytuno â'r farn mai ei hamddiffyn ei hun a wna gwlad sy'n ymosod ar wlad arall. nid oedd sail i'r ddadl, meddai, y dylid condemnio pob rhyfel ac eithrio rhyfel amddiffynnol. gweithred o drosedd yw pob rhyfel, gan gynnwys rhyfel amddiffynnol, a phan eir i ryfel, meddai, ystyriwch hyn am funud : yn ôl pa safon neu wrth pa fesur yr ydych am reoli eich dialedd fel na fydd yn gallu bod yn fwy na'r union daliad sy'n ddyledus ichwi am yr hasliau a dreisiwyd neu'r anrhydedd a sarhawyd ? pan ddeuant wyneb yn wyneb â'r gelyn, a ydych am orchymyn llu o ddynion... i ofalu eu bod yn diogelu'r llinell fain, frau, a gwan i'r golwg, sy'n gwahanu amddiffyniad oddi wrth drais, a'u rhybuddio mai gwladgarwyr ac arwyr ydynt tra byddont ar y naill ochr i'r llinell ond eu bod yn troi'n llofruddion unwaith yr ânt drosti i'r ochr arall ? a ydych am ddweud wrthynt eu bod i fynnu cael gan y gelyn y mesur iawn o gyfiawnder i'w gwlad, a bod cael mymryn yn rhagor na hynny yn eu gwneud, o fod yn weinidogion cyfiawnder, yn weithredwyr gormes a chamwri ?... a gâf awgrymu ichwi y gellir amau'n gryf ddilysrwydd egwyddor tebyg i'r un yr ydych chwi sydd o blaid rhyfel amddiffynnol yn sefyll wrthi, ac na ellir ei gweithredu heb ei bod yn arwain o raid, fel canlyniad i hynny ac mor anochel â ffawd, i holl gamwedd ac erchylltra yr holl drefn ? ac, fel mater o ffaith, os cyfaddefir bod rhyfel amddiffynnol yn gyfreithlon yna fe ganiateir popeth, oblegid onid yw'n ofnadwy o beth fod pedwar ar bymtheg allan o ugain o'r rhyfeloedd mwyaf erchyll sydd wedi gorlifo'r ddaear â gwaed wedi cael eu hymladd i'r pwrpas hwnnw, neu o leiaf fel esgus am hynny ? roedd ei allu fel pregethwr dylanwadol yn amlwg iawn yn ei ddawn fel areithiwr effeithiol a daeth i fri yn fuan iawn fel siaradwr cyhoeddus. digwyddodd richard cobden glywed, ar un adeg, am y canmol mawr a fu ar anerchiad henry richard gerbron tyrfa fawr yn neuadd masnach rydd, manceinion, ac mewn llythyr at joseph sturge, ar yr unfed ar bymtheg o ebrill 1849, dywedodd, by by way, i heard at manchester that you have made quite a hit in mr. richard richard richard old leaguers * say was equal to any other orator ever heard in in free trade hall. " roedd gan unol daleithiau america ei hapostol heddwch hefyd, sef elihu burritt, ac roedd gan y wlad honno ei mudiadau heddwch gweithgar. ymwelodd elihu burritt â llundain gyda'r bwriad o allu cynnal cynhadledd heddwch ryngwladol. dechreuodd gydweithio â henry richard ac yn y man penderfynwyd ar gynnal y gynhadledd gyntaf ym mrwsel, prifddinas gwlad belg, yn 1848. teithiodd y ddau ohonynt i'r ddinas honno cyn hynny er mwyn trefnu'r cyfan ac i geisio sicrhau cefnogaeth senedd y wlad i'w bwriad. hon oedd y gynhadledd gyntaf o chwe chwe ym mrwsel 1848 ), paris 1849 ), frankfort 1850 ), llundain 1851 ), manceinion 1853 ) a chaeredin 1853 ). gellir nodi yma mai prif bwrpas trafodaethau yr holl gynadleddau oedd : 1. cael y gwahanol wledydd i ddatrys pob gwahaniaeth a chamddeall rhyngddynt drwy gyflafareddiad. hynny yw, pe codai anghydfod rhwng gwlad a gwlad yna disgwylid i'r ddwy ohonynt ofyn i rhyw wlad a oedd yn gyfeillgar â'r ddwy ohonynt i'w cymodi a'u hatal rhag mynd i ryfel. 2. pwysleisio nad oedd unrhyw wlad i ochri drwy ryfel â gwlad a oedd yn rhyfela yn erbyn gwlad arall, nac i gefnogi dadl y naill wlad na'r llall dros fynd i ryfel. 3. galw ar y gwledydd i ddod i berthynas glosiach â'i gilydd. bu cynhadledd brwsel yn llwyddiant mawr ac ar ei therfyn dywedodd ei llywydd, m. auguste visschers, mae'n dda gennyf gael dweud bod carreg gyntaf teml heddwch wedi cael ei gosod ym mrwsel. canlyniad y llwyddiant oedd i'r mudiad heddwch gael hwb pendant a haeddiannol ymlaen ac i'r gymdeithas heddwch ennill amlygrwydd a chyhoeddusrwydd iddi hi eu hun a'i gwaith. bu cynrychiolwyr wyth gwlad yng nghynhadledd brwsel ond nawr roedd henry richard ac elihu burritt wrthi'n brysur yn trefnu ar gyfer cynnal cynhadledd ym mharis, prifddinas ffrainc, ac yn ystod mis awst 1849 ymwelodd y ddau ohonynt â'r ddinas. un o lenorion enwog ffrainc bryd hynny oedd m. de lamartine, ac roedd ef yn frwd iawn dros gefnogi'r gynhadledd. yn wir, sylweddolwyd bod ymdeimlad cryf yn ffrainc y wlad a fu'n rhyfela yn erbyn prydain am ddwy flynedd ar ar o blaid cael th rhwng y gwledydd. cynhaliwyd cynhadledd paris yn awst 1849 a'i llywydd oedd y bardd enwog, victor victor. roedd nifer fawr o gynrychiolwyr y gwledydd yn bresennol yno ac roedd saith gant ohonynt o loegr ac unol daleithiau america. dau o'r prif siaradwyr oedd john bright a richard cobden dau o wy ^ r mwyaf blaenllaw lloegr a phleidwyr masnach rydd. roedd richard cobden eisoes wedi dwyn mater cyflafareddiad i sylw ty ^'r cyffredin am y tro cyntaf yn ystod mehefin 1849. bu'r ail gynhadledd mor llewyrchus â'r gynhadledd gyntaf a phan ddychwelodd henry richard o ffrainc cynhaliwyd nifer of gyfarfodydd cyhoeddus drwy brydain, a'r rhai mwyaf nodedig ohonynt ym manceinion a birmingham, i ategu a gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed ym mharis. roedd amryw o gyfeillion henry richard yn ei edmygu'n fawr am ei waith a'i safiad dros heddwch parhaol a byd-eang, ac fel arwydd o'u hedmygedd derbyniodd rodd o bymtheg cant o bunnoedd, ynghyd â beibl. blwyddyn go brysur oedd 1850 i'r gymdeithas heddwch. bu'n ddiwyd iawn yn ceisio cael rhagor o gefnogaeth i achos heddwch gan drigolion prydain. un ymhlith llawer o gyfarfodydd tebyg oedd yr un a gynhaliwyd yn yorkshire hall', wrecsam ar y deuddegfed o dachwedd a'r tri siaradwr yno oedd joseph sturge, y crynwr o birmingham, richard cobden a henry richard, gyda townshend mainwaring, aelod seneddol bwrdeistrefi dinbych, yn llywyddu'r cyfarfod. ond cyn hynny, ym mis awst, cynhaliwyd prif ddigwyddiad y flwyddyn, sef cynhadledd frankfort, yr almaen. ar eu taith yno bu'n rhaid i henry richard ac elihu burritt alw ym mharis gan fod cyfarfod croeso wedi cael ei drefnu ar eu cyfer ac yno i'w derbyn roedd m. de lesseps, sef y peiriannydd enwog a gynlluniodd gamlas suez. cawsant groeso yr un mor frwd ar ôl iddynt gyrraedd frankfort. un o'u dyletswyddau cyntaf yno oedd ymweld â'r barwn humboldt yn potsdam, er mwyn ei wahodd i lywyddu'r gynhadledd. g adroddiad dywedodd am henry richard : byddai yn hoff gennym iddo gael drws agored drwy ryw ran o gymru i sefyll a lleisio yn y senedd o blaid achos heddwch. hefyd yn 1850 penderfynodd henry richard roi heibio ei ofal o eglwys annibynnol marlborough, old kent road, llundain er mwyn iddo gael rhagor o amser i ganolbwyntio ar ei waith dros heddwch. dyna'r rheswm pam y gwrthododd wahoddiad yn 1853 i fod yn brifathro coleg diwinyddol aberhonddu ac ar gyngor richard cobden dechreuodd alw ei hun, yn ystod y flwyddyn honno, yn mr. henry richard. blwyddyn cynnal yr arddangosfa fawr yn llundain oedd 1851. codwyd y palas grisial ar ei chyfer ac un o'r arolygwyr oedd cymro o'r enw john jones, sef y bardd talhaiarn. llwyddodd henry richard i gael peth dylanwad ar swyddogion yr arddangosfa a phenderfynasant beidio â chyflwyno gwobrwyon i'r cwmnïau a oedd yn arddangos arfau rhyfel ynddi. roedd trefnwyr yr arddangosfa yn ffyddiog y deuai ymwelwyr o wahanol wledydd i'w gweld a cheisiodd y gymdeithas heddwch fanteisio ar hyn drwy gynnal cynhadledd heddwch yn llundain ar 22, 23 a 24 o orffennaf. roedd pleidwyr heddwch yn wrecsam wedi trefnu i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn ystod yr wythnos flaenorol yng nghapel y methodistiaid calfinaidd, stryd yr abad. roeddynt am egluro beth oedd amcanion y gymdeithas heddwch a sôn am y gynhadledd a oedd i'w chynnal yn llundain. ar derfyn y cyfarfod cefnogodd y gynulleidfa'r datganiad hwn : gan gredu bod rhyfel yn anghyson ag ysbryd cristnogaeth ac yn dinistrio lles gorau dynoliaeth mae'r cyfarfod hwn yn awyddus i ddatgan ei gefnogaeth i'r ymdrechion a wneir ar hyn o bryd gan y gymdeithas heddwch i ledaenu syniadau cywir am y drwg a wneir gan ryfel... gan gredu bod y gynhadledd heddwch fawr sydd i'w chynnal yn llundain yn un o'r dulliau mwyaf effeithiol i addysgu a dylanwadu ar feddyliau pobloedd y gwledydd. ni lwyddodd y brwdfrydedd a amlygwyd yn ystod y gynhadledd i barhau am yn hir yn ei ymchwydd ac i ddylanwadu ar drigolion prydain gan i louis napoleon bonaparte, tua deufis ar ôl y gynhadledd, ddymchwel gweriniaeth ffrainc drwy coup d' tat a gwneud ei hun yn ymherodr napoleon y trydydd. rhoddodd hyn gyfle i'r rhyfelgarwyr gyhoeddi ei bod yn bryd i brydain ddechrau paratoi i'w hamddiffyn ei hun rhag ofn i'r ymherodr newydd drefnu i ymosod arni. yn y flwyddyn 1913 fe gyhoeddwyd llyfr cerdd dannau " gan robert griffith ; yn yr adran helaeth a chynhwysfawr ar delynorion fe welir y geiriau, hughes, david e., oedd delynor ieuanc nodedig, aeth gyda'i dad i'r america, ac ni wyddys fwy o'i hanes. " yn yr un flwyddyn gwelwyd angladd syr w. rh. preece yn eglwys hynafol llanbeblig, ger caernarfon. yr oedd mawrion lloegr yno, oherwydd yr oedd william preece yn un o beiriannwyr mwyaf dylanwadol ei gyfnod. ato ef daeth y gŵr ifanc marconi i geisio cymorth i brofi ei ddyfais newydd i drosglwyddo negesau heb wifrau ; bu'n brif beiriannydd y swyddfa bost, ac yn ddiweddarach yn arloeswr gyda'r sistem gyhoeddus o gyflenwi trydan. gallasai syr william preece fod wedi dweud llawer o hanes david hughes wrth robert griffith, oherwydd am gyfnod buont yn gyfeillion agos, yn cydweithio'n broffesiynol ac yn cyd gyfarfod yn gymdeithasol tra'n byw yn llundain. yr oedd robert griffith yn hollol gywir yn cyfeirio at y ffaith fod david hughes wedi diflannu'n llwyr o gylchoedd cerdd dant, ond serch hynny mae aml i gyfeiriad yn ei farwnadau i'w ddawn fel telynor yn y gymdeithas o wyddonwyr ac arloeswyr peiriannegol yr oedd yn aelod ohoni yn llundain, ac yn wir mae lle i amau a fyddai ei ddyfais bwysig gyntaf wedi gweld golau dydd oni am ei allu fel cerddor. fe aned david edward hughes yn 1831 ; mae gwahanol awduron yn lleoli'r achlysur yn y bala, yng nghorwen, neu yn llundain, oherwydd gwyddys fod ei dad, ar gyfnodau, wedi byw yn y lleoedd yma i gyd yn eu tro, ond yn ôl david hughes ei hun, llundain oedd y fan. cyd-ddigwyddiad tra diddorol yw mai yn y flwyddyn honno y darganfuwyd yr effaith electromagnetig gan michael faraday, tad peirianneg trydanol " ). yr oedd gan dafydd hughes, a oedd yn delynor adnabyddus ei hun, dri mab, joseph, david, a john. tra'r oedd y tri yn fychan iawn, yr oedd eu tad yn eu harwain ar hyd a lled y wlad i gynnal cyngherddau. yr oedd yr hynaf, joseph, wedi dechrau chwarae'n gyhoeddus ar y delyn yn bedair oed ; pan oedd yn ddeuddeg fe gyhoeddodd gasgliad o alawon cymreig, british melodies ". yn 1838 symudodd y teulu i'r unol daleithiau, gan dorri eu cysylltiadau â chylchoedd cerddorol cymru. serch hynny, yr oedd robert griffith yn gwybod fod joseph wedi marw trwy foddi yn un o afonydd mawr america. mae'n amlwg fod doniau cerddorol david hughes yn amlygu eu hunain i gylchoedd y tu allan i ffiniau cul y telynorion traddodiadol cymreig ; daeth ei ddawn fel cerddor i sylw pianydd almeinig o'r enw hast, a oedd yn dra enwog yn yr unol daleithiau, ac o dan nawdd y gwr hwnnw fe'i penodwyd yn athro cerdd mewn coleg yn bardstown, kentucky, yn 1850, ac yntau yn 19 oed. yr oedd ganddo hefyd ddiddordeb angerddol yn y gwyddorau ffisegol a mecanyddol, ac ar ôl treulio diwrnod o waith yn dysgu cerddoriaeth, ei arfer oedd astudio gwyddoniaeth yn ei amser hamdden. daeth ei ddawn yn y cyfeiriad yma i sylw awdurdodau'r coleg, ac felly, pan aeth y swydd honno yn wag, fe'i penodwyd hefyd yn athro athroniaeth naturiol ", neu ffiseg, fel yr adwaenwn ni y pwnc. yn y cyfnod yma, yr oedd y system delegraff yn dechrau datblygu yn yr unol daleithiau ; yr oedd samuel morse wedi dyfeisio ei fersiwn ef o'r telegraff yn yr un flwyddyn â wheatstone a cooke, ac erbyn au'r ganrif yr oedd nifer o gwmnïau telegraff yn bodoli yn yr u. d. a., ac yn cystadlu'n chwyrn â'u gilydd. yn naturiol ddigon, yr oedd david hughes yn ymddiddori yn y dechnoleg newydd, a'i freuddwyd oedd dyfeisio telegraff a fyddai'n argraffu negeseuon yn uniongyrchol ar ffurf llythrennau. yr oedd gan morse eisoes delegraff oedd yn argraffu'r côd morse, ac yr oedd robert e. house wedi dyfeisio peiriant argraffu oedd yn weithredol, ond yn araf ). un noson, wrth gyfansoddi darn o gerddoriaeth, daeth fflach o weledigaeth, ac o hynny ymlaen ymroddodd yr oll o'i oriau hamdden i ddatblygu ei syniad, ac i adeiladu model gweithredol. erbyn 1853 yr oedd pwysau'r holl ymdrechion yn dechrau dweud ar ei iechyd ; yr oedd yn cynnal ei swyddi addysgol yn ystod y dydd, ac yna yn parhau gydau ei arbrofion gwyddonol hyd berfeddion nos. penderfynodd roi'r gorau i'w waith yn y coleg, a symudodd i bowling green, warren county, kentucky, gan gynnal ei hyn trwy ddysgu cerddoriaeth i ddisgyblion preifat. yn y modd yma, enillodd amser i barhau a'i arbrofion. hanfod telegraff argraffol hughes oedd olwyn brintio o lythrennau'r wyddor yn troi'n gyson ar 130 c. y. f. trwy anfon ergyd o gerrynt ar yr adeg cywir, gellid argraffu unrhyw lythyren ddewisiedig heb orfod atal symudiad cyson yr olwyn. ond i gael dau beiriant i gysylltu a'u gilydd ar hyd pellter o wifrau telegraff, yr oedd yn rhaid i olwynion y peiriant derbyn fod mewn cytgord union ag olwyn y peiriant y pen arall. fel telynor, yr oedd david hughes yn hyddysg yn y grefft o diwnio tannau i gytcord union. hawdd iawn yw clywed y gwahaniaeth lleiaf rhwng dau nodyn ; maent i'w clywed yn curo " yn erbyn eu gilydd. felly, defnyddiodd nodwydd ddur, yn dirgrynu megis fforch diwnio, i reoli cyflymdra'r olwyn lythrennau. mater gweddol hawdd wedyn oedd i weithwyr y telegraffau yn y ddau ben diwnio eu peiriannau mewn cytgord a'u gilydd, trwy wrando ar y nodau. pan oedd y ddau beiriant yn cydredeg yn union yr oedd yr olwynion lythrennau yn cyd-droi, yn union fel petai siafft solet yn eu cysylltu. ar yr olwyn drosglwyddo yr oedd nifer o binnau, un ar gyfer pob llythyren. gyferbyn â'r pinnau gosodwyd pwyntiau ", dan reolaeth bwrdd allweddau, gydag allwedd ar gyfer pob llythyren. wrth bwyso ar un o'r allweddau, yr oedd y pwynt cyferbynnol yn cael ei godi yn ddigon agos at yr olwyn fel bod ei bin yn ei gyffwrdd ar y cylchdro nesaf o'r olwyn, a thrwy hynny yn caniatau i drydan lifo drwy'r cysylltiad. yr oedd yr ergyd o drydan a ddeilliai o'r weithred yma yn achosi i'r ruban papur yn y peiriant derbyn, yn y pen arall, gael ei wasgu am ennyd yn erbyn yr olwyn lythrennau, a thrwy hynny yn achosi argraffu'r lythyren arbennig honno. gan nad oedd angen atal ac ail-gychwyn yr olwynion wrth argraffu pob llythyren, fel ym mheiriant house, nid oedd peiriant hughes yn defnyddio gymaint o gerrynt, ac o'r herwydd, yr oedd yn bosibl ehangu'r pellter rhwng dwy orsaf delegraff cyn fod y cerrynt wedi gwanhau'n ormodol. hefyd, wrth gwrs, yr oedd yn gweithio'n gyflymach. daeth bodolaeth telegraff hughes i sylw nifer o wür busnes efrog newydd yn 1855, er nad oedd eto wedi ei berffeithio, ac yn sicr, heb ei batentu. yr oedd yr arfordir ddwyreiniol yn frith o fân gwmnïau telegraff, i gyd yn defnyddio peiriannau morse. gyda'r disgwyliad am gynnydd mewn trafnidiaeth telegraffig a ddeuai yn sgîl ^ l y cebl iwerydd arfaethedig, na na ei gwblhau hyd at 1865 ), yr oedd rhain yn awyddus i ennill meddiant o'r rhwydwaith o gwmnïau, gan mai dros eu gwifrau hwy y byddai pob cysylltiad rhwng y cebl â dinasoedd mawr yr unol daleithiau. yr oedd gan y cwmnïau papur newydd reswm arbennig i ymgysylltu â'r fenter hon, gan eu bod yn gorfod talu crocbris am drosglwyddo eu negeseuon. yr oedd dyfais newydd david hughes, er mor amherffaith, yn cynnig arf bwysig i'r consortiwm, gan ei fod cymaint yn well nag unrhyw beiriant arall, ac felly gallai roddi mantais fasnachol aruthrol i'r sawl a'i pherchenogai. yn 1855, felly, cytunodd david hughes i werthu'i ddyfais i'r cwmni newydd am 100, 000 o ddoleri, er nad oedd eto wedi ei berffeithio, nac wedi eu batentu. gwnaed llawer o ddatblygiad o'r peiriant newydd gan george george. phelps, ac mewn gwirionedd, ei fersiwn ef oedd y fersiwn safonol, er mai syniadau david hughes oedd yr allwedd i'r holl lwyddiant a ddaeth i'w rhan. gwerthodd hughes yr hawliau americanaidd i'w batent yn yn, 1855, er na na y patent yn ffurfiol tan mis medi, 1857. trwy ddod i gytundeb â'r cwmni, yr oedd david hughes wedi rhoddi caniatâd iddynt ddefnyddio ei ddyfais drwy'r holl o ogledd america, ond cadwodd yr hawliau eraill iddo ef ei hun. yn fuan iawn, y telegraff hughes oedd peiriant safonol yr amerig, ac yn dilyn llwyddiant ysgubol y cwmni gwreiddiol, yr oedd nifer o gwmnïau wedi dod at eu gilydd yn fuan wedyn i ffurfio'r western union telegraph company, sydd hyd heddiw y cwmni telegraff pwysicaf yn yr unol daleithiau. ar ôl gweld sefydlu cwmni llwyddiannus yn yr unol daleithiau, trodd david hughes ei olygon tuag ewrop, gan ddechrau yn lloegr gyda'r english telephone company, a oedd yn rheoli'r sefyllfa delegraffig ym mhrydain fawr. ond nid oedd ganddynt unrhyw ddiddordeb yn ei ddyfais ; efallai mai'r rheswm am hyn oedd y ffaith fod y fersiynau cynnar yn anodd i'w rhedeg yn gyson, oherwydd y gwneuthuriad ysgafn a oedd yn angenrheidiol er mwyn cael gweithrediad cyflym. yn raddol, wrth gwrs, datblygwyd yr offeryn i fod yn llawer iawn mwy dibynadwy, trwy ddoniau george phelps, i raddau helaeth, ond yn y dyddiau cynnar, hawdd iawn fyddai credu fod agwedd geidwadol y peirianwyr seisnig yn ei gwneud yn anodd iddynt dderbyn yr agwedd nodweddiadol americanaidd, sef fod yna ddatrys ar bob problem. ar ôl dwy flynedd o drafodaethau, methodd a pherswadio'r saeson i dderbyn ei ddyfais. ar ôl ei siomi yng ngwlad ei enedigaeth, trodd david hughes ei wyneb tua'r cyfandir ; aeth i ffrainc yn gyntaf, lle cafodd groeso yn syth. dangosodd y weinyddiaeth delegraff ddiddordeb ynddo yn syth, a threfnwyd comisiwn o drydanwyr enwog i archwilio i ragoriaethau'r peiriant. trefnwyd nifer o dreialon. yn y cyntaf o'r rhain, rhwng paris a lyons, adroddir fod y peiriant wedi gweithio'n arbennig o dda ar y cychwyn, ond ei fod wedi peidio a gweithio yn ddisymwth, ac nid oedd dim a allai david hughes ei weld i esbonio'r diffyg, na fedrai ychwaith ail gychwyn yr arbrawf. yng nghanol ei drafferthion, clywodd y comisiynwyr yn ei gyfarch, cyn ymadael, tres bien, monsieur hughes tres bien. je vous felicite. " deallodd drannoeth fod y gweithiwr telegraff yn lyons dan orchymyn i ddaearu'r wifren hanner ffordd trwy'r arbrawf, i ddangos i'r comisiwn nad oedd twyll yn bod ; byddai i'r negesau fod wedi parhau yn ddidor ddangos mai ffug oedd y cwbl, ac fod gan hughes gyfaill cyfagos yn cymeryd arno fod yn delegraffydd yn lyons bell. gan fod yr union dric wedi cael ei chwarae ar y ffrancod ychydig fisoedd yn gynharach, nid oedd bai arnynt am fod mor ddrwgdybus. mewn canlyniad i'r arbrawf lwyddiannus, cytunodd llywodraeth ffrainc i roddi blwyddyn o brawf i'r ddyfais, ac ar ddiwedd y cyfnod prawf, fe'i derbyniwyd yn ddiamheuaeth. cymaint oedd pwysigrwydd y peiriant newydd i ffrainc fel y derbyniodd david hughes y fraint, chevalier de legion d' honneur ", o law napoleon iii, yn 1862. ar ôl concro ffrainc, aeth ymlaen i'r eidal, ac o fewn chwe mis yr oedd wedi eu concro hwythau ; yno derbyniodd urdd st. maurice a st. lazare. cymerodd yr united kingdom telegraph telegraph. at ei beiriant yn 1863, ( cwmni hollol ar wahân i'r e. t. c. ). aeth i rwsia yn 1865, lle bu'n aros gyda'r czar ei hun yn st. petersburg ; ar ôl chwe mis o arbrofion rhwng st petersburg a moscow, mabwysiadwyd ei delegraff gan rwsia, ac fe'i gwnaed yn gomander yn urdd st anne. yr un oedd ei hynt ym mhob un o'r gwledydd yr ymwelodd â hwynt ; derbyniad gwresog i'w ddyfais, ac anrhydedd iddo yntau yn amlach na na. felly prussia yn 1865, awstria yn 1867, urdd y goron haearn ), twrci, croes fawr y medjidie ) ; yr iseldiroedd yn 1868, bavaria a wurtenburg yn 1869, urdd st. michael ), y swistir a gwlad belg yn 1870. Yn ystod fy ieuenctid trigai oddeutu deg ar hugain o deuluoedd ym mhentref Cefn Brith, y cyfan bron a'u gwreiddiau yn yr ardal ar wahân i ddyfodiaid a ddaeth yno o ganlyniad i briodas. Cymraeg oedd iaith pob aelwyd ac amryw ohonynt a'u gwybodaeth o'r Saesneg yn gyfyngedig i ddau air yn unig, 'Yes' a 'No'. Teimlwn fod pob teulu yn ffrindiau imi. Ni chyfarchwn neb fel Mr Lloyd neu Mrs Williams, ond yn hytrach fel Joni Lloyd a Kate Williams. Ymwelwn â mwyafrif y cartrefi yn eu tro, gyda chnoc ar y drws, cyfarchiad: 'Oes 'ma bobol?' A cherdded i fewn. Arwydd o gymdogaeth dda oedd hynny. Heddiw dau neu dri pherson yn unig sydd a'u gwreiddiau yn yr ardal, a phrin bedwar neu bum teulu yn unig sy'n siarad yr iaith. Byddaf yn tristau wrth feddwl cymaint o estroniaid sy'n berchnogion cartrefi'r hen gymeriadau a arferai fynychu'r addoldy yng Nghefn Brith gyda'r fath ffyddlondeb. O fynd i oed mae tuedd mewn dyn i edrych yn ôl a byw ar atgofion sydd yn foddion cysur a mwynhad. Ond gall y cofio hwnnw fod yn achos cryn dristwch yn ogystal, gan nad yw'n hawdd i ddyn ddygymod â'r newidiadau sydd wedi digwydd mewn sawl cyfeiriad erbyn hyn. Maent i'w gweld mewn rheolau a deddfau, mewn blaenoriaethau, a hefyd yn ymddygiad rhai oedolion ac ieuenctid. Yn y gorffennol ni chofiaf inni erioed gael ein disgrifio ag ansoddair cryfach na direidus. Nid oedd y gair fandaliaeth yng ngeirfa'r cyfnod hwnnw. Erbyn hyn daw'r newyddion yn barhaus am fandaliaeth a diffyg parch at ddyn ac eiddo. Yn ystod ein plentyndod ni fyddai son y pryd hynny am wyliau tramor, ac ychydig, os dim, o arian poced a gaem. Rhaid fyddai gwneud negeseuon i ennill ceiniog neu ddwy, ac ni fyddai dydd penblwydd yn golygu fawr ddim. Yn awr mae plant yn cael mwy o arian poced nag a enillai ein tadau o gyflog mewn wythnos. Fel arfer byddem yn codi'n fore, cerdded i'r Ysgol, a mynd i'r gwely'n gynnar. Mor wahanol yw plant y dyddiau hyn. Y maent yn ddiweddar yn codi a chânt eu cario i'r Ysgol; y maent yn chwarae gemau cyfrifiadurol, yn gwylio'r teledu, ac yn aros i fyny'n hwyr y nos. Newid arall a welwn yw diffyg disgyblaeth. Gynt byddai'r rhieni ac athrawon ac, ar adegau, berthnasau a chymdogion, yn cydweithio â'i gilydd i gadw trefn ar blant. Tybiant heddiw y gallant wneud a fynnant, ac ni all yr Ysgolion ddisgyblu. Yn wir, mae'r dirywiad i'w briodoli yn fwyaf arbennig i ddiffyg disgyblaeth rhieni a'r llyffetheiriau a roddir ar athrawon i ddisgyblu mewn Ysgolion. Tystia llawer o blant heddiw eu bod wedi diflasu gyda'r Ysgol, eu cartref, a bywyd yn gyffredinol ('bored' neu 'boring' yw'r geiriau mawr). Cytunwn, wrth gwrs, mai son am y sefyllfa yn gyffredinol a wnawn ac mai ar raddfa lai y gwelir y dirywiad mewn ardaloedd gwledig, megis Uwchaled. Ond y mae yma i'w weld. Tybed beth a ddywedai'r tadau gynt pe deuent ar ymweliad eto â'r henfro? Beth fyddai eu hymateb i'r dirywiad crefyddol a ddigwyddodd wedi eu cyfnod hwy? Byddai'r capel yn ganolfan gymdeithasol brysur drwy'r wythnos y pryd hynny. Yno y digwyddai popeth. Heddiw mewn llawer ardal gwelir adeilad mawr ar agor i gynulliad bychan ar y Sul ac yna ar glo am weddill yr wythnos. Gwyddom fod eithriadau i'w cael. Yn sicr, byddent yn rhyfeddu cyn lleied o barch a roddir yn awr i'r seithfed dydd. Daeth y discos, y bingo, agor tafarnau a siopau, a phob chwaraeon yn rhan o weithgarwch y Sul. Aeth y dyddiau mwyaf cysegredig, megis y Groglith a'r Pasg, hyd yn oed, yn ddyddiau gwaith a chwarae. Aeth y ddyletswydd deuluaidd hefyd yn beth dieithr yn ein cartrefi a chollwyd y parchusrwydd hwnnw at y pethau sydd yn cyfrif mewn bywyd. Er hynny, byddai ein hynafiaid yng Nghefn Brith yn falch o weld fod y Capel yma o hyd ac wedi ei addasu gogyfer ag anghenion y gynulleidfa sy'n cwrdd yno heddiw, er cymaint yw'r dirywiad crefyddol a ddigwyddodd yn ystod oes y rhai hynaf ohonom. Ar ddechrau fy ngyrfa, aelod oeddwn mewn gofalaeth o ddwy Eglwys. Ond yng nghwrs y blynyddoedd aeth y ddwy yn dair, ac yn 1987 aeth y tair yn chwech. Dyna'r drefn erbyn hyn. Gorfodwyd ni i ymgydnabyddu â phopeth mawr, gan gynnwys Gofalaethau mawr. Gair cyfarwydd y dyddiau hyn yw 'cwota'. 'Cwota' ar laeth a 'chwota' o Weinidogion - am fod gormod o'r naill a phrinder o'r llall. Pan y'm dewiswyd gyntaf yn flaenor yr oedd yna bedair gofalaeth ar bymtheg yn Henaduriaeth Dwyrain Meirionnydd. O ganlyniad, yr oedd yna bedwar ar bymtheg o Weinidogion, yn ogystal â dau neu dri athro yng Ngholeg Y Bala. Yno, wrth gwrs, y byddai'r myfyrwyr yn cwbwlhau eu cwrs ar eu blwyddyn olaf, ac, yn wahanol i heddiw, byddai rhai o'r myfyrwyr am beth amser cyn derbyn galwad i ofal Eglwys. Roedd mwy na digon ar gael, er fod galw y pryd hynny am weinidog ar ofalaethau heb fod yn fawr, megis Parc a Moelgarnedd; Tal-y-bont a Llidiardau; Celyn ac Arennig; Cwm Tirmynach a Phant-glas; a Rhydlydan a ThÅ· Mawr. Roedd rhif y Gweinidogion yn Nosbarth Cerrigydrudion y pryd hynny gymaint â'r nifer sydd yn yr Henaduriaeth ar hyn o bryd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf daeth rheidrwydd i uno rhai gofalaethau, ac erbyn hyn aeth y nifer i lawr i bump yn yr Henaduriaeth, gydag un ofalaeth gyd-enwadol o dan ofal y Parchedig W.J. Edwards, Llanuwchllyn. Dyna'r sefyllfa y cawn ein hunain ynddi heddiw. Dichon nad yw awyrgylch y cyfnod presennol yn fanteisiol i ennill rhagor o ieuenctid i fod yn ymgeiswyr am y Weinidogaeth. Nid oes dim a all y Cyfundeb ei wneud yn y cyfeiriad hwn. Tybed a oes modd i'r sefyllfa fod yn rhwystr i lwyddiant yr Achos mewn llawer lle? Ac o glywed am achosion yn cael eu dirwyn i ben yn barhaus, onid aeth gwerthiant tai Capel ac addoldai yn gryn fusnes erbyn hyn? Hyderwn na ddêl y dydd pan y gwelir ein Cyfundeb yn fwy o fasnachwyr nag o drefnyddion! Cafwyd newid er gwell, fodd bynnag, mewn sawl cyfeiriad yn ystod yr hanner canrif aeth heibio. Er enghraifft, gwnaed darganfyddiadau ym myd amaethyddiaeth sydd wedi ysgafnhau gwaith pawb. Cofiwn am yr oriau maith, yr hamdden prin, a'r cyflog isel. Cafwyd darganfyddiadau a ddaeth â chysuron nid yn unig i wraig y tÅ·, ond hefyd i fywyd yr amaethwr yn ogystal. Meddylier am y cynhaeaf. Y fath lafur ydoedd yn y dyddiau gynt i dorri'r gwair, ei hel, a'i fydylu ambell waith os oedd argoel o wlaw, yna 'tannu'r' mydylau drachefn, a'i huloga, a'r cyfan gyda phicffyrch. Wedyn, wrth gwrs, llwytho'r hulogydd a chario'r gwair o'r cae i'r gadlas neu das. Ni raid wrth fwdwl na hulog bellach. Mae'r cyfleusterau gan yr amaethwr erbyn hyn i gasglu ei borthiant o silwair, yn rhydd neu'n fyrnau mawr, heb brin orfod dod oddi ar glustog gyfforddus ei dractor. Does neb yn carrega bellach, ac mor wir yw englyn y diweddar Dafydd Williams, Bryn Hyfryd, Y Garn, Pentrefoelas, i'r chwalwr tail: Ni raid wrth deisi gwair ac Å·d mwyach, ac mae'r grefft o'u toi ymhlith y pethau a fu - un o'r crefftau hynny y byddai dyn yn ymhyfrydu ynddynt ar derfyn dydd. Mae'r bladur, y gribin, a'r bicfforch yn segur ers tro, ac mae'r trowr rhaffau, y stric a'r corn grit ar gyfer hogi yn rhan o gelfi crôg ystafell y gegin erbyn hyn. Cyn dyfodiad y peiriannau sydd â rhan mor amlwg heddiw yng ngweithgarwch y ffarm, ymweliad brysiog yn unig a wneid â'r ffair a gynhelid yn fisol. Heddiw mae'n arferiad cyffredin gan rai i ymweld â'r farchnad unwaith neu ddwy yr wythnos. Anaml y gwelid amaethwyr y gorffennol yn mynd oddi cartref am ddiwrnod neu ddau, ond erbyn hyn, daeth mynd ar wyliau yn beth cyffredin - ac ambell waith i'r cyfandir. Dichon mai felly y dylai hi fod. A daeth cyfle yn awr i wraig y tÅ· fod mewn gwaith arall, rhan amser neu lawn amser, a gall fforddio talu i arall ofalu am ei phlant. Oni fyddai'r goleuadau trydan yn gryn ryfeddod i drigolion y dyddiau gynt? A thybed beth fyddai eu hymateb i radio a theledu ac i beiriannau godro neu olchi? Onid gwyrth fyddai'r hwfar a'r peiriant golchi llestri i neiniau'r gorffennol? A beth am y llu o ddarganfyddiadau bendithiol a wnaed ym myd meddygaeth? Y mae amryw byd o afiechydon marwol y dyddiau gynt i fesur wedi eu concro bellach a'r gwelliannau a ddaeth yn gyfrwng i ymestyn oes llawer ar daith bywyd. Dyma, yn sicr, destun diolch. Hwyrach y dywed rhywrai nad yw pob datblygiad yn fendith. Efallai mai gelyn pennaf dyn mewn rhai cyfeiriadau yw ef ei hun. Cynlluniwyd peiriannau gan ddyn yn awr sydd yn abl i gyflawni gwaith y tybid gynt fod yn rhaid wrth ddynion i'w gyflawni. Mae peiriannau yn disodli pobl mewn llawer maes, ac o'r herwydd mae diweithdra ar gynnydd. Fodd bynnag, diolchwn am bob darganfyddiad a wnaed, ac a wneir o gyfnod i gyfnod, sy'n ysgafnhau ac yn cyfoethogi bywyd dyn. Heddiw, nid oes reidrwydd ar neb i wlana ar ffriddoedd bro fy mebyd, ac y mae'r gorchwyl pleserus o dorri mawn yn darfod o'r tir. Nid oes yma'n awr arlunydd fel William Huws, nac athrylith fel T.O. Jones. Nid oes gerddor fel Thomas Jones, na bardd fel Lewis Evans. Nid oes garreg yn aros o aelwyd gysurus y 'Crown', ac nid oes ond atgof yn unig am unrhyw sgwrs a fu yno. Terfynodd Ffactri Wlân Glasfryn ei gwasanaeth ers llawer blwyddyn bellach, ac atgofion gan yr oedolion yn unig sydd am weithdy'r crydd. Prin fod brethyn yn aros o doriad Robert Jones, y Teiliwr; ac nid yw'r adeilad a arferai fod yn Dafarn namyn Siop, ac ni werthir dim yno sy'n gryfach na Lucosade! Nid erys unrhyw un o'r hen ddiwydiannau a fu gynt yng Nglasfryn. 'Nid yw'r felin heno'n malu', ac nid oes dân i grasu'r Å·d. Gwaith llaw y crochenydd cyfoes a welir yn Efail y Gof lle gynt y lluniwyd pedol. Ni welir mwy yr 'hogyn gyrru'r wêdd', ac ni chlywir chwibanogl y dyrnwr mawr. Ond parhau y mae'r tir i roddi ei gnwd. Daeth y trydan hwylus i oleuo'r fro, a bellach, ymysg casgliad o 'hen bethau', y gwelir llusern y gannwyll wêr. Nid oes braidd neb yn tramwyo'r hen lwybrau mwyach, ac ni cheir sgwrs wrth 'bistyll y llan'. Ond parhau i redeg y mae dŵr grisialaidd yr hen bistylloedd: Pistyll Sybil, Pistyll Aelwyd Brys, a Phistyll Plâs. Nid oes ond ychydig gerrig i nodi'r fan lle gynt y safai'r hen fythynnod: Bryn Brith, Ty'n-y-cefn, Pen-y-foel, Glan-llyn, Tan y Garth, Rhydloyw, a Thy'n Pant. Erbyn hyn anifeiliaid gaiff loches mewn rhai o'r hen gartrefi, fel Tai Fry a Llechwedd Llyfn, ac amheuwn a ŵyr un o drigolion yr ardal heddiw union safle y cartrefi a adwaenid gynt fel, Tyn-y-Maes, Ty'n-y-gornel, Ty'n-yr-ardd, a Bryn Bras. Aros mae'r mynyddoedd, ond coediog yw porfa haf y ddafad ar Gefn Tew a Glan Alwen, a bugeiliaid newydd sydd. Gwahanol yw chwaraeon y plant, a newydd yw diddordeb yr oedolion. Er hyn i gyd, erys dylanwad y gorffennol ar fywyd yr ardalwyr mewn ysbryd caredig a chyfeillgar. Beth bynnag yw rhinweddau ardaloedd, a gwledydd eraill y byd, gallaf innau dystio fod bro fy mebyd a'i llechweddau yn 'myned o hyd yn fwy annwyl im'. perygl yn sbaen bob eynon tud. 16-25 ) 7. safodd y wraig a debra yn edrych ar ei gilydd heb ddweud gair. yna dywedodd y wraig eto : does neb o'r enw lopez yma. " siglodd debra ei phen yn araf. fe wnaeth betty parker gamgymeriad felly, " meddai hi. betty parker? " roedd enw betty wedi gwneud argraff ar y wraig. arhoswch am funud, se 9 orita, " meddai hi. aeth y wraig i mewn i'r t ôl fy ysgrifenyddes, rydych chi wedi dod yma i weld betty parker. " o, na ! roeddwn i'n gobeithio cwrdd â se 9 or lopez. mae gen i neges iddo fe gan betty. " yn anffodus mae se 9 or lopez wedi symud, ond fe alla i roi'r neges iddo fe. " mae... mae'n rhaid i fi roi'r neges iddo fe'n bersonol. " ond fe fydda i'n ei weld e bore fory. beth ydy'r neges? " mae rhaid i fi ei weld e'n bersonol achos... achos mae gen i amlen iddo fe ac arian ynddi hi. " gwenodd y dyn ar y ferch. a, rydw i'n deall. dydych chi ddim yn ymddiried ynof fi. " cododd e o'i gadair a mynd at y ffenestr. pum deg mil o besetas, " meddai fe'n dawel. beth? " pum deg mil o besetas, se 9 orita. dyna faint o arian sydd yn yr amlen. " trodd e ei ben yn sydyn a syllodd ar wyneb y ferch. felly dderbyniodd susan rawlings mo'r arian? " gofynnodd e. roedd ei henw hi ar yr amlen, onid oedd? " fe... fe es i i'w gweld hi yn ei fflat, ond ond i ddim ateb. " pryd aethoch chi i weld susan? " roedd y dyn yn gofyn cwestiynau yn rhy gyflym i debra feddwl yn glir. nos fercher, " meddai hi. ond ond i ddim... " oeddech chi'n gwybod bod susan wedi marw? " wedi marw? nac oeddwn. " pam roioch chi'r amlen trwy flwch llythyron y fflat? " distawrwydd. cododd y dyn ei lais. atebwch pan ydw i'n gofyn cwestiwn ichi. " yn sydyn collodd debra ei thymer hi hefyd. pam dydych chi ddim yn gofyn i betty parker? hi a roddodd yr amlen i fi. " eisteddodd y dyn dan ochneidio. fe gafodd betty parker ei lladd ym mharis y bore ma, " meddai fe. mae'n rhaid ichi ddweud y gwir wrtho i, se 9 orita. y gwir yn unig. 8. adroddodd debra yr holl hanes. siaradodd hi am ei chyfeillgarwch â betty parker ac am y tro olaf roedden nhw wedi cwrdd yn y caffe, y prynhawn pan roddodd betty yr amlen iddi hi. yna disgrifiodd hi ei thaith i sgwâr sgwâr, a'i hymweliad â fflat susan rawlings. pan siaradodd hi am gorff susan yn y bath, gofynnodd y dyn : pam nad aethoch chi ar unwaith at yr heddlu? " achos roedd ofn arna i, " esboniodd debra. doeddwn i ddim eisiau trafferth gyda'r heddlu. " edrychodd y dyn o gwmpas yr ystafell. mae'r swyddfa yma yn perthyn i'r heddlu, senorita craig, " meddai fe. i'r heddlu? " meddai debra yn syn. ie. gadewch imi fy nghyflwyno fy hun. lopez ydw i, raul lopez. " plismon ydych chi? " nid yn hollol, se 9 orita. gyda llaw, ydych chi wedi cael trafferth gyda'r heddlu o'r blaen, yma yn sbaen neu gartref ym mhrydain? " nad ydw. dim o gwbl. " roedd lopez yn gwenu am y tro cyntaf, ond doedd ei lygaid ddim yn gadael wyneb y ferch am eiliad. 2Rydw i'n gallu cael hyd i'r ffeithiau'n hawdd iawn, " meddai fe. wel, ewch ymlaen, se 9 or lopez. dydw i erioed wedi cael trafferth gyda'r heddlu, " meddai debra yn bendant. iawn, ond peidiwch â cholli eich tymer, se 9 orita. " aeth wyneb debra yn goch. dydw i ddim yn colli fy nhymer, se 9 or. " chwarddodd lopez yn uchel. mae llawer o dân ynoch chi, se 9 orita craig ; ac rydych chi'n hardd iawn pan ydych chi'n grac. " ddes i ddim yma er mwyn ichi ddweud fy mod i'n hardd, se 9 or. fe ddes i yma i roi'r amlen yn ôl ichi. rydw i newydd dderbyn newyddion drwg am fy ffrind betty. dydw i ddim yn teimlo fel chwerthin. rydw i'n mynd. " cododd lopez o'i gadair a dal braich debra. esgusodwch fi, " meddai fe. roedd y newyddion am betty yn sioc i ni i gyd. ond roedd rhaid imi fod yn siŵr eich bod chi'n dweud y gwir. nawr rydw i'n siŵr mai ffrind dda i betty oeddech chi, se 9 orita. " a beth amdanoch chi, se 9 or? " roedd betty a susan yn gweithio i fi. mae'r ddwy ferch wedi marw dros sbaen, ac mae'n rhaid imi dalu'r pwyth yn ôl ! " 9. betty a susan wedi marw dros sbaen? " meddai debra yn syn. dydw i ddim yn deall o gwbl, se 9 or. " ochneidiodd lopez a gosododd y sigâr yn y blwch llwch. rydw i'n mynd i ddweud y gwir wrthoch chi, se 9 orita craig. ond peidiwch â siarad â ben am y mater, neu fe fydd rhaid inni gymryd eich trwydded deithio a'ch gyrru o sbaen ! " felly yr heddlu ydych chi, " meddai debra. na. nid yr heddlu ydyn ni. ydych chi'n gwybod pa fath o lywodraeth sy'n rheoli sbaen ar hyn o bryd? " llywodraeth? wel, llywodraeth ddemocrataidd fel ym mhrydain, " atebodd y ferch. ie, ond dydy ein llywodraeth ni ddim mor ddiogel â'ch llywodraeth chi. mae grwpiau o derfysgwyr yn bygwth ein heddwch ni. " roedd debra yn gwrando ar bob gair. aeth lopez yn ei flaen : beth amser yn ôl penderfynodd y llywodraeth ffurfio grŵp arbennig i amddiffyn y wlad yn erbyn terfysgwyr. rydw i'n aelod o'r grŵp ac fe ddewisais i betty parker i'n helpu ni. yna fe ddewisodd betty ei ffrind susan i'w helpu hi, ond doedd susan ddim yn gwybod llawer am waith y grŵp. roedd y ddwy ferch yn gallu symud a chymdeithasu ym madrid heb unrhyw broblem am eu bod nhw'n brydferth ac yn ddieithriaid. roedden ni'n eu cyfeirio nhw at bobl amheus, ac roedden nhw'n dod â gwybodaeth yn ôl inni. yna, yn sydyn, fe ymadawodd betty â madrid. roedd hi'n ofni fod rhywun yn ei ei. " roedd hi'n nerfus iawn yn y caffe, " meddai debra. wel, yn lle dod i siarad â fi, fe redodd hi i ffwrdd. ond fe ddilynodd rhywun hi ac fe'i lladdodd hi. fe gollodd susan rawlings ei bywyd hefyd am ei bod hi'n gweithio gyda betty. " a dydy'r heddlu... dydych chi ddim yn gallu gwneud dim i ddal y llofruddion? " o ydyn, mae'r rhwyd yn cau amdanyn nhw yn barod. " se 9 or lopez... " ie? " gaf i wneud rhywbeth i'ch helpu chi i'w dal nhw? " roedd wyneb lopez yn ddifrifol mae dau berson wedi cymryd lle betty a susan yn barod, senorita craig. " meddyliodd e am funud, yna : ond efallai y byddwch chi'n gallu bod yn ddefnyddiol inni fel negesydd, se 9 orita. fydd hynny ddim mor beryglus â gwaith betty. ond cofiwch, os ydych chi mewn unrhyw berygl fe fydd rhaid ichi gysylltu â fi ar unwaith. 10. ar y ffordd yn ôl i'r arosfan bws prynodd debra hanner pwys o rawnwin mewn siop yn y stryd fawr. edrychodd hi ar ei wats. roedd ganddi hi ugain munud i aros cyn i'r bws ddod. yn ffodus roedd bar yn y stryd, a phenderfynodd hi gael cwpanaid o goffi a theisen. ar ochr arall y stryd roedd car wedi ei barcio, citroën llwyd oedd e. yn sbaen mae pob car yn dwyn llythyren neu lythrennau sy'n dweud o ble mae e'n dod. roedd y citroën hwnnw yn dwyn y llythrennau bi, felly roedd debra yn gwybod bod y car yn dod o o yng ngogledd sbaen. meddyliodd hi am funud am y ddinas honno. roedd hi wedi dod i mewn i'r wlad trwy borthladd bilbao chwe mis yn ôl, ar ôl taith o ddau ddiwrnod ar y môr. doedd bilbao ddim yn dref hardd ; roedd y dref yn llawn o ddiwydiant a mwg, ond roedd y bobl yn gyfeillgar ac roedd y mynyddoedd o gwmpas yn uchel ac urddasol. sylwodd debra fod rhywun yn eistedd yn sedd flaen y car, ond doedd hi ddim yn gallu ei weld e'n iawn am fod ei wyneb wedi ei guddio y tu ôl i bapur newydd. roedd yr haul yn uchel yn yr awyr ac roedd debra yn synnu bod y dyn yn darllen papur newydd mewn car poeth yn lle eistedd ar deras y bar fel y gwnâi hi. ymhen peth amser clywodd hi'r bws yn dod ar hyd y stryd. gorffennodd hi ei choffi a gadawodd hi'r arian ar y bwrdd. adió s, se 9 orita ! " gwaeddodd y gweinydd yn y bar. trodd y ferch ei phen a gwenodd arno fe. adió s, " meddai hi. cyrhaeddodd hi'r fflat tua chwech o'r gloch. roedd hi'n fwy hapus ar ôl ei hymweliad â se 9 or lopez. roedd ganddi hi waith pwysig i'w wneud efallai y byddai hi'n gallu helpu lopez i ddal y rheini oedd yn gyfrifol am farwolaeth betty a susan. yn ychwanegol roedd se 9 or lopez wedi rhoi iddi hi'r pum deg mil o besetas yn gyflog am ei help hi hyd yn hyn. doedd hi ddim wedi bwyta mewn tÅ· bwyta ers talwm, felly penderfynodd hi ddathlu'r swydd newydd trwy fynd allan am y noson. meddyliodd hi am teresa, merch oedd yn byw yn y fflat drws nesaf, ac aeth i'w gwahodd hi i fynd allan gyda hi. yn anffodus doedd teresa ddim i mewn. does dim ots, " meddai wrthi hi hun, fe af i i'r'r. fe fydd dawns yno heno, a dydy'r bwyd ddim yn ddrwg chwaith. " 11. roedd y locano yn ddigon llawn yn barod, er ei bod yn gynnar yn y nos. roedd debra wedi bod yn y clwb sawl gwaith gyda ffrindiau o sbaen, felly roedd hi'n nabod y gweinyddion oedd yn gweithio y tu ôl i'r bar ac yn yr ystafell fwyta. noswaith dda, se 9 orita. ydych chi wedi dod i ddawnsio? " gofynnodd un ohonyn nhw. wrth gwrs, " meddai debra. ond yn gyntaf fe hoffwn i fwyta rhywbeth os oes bwrdd yn rhydd. " dilynodd hi'r gwas at fwrdd yn ymyl y ffenestr. ar ôl astudio'r fwydlen dewisodd hi blât o paella reis gyda darnau o gyw iâr a bwyd môr ). archebodd hi hanner potelaid o win gwyn hefyd. esgusodwch fi, se 9 orita. gaf i eistedd wrth eich bwrdd chi? does dim llawer o le erbyn hyn. " cododd debra ei phen a gweld dyn tal yn sefyll wrth y bwrdd. pam lai, se 9 or? " meddai hi. yna cofiodd hi ei bod hi wedi gadael ei bag llaw ar y gadair arall. ond roedd y dyn wedi casglu'r bag yn barod. dyma chi, se 9 orita. " roedd e'n edrych ar y bag yn fanwl. cymerwch ofal, " meddai fe. mae'r lledr yn dechrau torri. fe fyddwch chi'n colli rhywbeth, siŵr o fod. " cymerodd debra y bag ac esboniodd wrth y dyn : roedd y bag yn anrheg oddi wrth fy rhieni flynyddoedd yn ôl. rydw i'n mynd ag ef i bob man. " eisteddodd y dyn a gwelodd debra ei fod e'n olygus, ond gyda hen graith ar ei foch. daeth y gwas yn ôl ac archebodd y dyn gig oen gyda salad, a photelaid o win coch. tra oedden nhw'n bwyta dywedodd e mai dyn busnes oedd e, a miguel oedd ei enw. nid acen madrid sy gennych chi, " meddai debra. nage, ond rydw i wedi byw yma ers talwm. mae gen i fflat yn ymyl y puerta del sol. " o, rydw i'n byw yn yr un ardal, " meddai debra. ar ôl iddyn nhw orffen eu pryd aeth miguel a debra i ddawnsio. yna cawson nhw cocktail wrth y bar. am un o'r gloch dywedodd y ferch fod rhaid iddi hi fynd. wel, gadewch i fi fynd â chi adref yn y car, " meddai miguel. rydyn ni'n byw yn agos at ein gilydd. " yn y stryd roedd popeth yn dawel ar ôl y ddawns swnllyd. roedd awel hyfryd yn chwarae ar wyneb y ferch. dyma fy nghar i, " meddai miguel gan gyfeirio at yr un citroën llwyd roedd debra wedi ei weld yn el el y prynhawn yna ! Y Ddegfed Bennod Hawdd fyddai ysgrifennu cyfrol ar y testun hwn, ond rhaid ymatal a dethol. Fel y gwelsom yn y bennod flaenorol, mae'n dra thebygol fod yn well gan y mwyafrif o'r trigolion gynt fynychu'r Twmpath Chwarae ar y Suliau, yn hytrach na mynd i'r Eglwys. Yn yr ardal hon hefyd, fel mewn ardaloedd eraill, roedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn y cyfnod hwn yn anllythrennog. Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg dywedir mai tri yn unig a ddysgodd ddarllen, sef Edward Jones, Llechwedd Llyfn; Owen Roberts, TÅ·'n Pant; a Robert Roberts, Bryn Du. Yr oedd Beiblau gan Owen Roberts a Robert Roberts. Tybir nad oedd rhagor ar y pryd. Cyn hir, fodd bynnag, bu'r brodyr hyn yn gymorth i eraill ddysgu darllen. Yn 1805 y dechreuwyd cynnal Ysgol Sul, a hynny yn yr awyr agored ar y dechrau, ond dywed hanes iddi gael ei chynnal yn ei thro yn TÅ· Ucha; Aelwyd Brys; llofft melin y Glasfryn, ac ysgubor Clust y Blaidd. Wedi hynny symudwyd hi i Fryn Blodau, ger Ty'n Pant, wedi i'r lle hwnnw ddod yn gartref i John Roberts, Tyddyn, un o sylfaenwyr yr Ysgol Sul. Ychwanegwyd at rif y sylfaenwyr yn y man ac yn 1811 ymgymerwyd â'r gwaith o adeiladu Capel bychan a diaddurn. Un res o seddau, llawr pridd, a meinciau. Adeiladwyd hwn ar dir a gafwyd gan Owen Roberts, Ty'n Pant, a phregethwyd ar ei agoriad gan y Parchedigion Thomas Charles a Ffowc Evans. Oddeutu'r flwyddyn 1824 yr etholwyd y blaenoriaid cyntaf. Anllythrennog oedd llawer o'r hen frodyr a gymerai ran yn gyhoeddus, yn fwy o bosibl na'r ieuenctid a fynychai'r Ysgol Sul. Ymddengys nad oedd cynnydd amlwg i'w ganfod yn rhif yr aelodau ar y cyntaf, ond yr oedd nifer y gwrandawyr yn cynyddu'n barhaus, ac o ganlyniad, yn 1832, ymgymerwyd â'r gwaith o helaethu'r hen gapel. Ychwanegwyd darn ato, hynny ymhen un mlynedd a'r hugain wedi ei adeiladu y tro cyntaf. Mae cofnod ar gael sydd yn tystio i ffyddlondeb arbennig Hugh Evans, Ty'n y Gilfach, yn y capel hwn, pan nad oedd neb ond ef am gyfnod i gyflawni swydd blaenor. Cofir am flwyddyn 1859 fel blwyddyn y Diwygiad, a dywedir i Eglwys Cefn Brith gael ei rhan o'r fendith ac i lawer ymuno â'r Eglwys o'r newydd. Oherwydd hynny penderfynwyd fod yn rhaid wrth adeilad mwy - aethai'r hen gapel yn rhy fychan ers blynyddoedd. Dylid nodi i'r tir gael ei roddi yn rhad gan John Davies, Glan-y-gors, ac i'r adeilad gael ei godi ar safle wahanol i'r addoldy blaenorol. Fe'i hadeiladwyd yn 1868, ac oddeutu œ500 oedd y gost. Ymhen rhyw wyth neu naw mlynedd rhoddwyd galwad i'r Parchg. Robert Richards, brodor o Borthmadog, i fugeilio'r Eglwys, ar y cyd ag Eglwys Ty'n Rhyd, Cerrigydrudion. Gwasanaethodd hyd y flwydyn 1893. Mae'n debygol mai Robert Jones, Tan y Bwlch; Hugh Evans, TÅ·'n y Gilfach; William Hughes, TÅ·'n Pant a John Hughes, Y Felin; a weithredai fel blaenoriaid ar y pryd, ac fe etholwyd David Pritchard, Hafodymaidd, yn ychwanegol atynt yn yr un flwyddyn ag y codwyd y Capel. Meibion William Hughes, TÅ·'n Pant, a ymgymerodd â'r gwaith o doi'r Capel newydd yn 1868, sef Charles a John Hughes. Yn 1909 y bu farw John Hughes, Y Felin, wedi gwasanaethu fel blaenor am chwe mlynedd a deugain. Y rhai nesaf a ddewiswyd yn flaenoriaid oedd John Roberts, Clust y Blaidd, yn 1883, ac Owen Jones, Tan y Bwlch, a John William Jones, TÅ·'r Ysgol, yn 1904. Ar Fai 9fed y flwyddyn hon, pan oedd Ysgol Sul Cefn Brith bron yn ganmlwydd oed, sefydlwyd cangen ohoni a'i chynnal yn yr Ysgol ddyddiol yng Nglasfryn. Bu'r cynllun newydd yn llwyddiant anghyffredin gan i bedwar ar hugain o aelodau newydd o gylch Glasfryn ymuno â'r Ysgol Sul. Yr oedd nifer yr aelodau ar y dechrau yn ddeuddeg a thrigain, ac wedi sefydlu yr Ysgol yno yr oedd cymaint â chant a naw o aelodau yn Ysgol Sul Cefn Brith. Dathlwyd hanner canmlwyddiant ei sefydlu yn 1954. Wedi cyfnod o dros drigain mlynedd, penderfynwyd, oherwydd y lleihad yn rhif yr aelodau a nifer y plant, yn ogystal â bod cyfleusterau teithio wedi newid, mai priodol fyddai ail-uno'r ddwy Ysgol Sul. Gwnaed hyn y Sul 22 Ionawr 1967. Yn dilyn Diwygiad 1904 ymddengys ei fod yn awr y cyfnod mwyaf blodeuog yn hanes yr Achos yng Nghefn Brith. Ar ddechrau'r ganrif gwelid dros drigain o aelodau a thros gant o wrandawyr. Aeth y nifer mor luosog fel y bu raid ychwanegu at yr adeilad a godwyd yn 1868. Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yn y capel hwnnw ar Fai 6ed, 1912. Ym mis Medi 1911 y dechreuwyd cynllunio i helaethu'r Capel, ac mae nodiad ar gael fod pawb yn unfrydol i wneud hynny. Penodwyd pwyllgor i chwilio am gerrig a chafwyd rhai pwrpasol yn Nant y Felin a Chae yr Hendy ar dir Hafodymaidd a'r cornelau yng Nghraig Iwrchen. Adeiladwyd y Capel gan Hugh Owen, Corwen, mab Tai Ucha, Cwm Penanner, a'r pris a dalwyd amdano oedd œ1240. Cofiwn heddiw gyda diolch am ymdrech a llafur arbennig y tadau i'w godi. . Gwnaed y gwaith, ac fe'i gwnaed yn llwyddiannus heb arbed na thraul na thrafferth i gyrraedd y nod. Trwy undeb a chydweithrediad pawb o'r gynulleidfa, yn frodyr a chwiroydd, llwyddwyd hefyd i glirio'r ddyled oedd yn aros ar derfyn yr holl weithgarwch. Yn ystod cyfnod yr adeiladu cynhaliwyd Ysgol Sul Cefn Brith yn ysgubor Aelwyd Brys a phob gwasanaeth arall yn Ysgol y Cyngor, Glasfryn. Gosodwyd y cerrig sylfaen gan Master Lloyd Mainwaring, Bwlchybeudy, a Mr E.T. John, aelod seneddol tros Ddwyrain Dinbych, a oedd hefyd yn Gymro gwladgarol, ac yn siarad yr iaith. Yn ei araith cyfeiriodd at y gwaith oedd yn mynd ymlaen ar y pryd yn agos at Gefn Brith, sef Gwaith DÕwr Corfforaeth Penbedw yn yr Alwen. Ychwanegodd nad oedd yn hollol fodlon fod trefi mawrion Lloegr yn gwneud dim namyn cynnig rhyw gydnabyddiaeth fechan yn unig i Gymru am rodd mor amrhisiadwy. Hynny yn 1912. Diddorol yw sylwi fod y Capel a godwyd yn 1868 yn cael ei oleuo gan lampau olew, ond goleuwyd yr adeilad newydd yn 1912 gan nwy Acetylene. Heddiw, wrth gwrs, defnyddir y trydan hwylus i oleuo a thwymo'r adeiladau. Ar Fai 11eg, 1913, yr agorwyd y Capel newydd. Y Sulgwyn ydoedd, a hafaidd a theg oedd yr hin. Y Gweinidog, y Parchg. John Morgan Jones, a wasanaethai; ac yn oedfa'r prynhawn bedyddiwyd Catherine Ann, plentyn Mr a Mrs William Jones, Parc Newydd (Mrs Annie Davies, Egryn, erbyn hyn). Gweinyddwyd y Sacrament o Swper yr Arglwydd ar ôl y bregeth yng ngwasanaeth yr hwyr. Defnyddiwyd llestri cymun unigol a gyflwynwyd yn anrheg i'r Eglwys gan Dr Benjamin Isaac, Bronafallen. Cyn hyn y ffordd arferol fyddai i bawb yfed o'r un cwpan. Sefydlodd Dr. Isaac yn yr ardal yn 1908. Roedd yn enedigol o Sir Gaerfyrddin ac yn feddyg medrus a chymeradwy. Ym mis Tachwedd y flwyddyn hon ychwanegwyd at rif y blaenoriaid. Dewiswyd John Jones, Perthillwydion; Cadwaladr Evan Roberts, Ty'n y Gilfach, a Thomas Owen Jones, Aelwyd Brys. Ymddeolodd y Parchg. John Morgan Jones o fod yn Weinidog yr Ofalaeth yn 1926, wedi gwasanaethu am ddeng mlynedd a'r hugain. Cerddai yn gyson, haf a gaeaf, o Fron-y- graig i Gefn Brith i gadw Seiat. Yn ei ddilyn ef daeth atom y Parchg. O.W. Owen, M.A. Mab fferm yn ardal Cricieth oedd ef ac fe arhosodd gyda ni am oddeutu pedair blynedd. Byr hefyd fu arhosiad y Parchg. Victor Thomas a'i dilynodd. Brodor o Dregaron oedd ef. Symudodd oddi yma i Lundain, yna i'r Cei Newydd, ac wedi hynny i Bontyberem. Wedi noswyl David Pritchard, bu i'r teulu barhau i wasanaethu'r Achos yng Nghefn Brith gyda ffyddlondeb di-ball mewn lletya a chyrchu pregethwyr hyd y flwyddyn 1929. Dilynwyd y teulu yn Hafodymaidd gan y diweddar Hugh Evan Williams a'r teulu a ddaeth yma o ardal TÅ· Mawr. Bu'r Eglwys yn ffodus drachefn i sicrhau teulu a ddymunai barhau traddodiadau gorau'r gorffennol. Etholwyd Hugh Evan Williams yn flaenor ym 1938 a bu farw ym 1953. Parhaodd yr un ffyddlondeb at yr Achos wedi hynny gan y ferch a'r mab yng nghyfraith, John ac Eleanor Morris. Dewiswyd yntau'n flaenor yn 1958, a bu farw yn 1981. Gwasanaetha eu mab hwythau, Huw Iorwerth Morris, fel blaenor yn yr Eglwys ar hyn o bryd. Yn 1936, yn dilyn y Parchg. Victor Thomas, daeth atom y Parchg. J.T. Roberts, B.A., a oedd yn Weinidog ar y pryd ar Eglwysi Tan-y-fron a Phen-y-cefn, yn Henaduriaeth Dyffryn Clwyd. Derbyn galwad Gofalaeth Cefn Brith a Cherrigydrudion a wnaeth ar y dechrau, ond ychwanegwyd Eglwys Rhydlydan atom yn 1957. Fel y caf son eto, y mae ardal Cefn Brith yn fawr iawn ei dyled iddo ef a'i briod.. Ar ei ymadawiad yn 1960, symudodd y teulu i fyw i Fetws Gwerful Goch. Bu farw yn 1972. Wedi hynny, rhoddwyd galwad i fyfyriwr ieuanc a oedd yn terfynu ei astudiaethau yn y Coleg, sef E. Elfyn Richards, un o blant Rhosllannerchrugog. Ymdaflodd y Parchg. Elfyn Richards yn arbennig iawn i fywyd yr ieuenctid, a mawr oedd edmygedd pawb o'i ysbryd hynaws a'i ddynoliaeth dda. Derbyniodd alwad yn 1965 i fugeilio Eglwysi Gellifor a'r Dyffryn yn Henaduriaeth Dyffryn Clwyd. I fwrw trem yn ôl unwaith eto, yn y flwyddyn 1945 y symudwyd ymlaen drachefn i ddewis Blaenoriaid, ac etholwyd y Mri. Tal Humphreys, Rhianfa; John Hywel Jones, Perthillwydion; Ellis Roberts, Tyddyn, a Thomas Williams, Pen y Banc. Bu farw Ellis Roberts yn 1948 a Thomas Williams yn 1953, ac ymaelododd John H. Jones yn Eglwys Jerusalem, Cerrigydrudion. Ymadawodd Mr Tal Humphreys â'r ardal ar ei benodiad yn Brifathro Ysgol Llanymynech. Ychwanegwyd at rif y blaenoriaid yn 1951 pan ddewiswyd y Mri. David J. Davies, Bryn Dedwydd; R.W. Roberts, TÅ·'r Ysgol, a minnau. Wedi saith mlynedd arall, yn 1958, aed ati drachefn, pryd yr etholwyd y Mri. John Evan Jones, Pant-y-griafolen; John Morris, Hafodymaidd, a John Alun Roberts, Gowld. Sefydlwyd y Parchg. Glynne Hughes yn Weinidog ar yr Ofalaeth yn 1965. Daeth ef yma o fod yn Weinidog ar Eglwysi Penmorfa, Bethel, a Chwmstradllyn, yn Henaduriaeth LlÅ·n ac Eifionydd. Ymddeolodd i gartrefu yn Hen Golwyn yn 1985, a gofid i bawb o'i gydnabod ydoedd clywed am ei noswyl annisgwyl yn 1986. Cofiwn amdano fel Gweinidog ymroddgar ac aelod gwerthfawr o'r Eglwys yng Nghefn Brith. Aeth un mlynedd ar ddeg arall heibio cyn yr etholwyd rhagor o flaenoriaid yn 1969. Bryd hynny etholwyd Edwin K. Roberts, Ty'n y Gilfach. Yna yn 1972 dewiswyd y personau canlynol: Dr. Edward J. Davies, Llechwedd, a'r Mri. Iorwerth V. Davies, Gwenallt; Huw Iorwerth Morris, Hafodymaidd, a Caereini V. Roberts, Bryn Golau. Yn 1987, ychwanegwyd gofalaeth Llangwm, Llanfihangel, a ThÅ· Mawr atom, a dyna'r adeg y rhoddwyd galwad i'r Parchg. A Meurig Dodd, B.D., yn Weinidog ar yr Ofalaeth newydd a ffurfiwyd o chwe Eglwys. Ef yw'r Gweinidog presennol ac y mae yntau hefyd yn un o blant Rhosllannerchrugog. Sefydlwyd ef yn Weinidog ar yr Ofalaeth ar Hydref 10fed, 1987. O ganlyniad i archwiliad a wnaed gan arbenigwyr ar ran y Cyfundeb a'r adroddiad a gafwyd am ddiffygion yr adeilad, yn ogystal â'r ffaith fod rhif yr aelodaeth erbyn hyn wedi'i haneru i'r hyn a fu yn y gorffennol, rhoddwyd ystyriaeth ddwys i'r priodoldeb o gwtogi ar faint y capel. Sylwyd hefyd fod tri chwarter nifer y cartrefi ym mhentref Cefn Brith erbyn hyn yn eiddo i Saeson. Daeth penllanw'r gwrthwynebiad yn sgîl y Diwygiadau Crefyddol o'r ddeunawfed ganrif ymlaen. Meddai awdur anhysbys o Ddinas Mawddwy mewn traethawd 'Adgofion Bore Oes', a sgrifennwyd rywdro yn y ganrif ddiwethaf: 'Yr oedd llawer o hen arferion darostyngol a fygent bob teimlad o rinwedd a moesoldeb ac a brofent yn felldith i'r ardaloedd yma. Ffynnai ofergoelion am ysbrydion, canhwyllau cyrff a bwgan ymhob rhyw gornel dywyll... A pha ryfedd. Holl bleser hen bobl fyddai casglu at ei gilydd wrth dân mawn o dan yr hen simdde fawr ac am y goreu chwedl a'r mwyaf dychrynllyd ei stori. Ond llwyddodd yr Ysgol Sul a hen Ymneilltuwyr yr ardal i roddi yr hen arferion hyn i lawr erbyn heddiw.' (Llsg. A.W.C. 1755/27) Serch hynny, er i'r Diwygiadau Crefyddol fod yn un cyfrwng i waredu llawer o hen chwaraeon, defodau ac arferion Cymreig, ni pheidiodd y traddodiad o adrodd chwedlau a storïau. Parhaodd yn rhyfeddol o fyw hyd ein dyddiau ni. Ac felly'r lliaws mawr o hen goelion gwerin ac addasiadau ohonynt. Yn ystod y ganrif hon bu cynnydd anhygoel yng ngwybodaeth dyn, er enghraifft mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Ac eto, er gwaethaf hyn (neu, efallai, oherwydd hyn) y mae'r ffin i rai pobl rhwng y real a'r afreal, y naturiol a'r goruwchnaturiol, mor anelwig ag erioed. Y mae cymaint mwy i'w ddysgu eto, ac erys bywyd o hyd yn rhyfeddod ac yn ddirgelwch. Gan hynny, y mae dyn yn cynnig ei atebion ei hun i gwestiynau afrifed. Er bod llai yn credu heddiw yn y goruwchnaturiol ac mewn hud a lledrith nid oes brinder pobl sydd ar adegau, o leiaf, yn hygoelus, os nad ofergoelus. Yr ydym yn amharod i fwrw heibio'n llwyr hen goelion ein tadau. Rydym yn credu neu'n lled gredu - dim ond rhag ofn... Yn aml hefyd ceisiwn heddiw esbonio'r goel drwy resymoli neu gynnig eglurhad ymarferol. Dyna, er enghraifft, y goel gyffredin ei bod yn anlwcus i gerdded dan ysgol. I'n hynafiaid, fodd bynnag, roedd gosod ysgol yn erbyn mur yn ffurfio triongl ac yn cynrychioli arwydd y Drindod. Roedd cerdded o dan ysgol, felly, fel cerdded drwy'r Drindod ac yn arwydd o amarch. Yn yr un modd ceir rhesymau ymarferol hollol paham na ddylid rhoi esgid ar fwrdd, neu agor ambaré l mewn ty. I'n cyndadau, fodd bynnag, roedd gosod esgid ar fwrdd yn anlwcus oherwydd fod y weithred yn eu hatgoffa o esgidiau am draed y truan oedd yn aros i'w grogi. Yn aml, ar ben bwrdd y safai yntau cyn awr ei dynged, a'i esgidiau oedd y cyswllt mwyaf pendant rhyngddo â'r ddaear - rhwng bywyd a marwolaeth. Oherwydd ei ffurf cysylltid ambaré l a pharasôl â'r haul, a daethpwyd i gredu ei bod yn anlwcus i'w hagor yn unman ond ym mhresenoldeb yr haul, hynny yw, y tu allan i'r ty ac nid y tu mewn. (Tarddodd y goel hon mae'n debyg yn y Dwyrain lle defnyddid ambaré l a pharasôl gan frenhinoedd a breninesau.) Gall gweinyddesau mewn ysbyty dystio ymhellach pa mor gryf heddiw yw'r gred gan lawer iawn o bobl na ddylid cymysgu blodau coch a gwyn - mae'n arbennig o anlwcus. Ond pam? Un esboniad tebygol yw fod y lliw gwyn yn ein hatgoffa o rwymynau (bandages) a'r lliw coch yn sumbol o waed. Dyna enghreifftiau yn yr oes 'oleuedig' hon o rai pethau na ddylem eu gwneud oherwydd eu bod, meddir, yn anlwcus, er nad ydym yn rhyw siwr iawn pam. Yn yr un modd yr ydym yn fwriadol yn gwneud rhai pethau, a hynny'n reddfol bron, er mwyn sicrhau lwc dda. Nodaf ddwy enghraifft. Yn gyntaf yr arfer o daflu conffeti ar bâr ifanc newydd briodi. Heddiw papur lliwgar wedi'i dorri'n fân. Ddoe reis a gwenith fel rhan ganolog o ddefod i sicrhau ffrwythlondeb. Ac yn ail, yr arfer gyffredin o ddweud 'touch wood'. Cyfeiriad sydd yma, medd rhai, at gyffrwdd â chroes Crist. Y tebyg yw, fodd bynnag, fod y goel yn llawer hyn na hynny - atgof o gred ein hynafiaid yn nuw'r goedwig. Er mwyn ennyn bendith y duw hwn roedd hi'n arfer gynt i 'gyffwrdd â phren' - i gusanu neu gofleidio'r goeden. TARDDIAD A FFURF Yn fyr, felly, beth sy'n esbonio coelion gwerin ein cyndadau a pharhad llawer o'r coelion hyn heddiw? Dyma dair prif ystyriaeth: 1. Ymgais dyn ar hyd yr oesoedd i egluro byd natur a'r amgylchfyd a'i fodolaeth ef ei hun ar y ddaear. 2. Dyhead dyn am gael treiddio i'r dyfodol: gwybod yr anwybod; dirnad yr annirnadadwy; rhoi ystyr i'r diystyr; gweld yr anweledig. 3. Ofn yr anwybod, ofn y duwiau - yr hyn a alwai'r Groegwyr gynt deisidaimonia; yr hen ofn hwnnw a fu'n llechu yn y galon ddynol erioed ac a fydd eto, bid siwr: ofn newyn, tlodi a dioddefaint; ofn poen, afiechyd a marwolaeth. Er inni gael ein creu, yng ngeiriau'r Salmydd, 'ychydig is na'r angylion', er inni gael ein cynysgaeddu â meddwl rhyfeddol a doniau nodedig, pobl ydym o gig a gwaed, llestri llawn craciau, yn dyheu beunydd am angor, am gysur a sicrwydd. Y mae dyn erioed wedi dymuno ennyn bendith y duwiau, ymatal rhag herio ffawd a rhagluniaeth ('Fe ddof yfory, os byw ac iach...') Mae'n awyddus i ennill lwc dda a chael bod yn ffortunus neu'n ffodus mewn bywyd (ansoddair sy'n tarddu o'r gair 'ffawd'). Ei nod pennaf yw osgoi pob drwg, ac yn arbennig y galluoedd drygionus sydd y tu hwnt i'w ddirnadaeth - osgoi'r drwg ac ymgyrraedd at y da a phrofi llawenydd a bodlonrwydd. Beth yw ffurf a phatrwm coelion ac argoelion gwerin? I grynhoi eto gellid yn fras eu rhannu'n dri dosbarth. 1. Cred os gweithredir mewn modd neilltuol mae anlwc yn dilyn. Er enghraifft, torri drych. 2. Cred y gellir gweithredu mewn modd arbennig er mwyn sicrhau lwc dda - ennyn bendith a'ch diogelu eich hunain ac eraill rhag aflwydd, yn aml drwy gymorth swynion. Er enghraifft, taflu darn o lo i mewn i siop sy'n agor am y tro syntaf - y glo yn cynrychioli rhinweddau'r Fam Ddaear. 3. Cred mewn rhagarwyddion neu argoelion, cred fod rhai pethau, yn arbennig ym myd natur, megis adar ac anifeiliaid, yn gyfrwng i ragfynegi'r dyfodol ac i ddateglu gwybodaeth am gyflwr dyn ei hun, boed lwyddiant neu aflwyddiant, lwc neu anlwc. Er enghraifft, gweld un frân neu bioden: anlwc, 'dwy frân dda, lwc dda i mi.' PENGLOG CEFFYL Yn ail ran yr ysgrif hon carwn gyfeirio at enghreifftiau penodol o barhad rhai hen goelion gwerin, a'r coelion hynny wedi tarddu'n bennaf oherwydd ofn cynhenid dyn. Yn gyntaf y defnydd o benglog ceffyl fel swyn. Gwyddom yn dda fod y ceffyl i'n hynafiaid yn anifail cysegredig a bu'n arfer unwaith i osod penglogau ceffylau yn sylfeini tai, adeiladau fferm ac eglwysi yn y gred eu bod yn gyfrwng i'w diogelu rhag ysbrydion drwg a melltith. Un gred gyffredin yw fod gosod penglogau o dan loriau eglwysi yn fodd i atal atsain, ond y mae'n bur debyg mai ymgais crefyddwyr yw'r gred hon i geisio cyfiawnhau hen arfer gyn-Gristnogol. Darganfuwyd sawl enghraifft o benglogau ceffylau yng Nghymru, ac un o'r rhai mwyaf diddorol oedd y pum penglog a ddarganfuwyd yn y mur a wahanai hen sgubor a beudy ar fferm Garth, Llanilar, Dyfed, yn 1982. Anogwyd Mr. Rowland George, y ffermwr, gan yr ardalwyr i ail-gladdu'r penglogau 'rhag i anlwc ddodd i'w ran'. A dyna a wnaed. Cydnebydd Mr. George nad yw'n berson ofergoelus, ond y mae'n 'parchu hen draddodiadau'. Felly hefyd ei briod. Cyn i'r penglogau gael eu claddu aeth hi mewn awyren i Ganada. Pan oedd ar fin dychwelyd gwnaed cyhoeddiad fod bom ar yr awyren, ac ymhen y rhawg daliwyd un terfysgwr. Nid yw Mrs. George, mwy na'i gwr, yn ofergoelus, ond y mae'n ei holi ei hun weithiau 'ai rhybudd bach a gafodd ym maes awyr Toronto i'w hatgoffa fod y penglogau heb eu claddu?' YR YSGUB O gyfnod cynnar iawn ac mewn sawl gwlad credodd pobl fod yr ysgub yn foddion i ddiogelu'r cartref rhag y Diafol ac ysbrydion drwg o bob math. Yr ysgub oedd un o'r gwrthrychau cyntaf i'w cludo i gartref newydd ac yr oedd ei gosod ger rhiniog y drws yn gyfrwng i rwystro mynediad i unrhyw un a oedd yn debyg o fwrw melltith ar y teulu. Mewn rhai diwylliannau roedd neidio dros ysgub yn gallu bod yn beryglus. Er enghraifft, pe bai gwraig feichiog yn neidio drosti credid y gallai'r llinyn bogel dagu'r baban. Pe bai merch ddi-briod yn neidio drosti, roedd perygl iddi ddod yn feichiog cyn priodi. Fel arfer, fodd bynnag, roedd croesi neu neidio dros ysgub (o bren bedw neu fanadl) yn gyfrwng, yn ôl y gred, i sicrhau priodas hapus. Cofiwn hefyd, wrth gwrs, am gysegredigrwydd y fedwen gynt. Roedd 'priodas ysgub' ar un adeg yn arfer pur gyffredin, o leiaf mewn rhai rhannau o Gymru. Gosodid yr ysgub gan amlaf ar draws y drws i'r ty a'r pâr ifanc wedyn yn neidio drosti heb ei chyffwrdd. Cafwyd disgrifiad da o'r arfer gan W. Rhys Jones ('Gwenith Gwyn') mewn ysgrif werthfawr yn Folk-Lore, cyf.39, 1928: 'Besom Wedding in the Ceiriog Valley.' Gellir dyfynnu hefyd gwpled diddorol iawn a glywais gan y diweddar Tom Morgans, Cwm-bach, Dyfed (tâp A.W.C. 3763): Cyn bod eglwys cyn bod ffeirad, Neidio'r sgubell oedd 'r arferiad. Bellach prin yw'r sôn am sgubell ym myd coelion ac arferion gwerin, ac eithrio'r cyswllt annatod rhyngddi â gwrachod ar Nos Galangaeaf. Ac eto, o gofio ymateb trigolion un pentref yn ddiweddar, mae'n ymddangos fod rhai pobl o hyd yn rhyw led-gysylltu'r ysgub â galluoedd goruwchnaturiol. Yn ystod Haf 1990 daeth pâr ifanc i fyw i bentref bychan Trefor, Gwynedd. Priodwyd hwy mewn defod arbennig yn cynnwys neidio dros ysgub. Cydnebydd y ddau eu bod yn dilyn 'hen grefydd y Celtiaid' ac yn 'addoli natur'. Mewn llythyr diddorol yn Y Cymro, 10 Hydref 1990, geilw'r gwr ei hun yn 'Archoffeiriad y Gwiddon'. Ym mis Medi, 1990, ysgrifennodd y gwr hwn at Awdurdod Addysg Gwynedd i gwyno fod Prifathro'r ysgol leol wedi rhybuddio'r plant i beidio â cherdded heibio'i gartref ef a'i briod ac i hawlio œ500 o iawndal am 'bardduo'i enw' a 'throi'r pentref yn ei erbyn.' Achos yr holl helynt oedd y sgubell a gedwid gan y cwpl ifanc yn seremonïol o flaen eu ty ac roedd rhywun neu rywrai wedi'i dwyn. Gallai'r ysgub, meddai'r gwiddon fod yn 'beryglus yn y dwylo anghywir oherwydd y nerth sydd ynddi.' Ymddengys i'r helynt achosi cryn bryder i rai o drigolion y pentref a dywedir bod ambell un wedi mynd cyn belled â gosod y Beibl yn ffenestri eu cartrefi er mwyn dadwneud unrhyw niwed. DIOLCH AM ENI BABAN Hyd heddiw ymhlith rhai pobl, yn arbennig y to hyn, ceir cred nad gweddus mynd allan i 'wydd pobol' wedi cyfnod o salwch heb yn gyntaf fynd i'r capel neu'r eglwys i ddiolch. Yn yr un modd credid gynt na ddylai mam a oedd newydd roi genedigaeth i blentyn fynd i ymweld â phobl heb yn gyntaf fynd i le o addoliad. ('Churching' yw'r enw Saesneg ar yr arfer.) Y mae'r arfer hwn yn seiliedig ar yr hen goel mai gweithred amhur oedd geni plentyn ac yn arbennig ar yr awydd i roi diolch i Dduw am eni plentyn newydd i'r byd. Ychydig bellach, dybiwn i, sy'n cadw'n ddeddfol at yr arfer. Fodd bynnag, yn 1978 roedd oddeutu dwsin o famau ifanc yn pryderu'n fawr ynghylch y mater, ac aethant at Ficer Llys ger Casnewydd, Gwent, i nodi eu cred ei bod yn 'anlwcus i fam a oedd newydd roi genedigaeth i fynd i dy rhywun arall heb yn gyntaf fynd i'r eglwys.' Ymatebodd y Ficer drwy ysgrifennu yng nghronicl yr eglwys: Hyfrydwch arbennig i mi fu cael ufuddhau i gais o'r fath, a mawr werthfawrogaf y gwahoddiad. Ganed fy nhad ym Mhen-dre, Ty Nant, Plwyf Llangwm, fferm fechan oddeutu hanner milltir o Benyfed. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Llangwm, a chofiai'n dda am David Ellis yn dod yno am gyfnod byr yn athro ifanc hoffus, ond digon dibrofiad. Fe'm maged innau ar fferm Yr Hafod, yn ardal Ty Nant, bro mebyd David Ellis yntau. Er pan oeddwn yn hogyn clywais drigolion Uwchaled yn sôn yn aml amdano, a hynny gyda pharch ac anwyldeb. Bûm yn sgwrsio hefyd ag Alice Harrietta Jones (Etta), chwaer ieuengaf David Ellis, a recordiwyd ei hatgofion amdano ar dâp. Fy mraint i yn ystod y chwarter canrif diwethaf fu cael rhoi ar gof a chadw ronyn o'r etifeddiaeth gyfoethog yn Uwchaled a'r cyffiniau, ac, mewn darlith, ysgrif a chyfrol i rannu'r trysor hwn ag eraill. Rhoddwyd sylw arbennig i draddodiad barddol toreithiog y cylch, gan gynnwys, yn naturiol, gerddi David Ellis, Penyfed. Cyfeirir ato hefyd yn fy nghyflwyniad i ddiwylliant gwerin Uwchaled mewn cyfrol, Yn Llygad yr Haul, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyhoeddiadau Mei. Yn y gyfrol hon ceir atgofion Eifion Roberts am Gefn Brith a'r cyffiniau, bro beirdd megis Edward Morris, Perthillwydion, a Jac Glan-y-gors, Thomas Jones, Bryn Du (Cerrigelltgwm Isa, Ysbyty Ifan, wedi hynny), a Tomi Jones, Cernioge Bach ac Aelwyd Brys. Nyth hen yr heniaith annwyl, Gwlad telyn, englyn a hwyl, meddai'r Parchg Huw Roberts yn ei gywydd i Uwchaled. Cofiwn hefyd eiriau'r Salmydd: 'Fy llinynnau a syrthiasant mewn lleoedd hyfryd; y mae i mi etifeddiaeth deg.' Yr oedd David Ellis yntau yn caru bro ei febyd yn angerddol. Meddai yn ei gywydd 'Gyrru'r Eryr i Gymru [o Facedonia]': Dos drwy Gymru... Ar ei hyd, taria wedyn Ar lawr glas Parlwr y Glyn; Yno mae hoen 'y mywyd, Ac yno mae, gwyn 'y myd, Ardal hyfryd Rhyd Lefrith A'r dydd ar y bronnydd brith. Ond er 'gyrru'r eryr i Gymru', ni chafodd y bardd ddychwelyd o Facedonia i droedio eto Barlwr y Glyn nac 'ardal hyfryd Rhyd Lefrith' yn Ninmael, ger ei gartref. Un dydd, ganol Mehefin 1918, gadawodd ei bapurau yn ei babell. Yn eu plith yr oedd llyfr nodiadau a cherddi, yn cynnwys y cywydd anorffenedig hwn. Cerddodd ymaith, ac ni welwyd mohono gan neb na chynt nac wedyn. Fyth oddi ar hynny bu ei ddiflaniad yn boen meddwl i'w deulu ac yn ddirgelwch i'w gyd-filwyr a'i lu cyfeillion. Camp fawr y cofiant hwn yw peri i ni, ddarllenwyr, rannu peth o'r boen ac ymdeimlo â'r dirgelwch. I mi bu darllen y gyfrol yn brofiad dwys. Cyrhaeddodd lai na deuddydd cyn imi ymadael am Wlad Groeg, ac yma yn Athen a Mati Zeugly y darllenais hi. Rhyfedd y cyd-ddigwyddiad. Agor drws ar fywyd llanc ifanc o'r un fro yn union â minnau yn yr union wlad yr aeth ef iddi ar drafael anorfod ym mis Medi 1917, dri chwarter canrif union yn ôl. Aeth yno i Salonica ym Macedonia gyda'r uned Gymreig arbennig o'r 'Royal Army Medical Corps (R.A.M.C).' Corfflu Meddygol oedd hwn 'ar gyfer gweinidogion a darpar-weinidogion, myfyrwyr diwinyddol ac eraill o dueddiadau heddychlon a ddymunai wasanaethu yn y Rhyfel Mawr heb orfod trafod arfau.' Ond, a dyfynnu unwaith eto o'r cofiant: 'Hyd yn oed cyn iddo gyrraedd pen y daith, yr oedd Dei Ellis yn dyheu am ddychwelyd i Gymru. Anwylodd Cynan un atgof amdano [yn ei ragarweiniad i gyfrol R.R. Williams, Breuddwyd Cymro mewn Dillad Benthyg, 1964]: Cofio bore godi gyda Dafydd Ellis i gyfarch y wawrddydd gyntaf ar y Môr Canoldir, a ninnau'n hwylio reit i bwynt codiad haul. Ac wedi i'r haul lamu o'r môr fel pelen dân, Dafydd yn canu yn fy nghlust: "Cyn delwyf i Gymru'n ôl, fy ffrind, Cyn delwyf i Gymru'n ôl, O! bydd glaswellt dros fy llwybrau i gyd Cyn delwyf i Gymru'n ôl." 'Roedd y gân yn ffefryn gan David Ellis drwy gydol yr amser y bu yn Salonica.' Dau athro yw'r gwr a'r wraig sy'n rhoi cartref oddi cartref imi yma yn Mati Zeugly: Dimitris Koutroubas ac Anna J. Papamichael. Y mae hi yn gyfarwyddwraig Institiwt Llên Gwerin Academi Athen. Y mae yntau yn bennaeth Cyfadran y Clasuron yn y Brifysgol yn Athen. Dau Athenwr dysgedig yn wir. Byddai David Ellis yn llawen iawn yn eu cwmni. Wedi'i fagu yn ardal ddiwylliedig Uwchaled, daliodd yntau ar bob cyfle i ddringo ysgol gwybodaeth, a bu'n fyfyriwr brwd a gweithgar yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor. Y mae'r Athro Koutroubas hefyd yn fardd, yn cyhoeddi cyfrolau o gerddi mewn Lladin a Groeg. Er yn Roegwr o'r Groegwyr ei hunan, y mae'n mynegi yn ei gerddi ddyhead dwfn am weld heddwch rhwng gwlad a gwlad a brawdgarwch rhwng dyn a dyn. Byddai neges ganolog ei farddoniaeth wrth fodd calon y bardd ifanc o Gymru. Mewn telyneg megis 'Cysgodion yr Hwyr' y mae yntau, yng nghanol erchyllterau rhyfel, yn mynegi ei hiraeth dwfn am heddwch a thangnefedd, a gwynfyd natur ardal ei faboed. Llanw'r nos dros erwau galar, Hoen a gobaith dan ei li, Ysbryd braw yn crwydro'r ddaear, Tristwch yn fy mynwes i... Cwynfan Serb yng ngwres ei glefyd, Pell y wawr a'r nos yn hir, Hiraeth bron am wynfyd mebyd Hwnt i gaerau Monastir. Swn y fagnel ar y bryniau, Gwaed y dewr ar dwrf y rhos, Angau'n casglu ei ysgubau Cyn aeddfedu gyda'r nos. Pan ddaw cwsg i gau'm hamrannau Crwydra'm hysbryd dros y bryn, Hoffa ddianc at y blodau Dyf o bobtu Pont y Glyn. * * * Eisoes fe gafwyd gan Alan Llwyd ddwy gyfrol nodedig ym ymwneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf: Gwaedd y Bechgyn: Blodeugerdd Barddas o Gerddi'r Rhyfel Mawr, 1914 - 1918 (1989), a Gwae Fi fy Myw: Cofiant Hedd Wyn (Cyhoeddiadau Barddas, 1991). A dyma yn awr gan Alan ac Elwyn Edwards gymwynas arbennig arall. Ar ran holl ddarllenwyr Cymraeg, felly, fy mhleser digymysg i yw diolch o galon iddynt am eu llafur. Y mae'r cofiant yn gyfraniad o bwys wedi'i seilio ar waith ymchwil trylwyr, yn cynnwys defnydd helaeth o ffynonellau niferus, llafar ac ysgrifenedig. Ynddo ceir portread byw a chynhwysfawr o fywyd byr y bardd o Benyfed, Plwyf Llangwm. Yn y bennod gyntaf cyflwynir ni i'w deulu: llinach Ellisiaid Hendre Ddu, Y Bala, a Thyddyn Eli, Llangwm. Aelod o'r teulu oedd y Parchg Thomas Ellis, Tyddyn Eli, hen, hen daid David Ellis, a phrif arloeswr Annibyniaeth yr ardal. Roedd un aelod o'r teulu, Catherine Ellis, merch Hendre Ddu, wedi priodi Y Parchg Harri Cadwaladr, ewythr i Kate Roberts. Yn y cofiant dyfynnir yr atgof diddorol hwn o gyfrol Kate Roberts, Y Lôn Wen (tud. 81): 'Yr oedd yno [yn Hendre Ddu] dwll mawn o dan y simnai fawr wedi ei orchuddio â phapur. Tynnwyd y papur, ac yn y twll fe ddowd o hyd i un o'r cyfieithiadau cyntaf o'r Testament Newydd, a'r enw ar ei glawr oedd "Catherine Cadwaladr".' Aelod arall o'r teulu oedd Elena Puw Morgan, y nofelydd. Yn y cofiant cyflwynir ni i amryw byd o gyfeillion Dei Ellis. Un o'i gyfeillion agos yn y Coleg, ac wedi hynny pan oedd yn athro ysgol, oedd Kate Roberts. Y mae'n arwyddo ei lythyr ati o Morpeth, 17 Gorff. 1915, fel hyn: 'Yr eiddoch yn bur, Yr hen Gymro gwlatgar, Dei.' Un o'i gyfeillion pennaf yn y fyddin oedd Lewis Valentine. Cyflwynir yn y cofiant hefyd ddarlun eithriadol ddiddorol o fywyd Dei Ellis yn y Coleg ym Mangor, a darlun, yr un mor werthfawr, o natur yr addysg a geid yno bryd hynny, ac yn arbennig yn Adran Y Gymraeg. Yr un modd y mae yn y Cofiant gofnod manwl o'r modd y blodeuodd awen David Ellis yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr. Mi dybiwn i y bydd gan ddarllenwyr ddiddordeb neilltuol yn y pytiau cynganeddol hynny - amryw ohonynt yn fyrfyfyr - sydd bellach yn rhan o lên a llafar y sawl sy'n ymhé l â barddoniaeth, a ninnau, efallai, heb lwyr sylweddoli bob amser mai David Ellis yw'r awdur. Er enghraifft, esgyll ei englyn i'w hen athro, John Morris Jones: Y dyn o dân a doniau, Chwiliwr gwir, chwalwr y gau. Neu'r cwpled hwn o'i rieingerdd ddoniol 'Paradise Lost', cerdd ar ffurf awdl a anfonwyd ganddo i gystadleuaeth yn Eisteddfod Ryng-golegol 1912 neu 1913: Mwyn a melys min Malen, Môr o jam yw Meri Jane! Y mae bwrlwm awenyddol David Ellis yn cadarnhau tystiolaeth ei gyfeillion ei fod yn fachgen ifanc ffraeth, llawn hwyl a direidi. Nid oes angen gwell enghraifft o hynny na'i ymateb i gystadleuaeth y cywydd yn Eisteddfod Ryng-golegol 1912. Dyfynnaf o'r Cofiant. 'Testun y cywydd yn eisteddfod 1912 oedd 'Y Nos', a sicrhaodd David Ellis le anrhydeddus iddo'i hun yn chwedloniaeth Coleg y Gogledd â'r cywydd-un-cwpled a anfonwyd ganddo i'r gystadleuaeth. 'Roedd ei ffugenw, 'Un wedi iddi fyned yn nos arno', bron yn hwy na'r gerdd ei hun: Tremiaf, mi ganaf i'r gwyll - Myn diaw, y mae yn dywyll!' Yn fwy na dim, cyflwynir ni yn y Cofiant hwn i dynged drist a droes asbri a direidi llanc ifanc yn y diwedd yn dorcalon. A dyna, yn fy marn i, bennaf camp y Cofiant presennol. Y mae'n gofiant i un bachgen glandeg, un 'Cymro gwlatgar', a gollwyd ar faes y gad ymhell o'i gartref. Y mae'n gofiant i fardd ifanc addawol, ac y mae'r cerddi a gyhoeddir ynddo, ynghyd â'u cefndir, yn ychwanegu llawer at ein dirnadaeth o farddoniaeth Gymraeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ond y mae'r gyfrol yn llawer mwy na hynny. Ar un wedd y mae'n gofiant hefyd i bob milwr o Gymro a fu farw yn yr heldrin fawr. Bydd teuluoedd eraill a gollodd anwyliaid yn y Rhyfel yn gallu eu huniaethu eu hunain â hiraeth teulu Penyfed o golli eu mab hwythau. Yn sicr, mi wn y bydd teuluoedd yn Uwchaled yn teimlo felly. Y mae David Ellis ei hunan mewn dau englyn ac un llythyr yn cyfeirio at dri bachgen hoff o'r ardal a fu farw yn y Rhyfel - tair addewid a dorrwyd. Sam Price, Glynllifon, Dinmael, oedd un ohonynt. Sami'r dewrwas, mor dirion - dy wên gynt, Dynnai gur o galon! Lliwiau haf yng Nglynllifon Yntau'r dewr tu hwnt i'r don. Dafydd Jones, Llwyncwbl, Gellïoedd, Llangwm, oedd yr ail. Telynor medrus a hyfforddwyd gan Delynores Maldwyn oedd ef. Bu farw yn Ffrainc, 7 Ionawr 1917, yn 26 mlwydd oed. Meddai Dei Ellis amdano: Brwd alaw ei bêr delyn - ddistawodd, Ys tywyll ei fwthyn; Hyd erwau gloes drwy y glyn Aeth o ymaith a'i emyn. Y trydydd oedd Arthur, mab Thomas Jones, Cerrigelltgwm Isa, Ysbyty Ifan (symudodd yno o Fryn Du, Cefn Brith, ym 1912). Fel ei dad, roedd Arthur yntau yn ymddiddori mewn barddoni, yn canu'r ffidil, ac yn llanc diwylliedig iawn. Y mae David Ellis yn sôn yn hiraethus amdano mewn llythyr a anfonwyd ganddo (lai na deufis cyn iddo ddiflannu) at Tomi Jones, Cernioge Bach (Aelwyd Brys, Cefn Brith wedi hynny). 'Druan o Arthur', meddai. 'Bachgen ardderchog oedd o, a'i enaid ar dân dros Gymru a'i phethau.' Cyfansoddodd Thomas Jones gerdd goffa i'r 'Telynor Ieuanc o Langwm.' Y mae mwy nag un o'i gerddi yn mynegi yn ogystal, yn dyner a diffuant iawn, ei hiraeth am Arthur. Y mae'r cerddi hyn gyda'u hangerdd dwys yn goffâd teilwng iawn hefyd i fechgyn ifanc eraill yn Uwchaled (a llawer ardal debyg iddi) a gollwyd yn y Rhyfel, a mab Penyfed yn eu plith. Dyma ddau bennill o'i gerdd 'Hêd y Gwcw': Hêd y gwcw, gwna un siwrne, Hêd ymhell i'r dwyrain dir, Dal ar linell haul y bore, Ar dy aden dal yn hir; Gerllaw Tigris, er mor anodd, Dyro gân o gôl y gwynt, Yn yr anial, yno tawodd Un a ganodd lawer gynt. Naddo meddai ei gofiannydd, William Pierce. Nid oedd hynny ond "chwedl o ffynhonnell ddiwerth", meddai, ac felly y mae'n "hollol anghredadwÿ [1]. Yr oedd David Williams o'r un farn a mynnai fod y gosodiad "yn amlwg yn anghywir" [2]. Ni rydd y naill na'r llall resymau cadarn tros eu barn. Ffynhonnell y stori oedd pamffled enllibus Thomas Nashe, bywgraffydd cyntaf Penri, An Almond for a Parrat (1590), sy'n dweud fod Penri yn "babydd mor rhonc â'r un a ddaeth o Gymru erioed" [3]. Ond yn ei gyffes ffydd a luniodd ychydig cyn ei farw ym 1593 cydnabu Penri, gan gyfeirio at y Frenhines, "i'r Arglwydd yn ystod ei theyrnasiad rasol hi fy nwyn i wybod ei Efengyl" [4]. Er na fynn Pierce hynny, nid oes unrhyw reswm sylweddol tros dybio nad troëdigaeth oddi wrth Babyddiaeth oedd hon, fel a ddigwyddodd yn hanes William Salesbury genhedlaeth ynghynt [5]. Ac y mae Thomas Nashe yn ychwanegu un briwsionyn awgrymog am droëdigaeth Penri sef bod sgwrsio â Ffrancod wrth ymyl Coleg Crist wedi ei droi oddi wrth Babyddiaeth at olygiadau'r Ymwahanwyr [6]. Gwyddom mai'n ddiweddarach ar ei yrfa y cofleidiodd Penri'r golygiadau hynny ond hawdd credu mai yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr yng ngholeg Peterhouse, Caergrawnt, y troes yn Biwritan gan mor gryf oedd y mudiad yn y Brifysgol honno. Bu cryn dipyn o daeru'n ddiweddar ynglyn â phwy'n union y dylid eu galw'n Biwritaniaid [7]. Pabydd o'r enw Thomas Stapleton a ddefnyddiodd yr enw "Piwritan" mewn print gyntaf wrth ymosod ar yr Esgob John Jewel a'r Deon Alexander Nowell [8] a buan y daethpwyd i'w ddefnyddio am y diwygwyr mwyaf penderfynol. Yr oedd sawl math o Biwritan. Yr oeddent i gyd yn Brotestaniaid eiddgar ac yn bybyr eu hymlyniad wrth y math diwinyddiaeth a gysylltir ag enwau Zwingli a Bullinger, diwygwyr Zurich, a John Calfin yn Genefa. Pwysleisiant fod angen mwy o ddiwygio ar Eglwys Loegr nag a sylweddolwyd ym 1559 wedi esgyniad Elisabeth i'r orsedd a hynny er mwyn cael mwy o bregethu a gwell pregethu a gofal bugeiliol mwy effeithiol yn y plwyfi. Ac yr oeddent yn ffieiddio'r defodau a'r gwisgoedd a'r addurniadau eglwysig anysgrythurol a gyfrifent yn olion Pabyddiaeth. Ond anghytunent ymhlith ei gilydd sut oedd hi orau i sicrhau'r diwygiadau hyn. Yr oedd y rhai mwyaf dof ohonynt yn ddigon bodlon ar y drefn esgobol ac at ei gilydd yn parchu'r ddisgyblaeth eglwysig ond yn gobeithio y gwawriai diwrnod gwell cyn bo hir pan symudid y pethau a'u tramgwyddai. Yr oedd eraill yn fwy tanbaid ac eisiau gweld cryn newid yn nhrefn llywodraeth yr Eglwys, efallai hyd yn oed cael gwared â'r drefn esgobyddol. Eu gobaith hwy oedd y byddai eu pregethu'n creu barn gyhoeddus ddigon cref i ddylanwadu ar y Senedd i wneud gwelliannau. Ond gwrthwynebwyr goddefol oedd y rhain hefyd. Ceid eraill a oedd o blaid gweithredu uniongyrchol. Breuddwydient hwy am ddymchwelyd y drefn esgobyddol a gosod trefn "bresbyteraidd" yn ei lle gan fwrw ati lle'r oedd cyfle i arloesi gyda chynlluniau arbrofol yma ac acw yn y plwyfi. I'r berw hwn y camodd John Penri. Pan ymddangosodd Penri ar y llwyfan gyhoeddus ar ôl gorffen ei gwrs addysg tua Gorffennaf 1586, yr oedd y drefn Brotestannaidd a sefydlwyd gan y Frenhines Elisabeth a'i chynghorwyr wedi cael saith mlynedd ar hugain i fwrw gwreiddiau. Ond nid oeddent wedi cael dyfnder daear chwaith. Yn un peth yr oedd Pabyddion y Cyfandir, rhai Sbaen yn neilltuol, yn chwythu bygythion. A phan ddaeth Elisabeth i'r orsedd prin bod pump y cant o'r holl glerigwyr yn unrhyw fath o Brotestaniaid. Beth petai cynghrair o wledydd Pabyddol yn gwneud cyrch ar y deyrnas? Onid oedd llawer o Babyddion dirgel, na wyddai neb yn iawn beth oedd eu nifer, yn barod i groesawu cyfle i adfer yr hen Ffydd? Ac ar y llaw arall, yr oedd ar y mwyaf o Biwritaniaid selog nid yn unig ymhlith y clerigwyr ond ymhlith yr uchelwyr hefyd nad oeddent yn colli'r un cyfle i greu pryder trwy geisio diwygio'r Eglwys. Felly, yn ystod y saith mlynedd ar hugain yr oedd yr esgobion druain mewn cryn benbleth oherwydd yr awelon croes a oedd yn chwythu arnynt. Nid rhyfedd fod arweinwyr yr Eglwys yn pendilio rhwng disgyblu llym a goddefgarwch digon hael. Os oedd rhai Piwritaniaid a Phabyddion yn gorfod dioddef ar brydiau yr oedd eraill yn mwynhau eithaf llonydd. Erbyn bod Penri'n gorffen ei goleg, yr oedd y to cyntaf o esgobion a benododd Elisabeth yn prysur gilio i'r cysgodion. Yr oedd y blaenwyr wedi marw - esgobion fel John Jewel, John Parkhurst, James Pilkington, Robert Horne, Richard Davies, a'r archesgobion Matthew Parker ac Edmund Grindal. Gwyddai'r rhain beth oedd blas erledigaeth ac alltudiaeth yng nghfnod Mari Tudur. Yr oeddent wedi derbyn cymrodeddau trefn newydd Elisabeth ond gan resynu o'u herwydd. Sioc iddynt oedd sylweddoli ym 1564 na fynnai'r Frenhines godi bys bach i hybu'r diwygiadau pellach yr oeddent wedi gobeithio amdanynt ym 1559. Ond ym 1583 daeth John Whitgift yn archesgob Caergaint. A dyma genhedlaeth newydd yn gosod ei llaw ar yr awenau. Ni welai hon fod eisiau newid dim ar yr Eglwys - dim ond gorfodi pawb i gydymffurfio. Ymddiriedai'r Frenhines yn llwyr yn ei harchesgob newydd ac ar unwaith gallodd lywodraethu'r Eglwys gydag awdurdod na fu'n eiddo i'w ragflaenwyr. Trawsffurfiodd yr hen Gomisiwn Eglwysig a'i droi'n Llys yr Uchel Gomisiwn a hwnnw'n gwbl wynebgaled yn defnyddio ddulliau hen chwilys yr Oesoedd Canol, yn gorfodi pob cyhuddedig i gymryd y llw ex officio a oedd yn caniatá u i esgob yn rhinwedd ei swydd ofyn unrhyw gwestiwn a fynnai i'r cyhuddedig a phe peidiai hwnnw ag ateb, gellid cymryd yn ganiataol ei fod yn euog, er nad oedd un ditment wedi ei chyhoeddi yn ei erbyn cyn hynny na thwrnai'n bresennol i'w gynorthwyo. Yr oedd y cwbl yma'n creu ofn a chasineb dwfn ac yr oedd Penri druan cyn bo hir i gael blas y ffisyg chwerw hwn a ddistyllodd Whitgift i buro'r Eglwys o'r gwenwyn Piwritanaidd. Ond prin y gellid disgwyl i Gymro ifanc tair ar hugain oed, ar dân o frwdfrydedd tros ei egwyddorion crefyddol, sylweddoli fod y rhod yn troi ac y byddai ei dynged ef ei hun yn dystiolaeth drist i effeithiolrwydd yr adwaith o dan John Whitgift. Gwnaeth Penri y rhan fwyaf o'i waith yn sir Northampton, yn esgobaeth Peterborough ac ni ellir gwerthfawrogi'n llawn gymhellion ei weithgarwch heb gymryd hynny i ystyriaeth. Trigolion y sir honno oedd ei gydweithwyr ac uchelwyr y sir oedd ei noddwyr - pobl fel Sir Richard Knightley, Roger Wigston a'i wraig, Henry Sharpe, y rhwymwr llyfrau, Giles Wiggington o Oundle, ac, wrth gwrs, Eleanor Godley, merch Henry Godley o dref Northampton, a briododd â John ar 5 Medi 1588 yn Eglwys yr Holl Saint, Northampton [9]. Pobl egnïol oedd Piwritaniaid sir Northampton. Gwnaethant defnydd helaeth o'r "proffwydon" [10]. Cyfeillachau tebyg i frawdoliaethau gweinidogion ein hoes ni oedd y rhain a'u maes llafur oedd y Beibl. Buont yn boblogaidd ar y Cyfandir ymhell cyn hyn, yn Zurich yn amser Zwingli ac yn Strasbourg ar ôl hynny. Fe'u gwelid fel moddion i gyfoethogi dysg clerigwyr ac yn arbennig i roi amgenach crap iddynt ar y Beibl a'i gynnwys [11]. Yn yr oes honno nid oedd gwybodaeth fanwl o gynnwys y Beibl yn beth cyffredin hyd yn oed ymhlith offeiriaid. Y prif symudydd i sefydlu'r "drefn", fel y gelwid hi'n fynych, yn Northampton oedd Percival Wiburn, gwr a fu'n alltud yn ystod teyrnasiad Mari Tudur a gwr y gwelwyd ef ym Mawrth 1565 yn ceisio cael y Comisiynwyr Eglwysig i lacio ychydig ar y rheolau ynglyn â gwisgo'r gwisgoedd offeiriadol pabyddol, a hynny yng nghwmni dynion cyn enwoced â Miles Coverdale, Alexander Nowel, Deon Sant Paul, Laurence Humphrey a Thomas Sampson [12]. Sefydlodd Wiburn y gyfeillach yn Northampton ar 5 Mehefin 1571 gyda rheolau manwl i sicrhau trefn ac urddas yn y cyfarfodydd [13]. Nid oedd Edmund Scambler, esgob Peterborough o 1560nhyd 1585, o blaid y peth a chollodd Wiburn ei swydd fel pregethwr y dref. Pan dynnwyd sylw'r gwleidydd dylanwadol, Iarll Leicester, un o noddwyr y Piwritaniaid, at yr hyn a ddigwyddodd yr oedd yn bur ddig a mynnodd gan yr esgob atal ei law. Y gwir yw fod cyfeillach Northampton yn bygwth datblygu'n rhywbeth mwy na chylch trafod oherwydd ar ôl yr astudiaeth Feiblaidd âi'r brodyr ymlaen i ystyried unrhyw lithriadau moesol neu wendidau ysbrydol a geid ymhlith y clerigwyr. A gwaeth na hynny yng ngolwg y llywodraeth oedd fod swyddogion y dref yn cymryd rhan yn y trafodaethau ac yr oedd y Frenhines yn bendant iawn na ddylid annog lleygwyr i fusnesu mewn materion eglwysig. Ar ben hynny, un ymhlith sawl cyfeillach oedd hon a rhyngddynt yr oeddent yn dechrau hybu cyfnewidiadau yn nhrefn gwasanaethau'r eglwysi a oedd yn groes i ofynion y Llyfr Gweddi Gyffredin. Erbyn 1574 yr oedd Scambler yn dechrau diswyddo clerigwyr anufudd. Daeth Edmund Grindal a oedd o blaid y proffwydonyn archesgob Caergaint ym 1575 ond buan y gorchmynnodd Elisabeth iddo roi terfyn arnynt. Er gorfod wynebu gwg yr awdurdoadu gwladol ac eglwysig, ni wangalonnodd Piwritaniaid esgobaeth Peterborough. Yn un peth yr oedd uchelwyr pwerus yn gefn iddynt. Piwritan cymedrol oedd Syr Walter Mildmay (1520?-89), Canghellor y Trysorlys a sefydlydd Coleg Emmanuel, Caer-grawnt [14]. Ffyrnicach Piwritan oedd Syr Richard Knightley (1533-1613), sgweier Fawsley [15]. Bu'n aelod seneddol droeon a phriododd fel ei ail wraig Elizabeth, merch Edward Seymour, Dug Somerset, yr Amddiffynnydd yng nghyfnod Edward VI [16]. Ac yr oedd Leicester a Knightley wedi helpu i sefydlu'r gyfeillach yn Northampton [17]. Yr oedd cysylltiadau urddasol gan rai heblaw Knightley â phobl ddylanwadol fel Syr Christopher Hatton, William Cecil a Iarll Leicester. A thrwy'r sir ceid uchelwyr "cryf eu hargyhoeddiadau...a brofodd yn wrandawyr parod ar bregethu'r Piwritaniaid" [18]. Ac ni ddylem anghofio Job Throckmorton (c.1545-1601), prif noddwr Penri, a oedd yn byw dros y ffin yn Haseley, sir Warwick [19]. Mae'r cwbl hyn yn berthnasol iawn wrth drafod gyrfa Penri. Fe'i cyhuddwyd o dro i dro ei fod yn fyrbwyll, ffôl ac eithafol. Ond wrth fudo i sir Northampton yr oedd yn ymuno â mudiad Piwritanaidd a oedd yn llechu o dan adenydd gwyr dylanwadol ac a oedd yn ymddangos fel petai dyfodol disglair o'i flaen. Yn wir, yr oedd y mudiad yn ffynnu yng nghanoldir Lloegr. Cyn diwedd y ganrif yr oedd cryn dri dwsin o blwyfi yn y sir a ddisgrifiwyd yn y llysoedd eglwysig fel rhai Piwritanaidd [20] a'r un modd yn sir Nottingham yr oedd 38 o blwyfi wedi mwynhau gweinidogaeth Biwritanaidd cyn 1600 [21]. Pan esgynnodd John Whitgift orsedd Caer-gaint ym Medi 1583 dechreuodd yr hin oeri. O fewn y mis yr oedd wedi cyhoeddi tair erthygl yn gorchymyn pob clerigwr i gydnabod uchafiaeth y Frenhines, i ddatgan nad oedd dim yn y Llyfr Gweddi'n groes i Air Duw ac i gymeradwyo'r cwbl o'r Deugan Erthygl namyn Un. Yr ail erthygl - yr un ynglyn â'r Llyfr Gweddi Gyffredin - oedd yr un fwyaf cynhennus. Ar y cychwyn gwrthododd 45 o glerigwyr esgobaeth Peterborough danysgrifio [22]. Perswadiodd yr Arglwydd Burghley a Syr Francis Walsingham (1530?- 90) [23] yr archesgob i gymedroli ychydig ar ei ofynion trwy ganiatá u i'r Piwritaniaid arddel y Llyfr Gweddi i'r graddau yr oedd ei sylwedd yn gyson â'r Beibl ac â sylwedd y ffydd a arddelid gan Eglwys Loegr [24]. A thynnwyd colyn y brotest. Ond tros dro'n unig. Bu llymder yr archesgob yn foddion i wneud y Piwritaniaid yn fwy ystyfnig. Yr oedd nifer yn eu plith yng nghylch Northampton a ymawyddai am ddymchwelyd y drefn esgobyddol ac yr oedd perygl gwirioneddol i'r hyn a fu hyd yma'n anghydweld y tu mewn i gorlan yr Eglwys droi'n rhwyg a yrrai rai i ymneilltuo ohoni. Tua 230 o aelodau oedd yn Ebeneser pan aeth yno, gyda 145 ar lyfrau'r Ysgol Sul. Yr oedd digon o waith o ganlyniad yn aros y gweinidog newydd. Un peth a oedd yn rhoi arbenigrwydd i oedfeuon Ebeneser oedd fod traddodiad y gerddorfa'n parhau. Yr oedd cerddorfa yn yr hen Ebeneser ymhell cyn 1859. Y codwr canu cyntaf oedd William Eardley ac fe'i dilynwyd ym 1837 gan Hugh Davies, Ty Capel. Gan fod côr yno'n ogystal â cherddorfa, daeth canu Ebeneser i fri mawr. Pan soniwyd am gael harmoniwm yn amser Ap Vychan (rhwng 1855 a 1873), bu gwrthwynebiad gan Gweirydd ap Rhys a'i ffrindiau - a pham cael organ o fath yn y byd gan fod cerddorfa ar gael? Nid oedd Ap Vychan o blaid cael offeryn chwaith ac ar ôl pasio'r penderfyniad i gael un, ei sylw wrth y gynulleidfa oedd, "Hwyrach y byddai gystal ichwi fynd ymlaen i brynu mwnci!" Ond er gwaethaf pryderon y beirniaid, dal i fynd o nerth i nerth yr oedd y canu, gyda'r côr yn cipio'r gwobrau yn yr eisteddfodau. Pan gyrhaeddodd Curig Davies, yr oedd y côr wedi diflannu, mae'n wir, ond yr oedd tair ffidil neu bedair yn dal i barhau'r traddodiad cerddorfaol. Cipio'r merched i waith rhyfel a roes derfyn arno. Cryfder Curig yn Ebeneser oedd ei waith bugeiliol. Yr oedd ei garedigrwydd naturiol yn esgor ar gymwynasgarwch a chyfeillgarwch. Cariai bobl hwnt ac yma yn ei fodur mewn cyfnod pan oedd ceir yn dal yn brin a phetrol wedi ei ddogni o 1939 ymlaen. Nodwedd arall yn ei gymeriad a'i gwnâi'n fugail effeithiol oedd ei allu i siarad yn ddi- lol â neb pwy bynnag. Yr oedd bob amser yn sgwrsiwr brwdfrydig - er mawr bryder i'r sawl oedd yn cael ei gludo yn ei gar! Ond yr oedd hyn yn gaffaeliad iddo pan alwai yn nhai'r aelodau, yn arbennig y rheini a deimlai hytrach yn swil ym mhresenoldeb gweinidog. Nid oedd ef ei hun yn un i sefyll ar ei urddas. Yr un modd dangosodd ef a Mrs Davies letygarwch hael yn y mans, Tre Hywel, Ffordd y Garth Uchaf, tuag at y llu myfyrwyr a ddeuai i Fangor. Ffrwyth y cwbl yma oedd llwyddo i greu yn Ebeneser awyrgylch gynnes, deuluol. Yr oedd ganddo ddiddordeb neilltuol mewn addysgu. Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, ymgofrestrodd yn Adran Addysg Coleg y Brifysgol a sefyll yr arholiadau rhagarweiniol ar gyfer M.A. Ar ôl pasio'r rheini, aeth rhagddo i baratoi traethawd M.A. ar "Yr Ysgol Sul o safbwynt Addysg Fodern" ond oherwydd y galwadau cynyddol ar ei amser ni chwblhaodd y gwaith. Yr oedd ganddo ofal mawr tros blant a phobl ifanc. Yr oedd y sêl tros yr Ysgol Sul a oedd i fod mor amlwg yn ddiweddarach yn Ysgol Haf yr Ysgol Sul wedi dechrau cynhesu hyd yn oed cyn ei ddyfod i Ebeneser. Buasai'n paratoi gwersi'r Ysgol Sul ar gyfer Y Darian ym 1929-30 ac yn Y Cyfarwyddwr o 1930 hyd 1935. O ran hynny, bu'n olygydd Y Cyfarwyddwr am saith mlynedd. Yr un brwdfrydedd oedd yn ysbrydoli ei erthyglau fel "Gwr y Gornel" yn Y Tyst ym 1934 a 1935. Dechreuodd olygu Dysgedydd y Plant hefyd ym 1932. Nid yw'n rhyfedd felly iddo yn ystod ei gyfnod yn Ebeneser fod yn athro ymroddgar ar ddosbarth o'r plant hyn. Beth bynnag fyddai'r wers, llwyddai i gynnwys ynddi ryw wybodaeth gyffredinol newydd i'r plant. Dichon nad oedd hynny'n ymddangos yn berthnasol iawn ar y pryd, ond y mae'r disgyblion a fu yn y dosbarth hwnnw'n cofio'r wybodaeth hyd heddiw. Er enghraifft, yr oedd yn Annibynnwr pybyr ac yn ymhoffi yn hanes y tadau. Ac nid oedd yn ddim ganddo adrodd hanes rhai o fawrion yr enwad yn ystod ei wers Ysgol Sul. Y canlyniad oedd i aelodau ei ddosbarth ddod yn ymwybodol eu bod yn perthyn i draddodiad cyfoethog. Yr oedd 1939 yn flwyddyn dathlu trichanmlwyddiant sefydlu eglwys Annibynnol gyntaf Cymru yn Llanfaches. Curig Davies oedd yn fwyaf cyfrifol am grynhoi defnyddiau'r llyfrynnau dathlu a'u gweld trwy'r wasg. Ysgrifennodd Storïau am Annibynwyr (1939) ei hun. Y lleill oedd Arweinwyr yr Annibynwyr gan J.Rees Jones, Eglwysi'r Annibynwyr gan nifer o awduron a chyfrol swmpus Geraint Dyfnallt Owen, Ysgolion a Cholegau'r Annibynwyr (1939). Yn fuan wedyn y cyhoeddodd Y Morwr a'r Merthyr (1940) i'r Gymdeithas Genhadol. Prawf trawiadol o'i ddiddordeb yn yr ieuenctid, ac o'i ynni diorffwys, oedd ei waith yn lansio'r cylchgrawn, Gwybod: Llyfr y Bachgen a'r Eneth. Tom Parry (Syr Thomas Parry yn ddiweddarach) ac yntau oedd y golygyddion a'r cyhoeddwyr oedd Hughes a'i Fab, Wrecsam. Ymddangosodd y rhifyn cyntaf, yn cynnwys 48 tudalen, yn Rhagfyr 1938. Yn hwnnw dywed y golygyddion, Ni fwriedir i'r gwaith fod yn gyhoeddiad crefyddol na sectyddol mewn unrhyw ystyr. Ond hyderwn y bydd ei dôn i gyd yn gymorth i arwain y meddwl ifanc i ddeall a dirnad yn well ffyrdd a throeon bywyd, a galluogi dyn i ennill llywodraeth fwy dros ei dynged. Mae'r datganiad hwn dipyn yn fwy athronyddol na chynnwys y cylchgrawn. Ei batrwm oedd gweithiau fel The Children's Encyclopaedia yn Saesneg. Yr oedd ynddo gymysgfa fywiog o wybodaethau am hanes Cymru, gwyddoniaeth, cerddoriaeth, crefydd a phersonau amlwg. Yr oedd cyfoeth o ddarluniau ynddo hefyd, o leiaf un ymhob rhifyn mewn lliw. Yn y cyntaf, er enghraifft, ceir peintiad adnabyddus Syr E.J.Poynter, Ffyddlon hyd Angau, llun canwriad Rhufeinig yn glynu wrth ei le pan oedd y diluw tân yn disgyn ar dref Pompeii. Cafwyd ysgrifenwyr medrus i gyfrannu erthyglau, rhai fel Brynmor L.Davies, D.Myrddin Davies, T.Eurig Davies, R.Elfyn Hughes, A.O.H.Jarman, J.Gwyn Jones, Enid Parry, Jennie Thomas a J.O.Williams. Er y manteision hyn, ni chafodd Gwybod y croeso disgwyliedig ond yr oedd gobaith y byddai'r cylchrediad yn cynyddu. Fodd bynnag, ar glawr rhifyn Tachwedd 1939 ceir gair gan y cyhoeddwyr yn dweud mai hwnnw fyddai'r rhifyn olaf gan ychwanegu, "daeth Rhyfel a'i amodau caethiwus i dagu ein gobeithion". Er hynny, yr oedd Gwybod yn arbrawf ardderchog ac yn gyfraniad gwerthfawr at lenyddiaeth addysgol plant y genhedlaeth honno. Nid Gwybod oedd yr unig beth a ddioddefodd oherwydd y rhyfel. Amser anodd oedd hwnnw i eglwysi a gweinidogion. Nid oedd llewyrch o oleuni i'w weld yn unman wedi nos ac amharai hynny ar bresenoldeb yn yr oedfeuon. Yr oedd y rhai ifanc ar y llaw arall yn cael eu galw i wneud rhyw "wasanaeth cenedlaethol" neu'i gilydd. Ac yn achos Ebeneser ei hun yr oedd Festri Caellepa wedi ei hatafaelu fel canolfan bwyd. Golygai hynny docio ar y gweithgareddau a gynhelid ynddi gynt. Drwy'r cwbl, daliodd Curig Davies a'i briod i weithio'n egnïol ym Mangor. Daethant yn gymeriadau adnabyddus a chymeradwy ym mywyd y ddinas. A bu optimistiaeth gynhenid Curig Davies yn foddion i gynnal ysbryd ei bobl mewn dyddiau hynod dywyll. Gyda'r cynnydd yng ngwaith Undeb yr Annibynwyr, penderfynwyd yng nghynhadledd Undeb Aberafan (1925) y dylid cael un ysgrifennydd cyflogedig amser-llawn yn lle'r tri ysgrifennydd di-dâl a geid hyd hynny. Felly, ym 1927 etholwyd D.Morgan Davies, a fuasai'n Oruchwyliwr y Llyfrfa byth oddiar 1907, i'r swydd. Yr un flwyddyn penderfynwyd hefyd y dylid lleoli'r Llyfrfa a Swyddfa'r Undeb yn 7, Northampton Place, Abertawe. Bu farw Morgan Davies wrth ddrws ei swyddfa ar 3 Gorffennaf 1934 ac etholwyd James Davies, gweinidog Mynydd-bach, i'w olynu. Dirywiodd ei iechyd a gorfu iddo ymddeol ym 1942. Gwnaethpwyd trefniadau ar gyfer ethol un i'w ddilyn. Y trefniant oedd fod y cyfarfodydd chwarter yn enwebu rhai ar gyfer y swydd. Cynigiwyd saith enw a gofynnwyd i Gyngor yr Undeb ddewis tri ohonynt fel rhestr fer. Y tri y cytunwyd arnynt oedd John H.Pugh, Aber-soch, J.T.Rogers, Merthyr ac Ebenezer Curig Davies, Bangor. Yr oedd holl aelodau'r Undeb i bleidleisio ar yr enwau hyn a phan gyfrifwyd y pleidleisiau ar 28 Awst 1942 cafwyd mai Curig Davies oedd wedi ei ethol. Byddai ei gyflog yn 400p. y flwyddyn ac yr oedd i ymddeol pan gyrhaeddai 65 mlwydd oed. Yr oedd peth brys i'w gael i gydio yn ei waith rhag i fusnes y Swyddfa ddioddef. Ar 9 Medi 1942 gofynnodd y Cyngor i'r Prifathro John Morgan Jones a Mr D.J.Williams, Bethesda, ymweld ag eglwys Ebeneser i ofyn iddi ryddhau ei gweinidog cyn gynted ag y bo modd. Cytunodd hithau. Felly mudodd Curig a'r teulu i Abertawe. Trefnwyd oedfa i'w neilltuo i'w waith. Cynhaliwyd hi yng nghapel Heol Henrietta, Abertawe, bnawn Mercher, 25 Tachwedd, gydag Edward Jones, gweinidog Ebeneser, Abertawe, yn llywyddu. Cafwyd anerchiadau gan J.Oliver Stephens, Cadeirydd yr Undeb ar y pryd, ac R.G.Berry, y Cadeirydd-etholedig. Yr un diwrnod cyfarfu Curig am y tro cyntaf â'i bwyllgorau, Pwyllgor y Llyfrfa yn y bore, a'r Pwyllgor Gweinyddol yn y pnawn. Wynebodd ei Gyfarfodydd Blynyddol cyntaf yng Nghastellnewydd Emlyn o'r 7fed i'r 9fed Mehefin 1943. Mae Undeb yr Annibynwyr yn dipyn o ddirgelwch i esgobaethwyr, presbyteriaid a methodistiaid. O ran hynny lleiafrif cymharol fychan o Annibynwyr sydd â syniad clir am ei natur, ei waith a'i awdurdod. Nid llys na synod na chyngor eglwysig mohono ond brawdoliaeth. Mae eglwysi ac unigolion yn gallu perthyn iddo trwy gyfrannu tâl blynyddol. O ganlyniad mae'r pwyslais ar gynorthwyo a gwasanaethu yn hytrach nag ar reoli a llywodraethu. Gall eglwysi fod yn eglwysi Annibynnol heb berthyn i'r Undeb a'r un modd gyda gweinidogion. Yn wir, ym 1927 dim ond 88 o eglwysi oedd yn perthyn i'r Undeb. Bu cynnydd sylweddol yn y blynyddoedd nesaf ond hyd yn oed ym 1944 yr oedd 400 o eglwysi na pherthynent i'r Undeb. Y prif awdurdod ynddo oedd y Gynhadledd a gyfarfyddai unwaith y flwyddyn yn ystod y Cyfarfodydd Blynyddol. Yr oedd Cyngor yn cynrychioli'r cyfundebau (sef y Cyfarfodydd Chwarter, i roi'r enw swyddogol arnynt) a hwnnw'n atebol i'r Gynhadledd. Cyfarfyddai o leiaf deirgwaith y flwyddyn ac ef oedd yn bennaf cyfrifol am lunio polisi. Yna yr oedd pedwar pwyllgor sefydlog o dan aden y Cyngor. A cheid pwyllgorau annibynnol ar y drefn hon, sef Pwyllgor y Gronfa, Pwyllgor y Drysorfa Gynorthwyol a Phwyllgor y Caniedydd. Y pwysicaf o'r pwyllgorau sefydlog oedd y Pwyllgor Gweinyddol - pwyllgor brys yr Undeb - a gyfarfyddai'n amlach na'r un arall i drafod materion yr oedd yn rhaid cael barn sydyn arnynt. Dyma felly y peirianwaith yr oedd Curig yn ysgrifennydd ac yn brif weithredwr iddo. Yn ystod ei anerchiad yn oedfa sefydlu Curig dywedodd yr Athro J.Oliver Stephens wrtho, "Yr ydych yn dechrau eich gwaith mewn argyfwng mawr, a diau y penderfynir eich gwasanaeth i raddau helaeth ganddo." A gwir a ddywedodd. Mae'n werth bwrw golwg tros y pethau a fyddai'n pwyso ar wynt yr Ysgrifennydd newydd yn y blynyddoedd nesaf. Yr oedd hi'n rhyfel. Dechreuodd hwnnw ar 3 Medi 1939. Yr oedd Abertawe ei hunan wedi teimlo oddi wrth rym y ddrycin. Ar nos Wener, 21 Chwefror 1941, disgynnodd bomiau tân a llosgi'r tai nesaf at y Swyddfa. Trwy ymroddiad cymdogion a'r gwasanaeth tân llwyddwyd i arbed peth ar y Swyddfa ond ni ellid ei defnyddio am ychydig amser. Ond yr oedd wedi ei hatgyweirio ar gost y llywodraeth cyn i Curig afael yn ei swydd. Faint mwy o ddifrod a ddioddefai'r eglwysi a'u capeli gan y cyrchoedd awyr cyn y byddai'r rhyfel drosodd? Yn wir, yr oedd capel Great Mersey Street yn Lerpwl wedi ei ddifrodi gan fomiau cyn gynhared â 7 Hydref 1940. Yr oedd gofyn gwneud trefniadau ar unwaith rhag ofn y byddai eraill yn dioddef yr un dynged. Ar y diwrnod y cydiodd Curig yn ei swydd, yr oedd y Pwyllgor Gweinyddol yn codi pwyllgor i drefnu casglu cronfa o 50,000p. tuag at "atgyweirio ac ad-drefnü ar ôl y rhyfel. Gan nad yw'n arfer yn Lloegr i roi unrhyw sylw yn yr ysgolion i'r diwylliant Cymreig, y mae trigolion y wlad honno at ei gilydd mewn anwybodaeth lwyr am gynnwys y diwylliant sy'n cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r drysorfa'n guddiedig oddi wrthynt. Ond yn rhyfedd iawn nid yw'r anwybodaeth hon yn rhwystro Saeson i basio barn ar werth y diwylliant Cymraeg. Ceir pobl eithaf amlwg ac eithaf diwylliedig yn barnu nad oes dim mewn llenyddiaeth Gymraeg sy'n werth ei ddysgu na'i ddiogelu. A hynny er na wyddant yr un gair o Gymraeg! Ceisir esbonio pam y mae hyn yn nes ymlaen. Y mae mwyafrif y bobl sy'n siarad Cymraeg yn siarad Saesneg hefyd. Mwy na hynny cawsant eu trwytho trwy'r ysgolion yn y diwylliant Saesneg. Golyga hyn eu bod yn etifeddion dau ddiwylliant. Ac y mae hyn yn creu gwahaniaeth trawiadol rhwng y Cymry Cymraeg eu hiaith a'u cymdogion uniaith. Y mae'r Cymry Cymraeg yn gallu dirnad sut beth yw bod yn Sais ond ni all Sais ddirnad sut beth yw bod yn Gymro Cymraeg. Y mae bod yn etifedd dau ddiwylliant yn gallu creu anawsterau digon blin yn aml ac nid y lleiaf ohonynt yw anallu'r sawl na wyr iaith ond Saesneg i sylweddoli nad yw medru Saesneg a bod yn hyddysg yn hanes a llenyddiaeth Lloegr o angenrheidrwydd yn gwneud pobl yn Saeson. Y gwir yw fod dallineb tuag at ddiwylliannau lleiafrif yn cael ei feithrin yn gyson tros y canrifoedd yng nghyfundrefn addysg Lloegr. Gwlad amlieithog a fu Prydain erioed ond ni wneir hyn yn amlwg yn y gyfundrefn addysg yn Lloegr. O ran hynny, nid yw ysgolion Cymry'n dysgu'r disgyblion fod Gaeleg a Gwyddeleg yn gymaint rhan o batrwm diwylliannol amryliw Prydain â'r Gymraeg a'r Saesneg. Y mae hyn i gyd yn ganlyniad hanes hir yn ymestyn tros y canrifoedd. Ac ni ellir osgoi cyfeirio at bolisïau llywodraeth mewn gwahanol gyfnodau at iaith. Trwy'r Deddfau Uno a basiwyd ym 1536 a 1542 llyncwyd Cymru gan Loegr. Yr oedd y deddfau hynny'n rhoi'r un breiniau i bobl Cymru â phobl Loegr, ond ar yr amod eu bod yn ymwrthod â'r Gymraeg. O hynny ymlaen, gwaith swyddogion y Goron oedd cyhoeddi a chynnal pob llys barn yn yr iaith Saesneg, meddai'r ddeddf, gan ychwanegu, ...from henceforth no Person or Persons that use the Welsh Speech or Language shall have or enjoy any Manner of Office or Fees within this Realm of England, Wales, or other the King's Dominions, upon Pain of forfeiting the same Offices or Fees, unless he or they use and exercise the English Speech or Language. A phasiwyd deddf yr un pryd yn gwahardd pobl Iwerddon rhag defnyddio Gwyddeleg a gwisgo gwisgoedd Gwyddelig. Beth bynnag arall oedd ym meddyliau'r seneddwyr wrth basio deddfau o'r fath, y mae'n amlwg eu bod am ysbeilio'r Gymraeg a'r Wyddeleg o unrhyw statws cyfreithiol ac i wrthod unrhyw le iddynt ym mywyd gwleidyddol Cymru ac Iwerddon. Esgorodd y polisi hwn ar ganlyniadau cymdeithasol, seicolegol a diwylliannol sy'n ddigon cyfarwydd mewn gwledydd sydd wedi eu concro gan wlad arall neu eu corffori mewn gwlad arall. Buan y daeth y cyfreithwyr, y gweinyddwyr a'r dosbarthiadau breiniol i ystyried siarad Cymraeg mewn cylchoedd swyddogol fel her i awdurdod y ddeddf ac felly fel bygythiad i awdurdod y wladwriaeth. I'r llywodraethwyr o bob gradd offeryn gwleidyddol oedd iaith. Yr oedd parch at y Saesneg yn gyfystyr â chydnabod awdurdod gwleidyddol Lloegr tros Gymru. Nid mater diwylliannol yn unig oedd iaith iddynt ond moddion i sicrhau ufudd-dod. Aeth defnyddio Saesneg ym mhob cyfathrebu swyddogol yn gyfrwng i atgoffa'r Cymry o genhedlaeth i genhedlaeth na allent fwynhau ffafr y wladwriaeth ond i'r graddau yr oeddent yn dirmygu'r Gymraeg. Nid mater cyfreithiol a swyddogol yn unig oedd hyn. Gwyddai'r llywodraethwyr yn iawn na allai cyfraith sicrhau fod pobl yn siarad Saesneg ar eu haelwydydd neu yn eu sgyrsiau preifat â'u ffrindiau. A chyda threiglad amser daeth yn rhan ddigon anrhydeddus o'r traddodiad Seisnig i bwysleisio rhyddid pobl i fyw eu bywyd preifat heb i'r gyfraith a'r llywodraeth ymyrryd. "Castell yw cartref y Sais", meddai'r dywediad cyfarwydd Saesneg. Ac nid oedd unrhyw wrthwynebiad i gymhwyso'r un egwyddor at gartref y Cymro. Mater preifat oedd pa iaith a ddefnyddiai yn ei gartref. Ond mewn llys barn neu mewn unrhyw ymwneud â'r awdurdodau, rhaid oedd defnyddio Saesneg. Fodd bynnag, buan y daethpwyd i helaethu gofynion manwl y ddeddf a hawlio fod pob defnydd cyhoeddus o'r Gymraeg i'w ochel. Nid oedd i ymddangos ar unrhyw arwydd cyhoeddus nac, yn wir, i gael ei chlywed o gwbl ym mhresenoldeb Saeson. Troes y Gymru Gymraeg a'i diwylliant yn "deyrnas guddiedig". Mae'n syndod pa mor gyffredin yw gwrthwynebiad Saeson i'r Gymraeg. Mae'r agwedd meddwl a greodd y Deddfau Uno'n dal yn hynod fyw. Cawsom enghreifftiau'n ddiweddar o rieni'n mynd i drafferth a chost i sicrhau na fyddai eu plant hyd yn oed yn clywed Cymraeg ac yn eu symud o ysgolion lle'r oedd "gormod o Gymraeg". Y mae'r bobl sy'n siarad yr ieithoedd "imperialaidd", fel y gelwir hwy, - Rwseg, Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg - yn debyg iawn i'w gilydd yn eu hymagwedd at ieithoedd lleiafrifol. Pan oedd eu hymerodraethau yn eu bri, mater o hwylustod wrth weinyddu oedd mynnu mai iaith y goresgynnwr oedd yr unig iaith swyddogol yn y diriogaeth. Ond buan iawn yr oeddent yn mynd gam ymhellach ac yn defnyddio'r iaith ymerodrol fel cyfrwng i danseilio'r diwylliant lleiafrif. Ystyrid yr iaith ymerodrol fel un a oedd yn rhagori ar yr ieithoedd lleiafrif. Yn aml iawn, yr oedd hi'n gyfoethocach ei geirfa a'i llenyddiaeth ac yn cael ei siarad tros rannau helaethach o'r byd na'r iaith leiafrifol. Ac yn fwy chwithig fyth, peth cyffredin iawn oedd i'r goresgynnwr ei weld ei hun fel cymwynaswr yn rhannu ei gyfoeth diwylliannol ei hunan â'r tlodion. Ac felly hawdd oedd iddo gredu mai gwaith da oedd distrywio'r diwylliannau bach - fel y gwnaeth Sbaen yn Ne America ac fel y gwnaeth yr ymfudwyr i ogledd America â diwylliannau'r Indiaid brodorol. Un canlyniad yw fod disgynyddion y goresgynwyr cyntaf yn rhyfeddu at anniolchgarwch y brodorion pan ddechreuant ymgyrchu o blaid eu hiaith a'u diwylliant eu hunain. Y mae hyn i gyd yn ddigon cyfarwydd inni yng Nghymru. O dan bwysau enfawr y gallu ymerodrol, daeth y Cymry eu hunain i gredu nad oedd werth yn y Gymraeg. Trwy gyfundrefn addysg a gadwai eu gorffennol yn guddiedig oddi wrthynt, ni wyddent ddim am y cyfoeth llenydddol enfawr sydd ar gael yn Gymraeg. A chan fod y gallu imperialaidd wedi diogelu'r holl swyddi enillfawr i'r sawl a oedd yn barod i ymwrthod â'r Gymraeg a siarad Saesneg, yr oedd wedi sicrhau'r union amodau oedd yn gwneud y Gymraeg yn ddiwerth - o leiaf, yn ddiwerth i'r sawl a fynnai swydd uchel ei chyflog a mawr ei dylanwad yn y gymdeithas. Yr un gallu a oedd wedi condemnio'r iaith ag oedd yn rhoi'r gwobrau uchaf i'r sawl a oedd yn fodlon ei gwanychu. I'r teithiwr dieithr a ddeuai am dro o Lundain, dyweder, i berfeddion gwlad Cymru, rhan o Loegr oedd y wlad o'i gwmpas. Iddo ef, rhan o Loegr oedd Llanuwchllyn a Sarn Mellteyrn a Llangeitho. Ni allai beidio â chlywed Cymraeg yma ac acw gan y brodorion ond nid oedd y bobl o bwys yng Nghymru fawr gwahanol i bobl debyg iddynt yn Lloegr. Yr un iaith a siaradent. Y canlyniad yw nad oes wahaniaeth ym meddyliau mwyafrif pobl Lloegr rhwng "Prydain" a "Lloegr" - ar wahân, efallai, i'r meysydd chwaraeon lle ceir timau o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ymgiprys â thimau Lloegr. Y mae'r duedd i uniaethu "Lloegr" â "Phrydain" yn hen iawn. Ceir enghraifft drawiadol mewn darn hysbys o ddrama William Shakespeare, Richard II, "This royal throne of kings, this sceptred isle..This blessed plot, this earth, this realm, this England". "This blessed islë? Ond, wrth gwrs, nid ynys yw Lloegr, rhan o'r ynys yw'r wlad honno. Prydain yw'r ynys. Y mae hon yn enghraifft gynnar iawn o'r meddwl ymerodrol ar waith ac o'r ffordd y mae Cymru a'r Alban yn anweledig i'r bardd. Heb sôn bod Cernyweg yn dal yn iaith fyw yng Nghernyw a Manaweg ar Ynys Manaw yn amser Shakespeare. Yma y peth a ddaw i'r golwg yw difrïo'r diwylliannau lleiafrif trwy eu hanwybyddu. Teg yw cydnabod fod Shakespeare mewn dramâu eraill yn ddigon ymwybodol o fodolaeth Cymru a'r Alban - fel y gweddai i fardd yn canu yn y cydiad rhwng Oes y Tuduriaid ac Oes y Stiwartiaid! Effeithiodd hyn i gyd yn fuan iawn ar ymddygiad cymdeithasol ac ar batrymau cwrteisi. Er mwyn "dod ymlaen yn y byd" yr oedd yn rhaid i'r Cymry gael ysgolion lle gallanet ddysgu Saesneg. A dyna sut y cafwyd cyfundrefn addysg maes o law nad oedd wahaniaeth rhyngddi a chyfundrefn addysg Lloegr. Ac yr oedd addysg yn foddion pwerus iawn i ddyfnhau ymdeimlad y Cymry fod eu hiaith a'u diwylliant hwy'n bethau israddol. A daeth patrymau cwrteisi i gydymffurfio â'r gred hon. Ar y naill law, mynnai'r sawl na allai siarad Cymraeg mai peth anghwrtais iawn oedd siarad yr iaith yn eu presenoldeb. A'r syndod yw fod y teimlad hwn yn dal yn gryf ac wedi ysbrydoli rhai cyflogwyr yn ddiweddar i wahardd eu gweithwyr rhag siarad Cymraeg yng ngwydd y di- Gymraeg. Yn wir, crewyd rhyw fath o rwystr seicolegol ym meddyliau'r di-Gymraeg a'u llesteiriai rhag ceisio gwneud unrhyw ymdrech i ddysgu dim o'r iaith. Yr enghreifftiau mwyaf trawiadol o'r rhwystr hwn yw'r rheini a dreuliodd oes yng Nghymru gan wrthod yn gyndyn gwneud unrhyw ymgais hyd yn oed i ynganu "Machynlleth" neu "Pwllhelï yn gywir. A chan mor gryf yw'r patrwm cwrteisi a ddatblygodd yn sgîl y gwaharddiad ar ddefnyddio'r Gymraeg, nid ydynt yn eu gweld eu hunain yn ymddwyn yn anghwrtais. Y Cymry sy'n anghwrtais yn herio'r gwaharddiad. Ac y mae ochr arall iddi hefyd. Gan mor rymus yw arferion cymdeithasol a gallu'r dosbarth breiniol i ddylanwadu ar y sawl a dybiant sy'n isradd iddynt, derbyniodd y Cymry Cymraeg y drefn hon heb fawr brotest. Hyd yn ddiweddar iawn yn y ganrif bresennol, dysgid plant i beidio byth â siarad Cymraeg ym mhresenoldeb y di-Gymraeg. Hyd ddechrau'r ganrif bresennol yr oedd plant mewn ysgolion yng nghanol y Gymru Gymraeg yn cael eu cosbi am siarad eu hiaith ym mhlith ei gilydd hyd yn oed ar y maes chwarae. Mae sylweddoli mai dyma'r cefndir yn help i werthfawrogi pam y mae symudiad ychydig o bobl ddi-Gymraeg i ardaloedd Cymraeg yn creu argyfwng. Mae'r Cymry Cymraeg wedi eu cyflyru tros y canrifoedd i ildio o flaen siaradwyr Saesneg. Ar y llaw arall y mae'r ymfudwyr yn fynych iawn wedi eu magu yn y gred mai rhan o Loegr yw Cymru ac mai bod yn amrwd ac anghwrtais y mae'r Cymry Cymraeg wrth fynnu siarad yr iaith. Cred llawer o'r ymfudwyr o hyd eu bod yn gwneud cymwynas trwy wrthod dysgu'r Gymraeg a mynnu nad yw'r Cymry i'w cyfarch yn yr iaith. Ar y naill ochr a'r llall y mae hen hanes yn dylanwadu ar ymddygiad pobl ac y mae'n bwysig os ydym byth am ddeall ein gilydd ein bod yn sensitif i'r dylanwadau hyn. Er hyn i gyd, bu cyfnewidiad annisgwyl mewn deddfwriaeth yn Oes Elisabeth. Ym 1563 pasiwyd deddf yn gorchymyn cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg. Cafwyd argraffiad cyntaf y Llyfr Gweddi yn Gymraeg ym 1567 a'r Beibl cyfan yng nghyfieithiad godidog yr Esgob William Morgan ym 1588. BYW MEWN DYLED Y mis diwethaf fe addawyd y buasem yn rhoi sylw i gwestiwn arall gan un o ddarllenwyr Tafod Elai y tro hwn, ac fel mae'n digwydd, fe welwch ei fod yn un hynod o amserol a pherthnasol: Annwyl Syr, Clywais fod Cyngor Taf Elai wedi penodi swyddog datblygu Undebau Credyd. Beth yn union mae hyn yn ei olygu? Cyn mentro i ateb y cwestiwn yn fanwl, efallai y dylem ei osod yn ei gyd-destun. Mae'n debyg fod pob copa walltog ohonom wedi gorfod benthyca ceiniog neu ddwy rywbryd yn ystod ein hoes ar gyfer rhyw ddiben neu'i gilydd. Morgais i brynu tþ yw'r enghraifft amlycaf yn hanes y rhan fwyaf ohonom, ond hawdd medru dychmygu fod sawl un wedi benthyca arian i brynu car, talu am wyliau neu anfon plant i'r coleg. Erbyn hyn, mae nifer cynyddol o bobl yn gorfod benthyca arian, nid er mwyn cael moethau bywyd, ond er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd. Rydym yn gymdeithas sy'n byw ar gredyd, ac mae peryglon mawr am hynny. Nawr, nid moesoli yn erbyn benthyca arian yw pwrpas hyn o druth. Does gan llawer ohonom ddim dewis ond benthyca. Ond eto, mae'n ffaith fod llawer iawn o gwmniau a chymdeithasau sydd yn rhoi gwasanaeth benthyg arian yn gwneud hynny mewn modd cwbl anghyfrifol, heb ystyried amgylchiadau'r cwsmer na'i allu i ad-dalu. Mae'n llawer rhy hawdd cael benthyciad y dyddiau hyn, a dyw'r sawl sy'n rhoi'r arian yn aml iawn ddim yn poeni os bydd y ddyled yn faen melin am wddf rhywun, ac yn eu harwain i ddyfroedd dyfnion. Does ond eisiau edrych ar hysbysebion yn siopau Caerdydd i weld pa mor hawdd yw mynd i'r gors drwy lenwi'ch pocedi gyda chardiau credyd y naill siop ar ôl y llall. Ar wahan i orfod ad-dalu'r swm ei hun, mae'n rhaid talu'r llogau, wrth gwrs, ac mae'r rhain yn amrywio'n ddirfawr o le i le. Mewn ambell i siop yng Nghaerdydd, fe all y llog ar bris nwyddau a brynir ar gerdyn fod cymaint â 35%. Hyd yn oed pan welwch chi lythrennau breision yn cynnig credyd am 2%, gochelwch rhag ofn mai 2% y mis sydd dan sylw, sy'n cyfateb i log blynyddol o dros 24%. A dyna'r math o logau sydd ar gardiau credyd megis Access a Visa hefyd, wrth gwrs. Mesur tymor byr yn unig yw cardiau credyd o'r fath, a'r nod yw clirio'r ddyled cyn gynted â bo modd. Pryd bynnag y byddwch yn ystyried benthyciad, gofynnwch am y llog blynyddol, sef yr hyn a elwir yn A.P.R. (Annual Percentage Rate). Mae unrhyw beth dros 18% yn ddrud y dyddiau hyn, wedi i raddau llog ostwngmor sylweddol. Tua 14% sy'n cael ei ystyried yn rhesymol. Wrth gwrs, rydym i gyd wedi gweld hysysebion am fenthyciadau sy'n cynnig llog isel o tua 13%, gyda chyfnod hir iawn i ad-dalu. "Rhowch eich dyledion i gyd mewn un fasged" meddai'r cwmniau hyn. "Defnyddiwch ein benthyciad ni i glirio dyledion eich cardiau credyd." Ond os edrychwch chi'n fanwl ar y geiriad, maen nhw hefyd yn ychwanegu'r geiriau: "Dim tenantiaid. Perchnogion tai yn unig." A dyna ddatgelu'r gwirionedd. Benthyciad wedi'i warantu yn erbyn eich cartref yw hwn fel arfer; os methwch chi ad-dalu, byddwch yn colli eich cartref. Mae'n enghraifft o fenthyciad i'w osgoi ar bob cyfrif os oes unrhyw siawns y gall eich incwm ostwng. Mae cael morgais yn ddigon o faen melin heb wahodd rhagor o fygythiad i ddiogelwch eich cartref. Wrth gwrs, does dim raid talu llog ar fenthyciad bob tro. Erbyn heddiw, mae nifer o wneuthurwyr ceir yn cynnig benthyciad di-log, ac mae'n ddigon hawdd prynu offer trydanol gan dalu fesul tipyn heb logau o gwbl. Os oes raid wrth fenthyciad, efallai mai'r lle gorau bob tro yw eich banc, hyd yn oed os bydd y llog fymryn bach yn uwch na gan gwmni ariannu arall. Y rheswm dros ddweud hyn yw y bydd eich rheolwr banc yn edrych yn fanwl ar eich cyfrif, ac yn eich helpu i benderfynu pa fath o swm sy'n rhesymol i chi fedru ei ad-dalu. Os byddwch yn mynd i drafferthion, fe gewch lawer rhagor o gydymdeimlad yn y banc na gan gwmni ariannu. Ond mae gofyn i chi wneud ychydig o waith cartref cyn mynd at y rheolwr banc, a da o beth yw hynny, mae'n siwr. Yn ôl un rheolwr banc y buom ni'n siarad ag ef, mae'n rhyfeddol cynifer o bobl sy'n troi at y banc heb wybod beth yw eu hymrwymiadau na faint y gallan nhw fforddio mewn taliadau. Y neges felly yw rhestru pob taliad misol, gan gofio'r trydan, y nwy, pob polisi yswiriant, y dreth cyngor a'r bil ffôn, a gweld faint sydd ar ôl i'w wario ac i ad-dalu'r benthyciad. Ond beth os nad oes gennych chi gyfrif banc? Yn ôl un arolwg diweddar, mae 40% o drigolion Prydain yn dal heb gyfrif banc. Heb hynny, does ganddyn nhw ddim gobaith o gael benthyciad swyddogol o unman. Rhain, yn anffodus, yw'r dosbarth sy'n cael eu gorfodi i gael benthyciadau gan y siarcs yn y strydoedd cefn. Yn ddiweddar, roedd hanesion yng Nghaerdydd am bobl yn benthyca œ500 i gael dau ben llinyn ynghyd, ac yn gorfod talu Âœ3000 yn ôl. Dyna i chi logau o 500%. Sut felly mae helpu pobl, a'u cadw allan o grafangau'r siarcs? Dyna'n union yw'r Undebau Credyd y mae'r holwr yn gofyn amdanyn nhw. Mae'r egwyddor yn syml. Mae criw o bobl yn dod at ei gilydd i ffurfio Undeb, ac yn cynilo symiau wythnosol yn y gronfa am log blynyddol o ryw 8% Erbyn i'r gronfa chwyddo ychydig, mae modd i rai aelodau fenthyca gwahanol symiau, ar log isel o rhyw 13%. Gall yr Undeb fod yn drigolion stryd arbennig, aelodau rhyw gymdeithas neu gapel, cynllun pentrefol neu unrhyw fath o gymuned. Wrth gwrs, mae yna reolau caeth ynglþn â phwy sy'n cael rheoli'r arian, a pha gyfrifon sy'n rhaid eu cadw, ond mae digon o dystiolaeth fod yr Undebau hyn yn gweithredu'n effeithiol mewn dinasoedd mawrion gan gynnwys Caerdydd. Hynny mae'n debyg a ysgogodd Cyngor Taf Elai i benodi swyddog i ddatblygu cynlluniau fel hyn yn yr ardal hon. Mae'n ddatblygiad i'w groesawu, yn cadw pobl anffodus allan o grafangau'r siarcs, yn cadw'r arian o fewn y gymuned ac yn sicrhau llogau teg ar y ddwy ochr. Os oes elw, mae'n cael ei rannu allan rhwng aelodau'r Undeb. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn sefydlu Undeb Credyd, neu os hoffech chi fod yn aelod o un sy'n bodoli eisoes, gallech roi caniad i'r swyddog newydd, sef Gerald Howells, ar 0443 223312. WYTHNOS YR AMGYLCHEDD Dechreuodd Cyngor Bwrdeistref Taf Elá i nifer o weithgareddau ailgylchu yn ystod Wythnos yr Amgylchedd cyntaf y cyngor ar ddiwedd mis Medi. Canolbwyntiodd yr wythnos ar sut i helpu plant i werthfawrogi'r amgylchedd ac hefyd sut i helpu pobl ailgylchu pethau. Daeth grþp o blant Pontypridd i Swyddfa'r Cyngor i ddarganfod sut mae'r cyngor yn ceisio dod o hyd i bobl sy'n gadael ysbwriel ar ochr y ffordd. Daeth arbenigwyr gyda ystlumod, adar prin a neidr i nifer o ysgolion gan gynnwys Ysgol Tonyrefail, Ysgol Gwaelod y Garth ac Ysgol Ffynnon Taf. Aeth disgyblion dosbarth pedwar Ysgol Creigiau i weld fferm Garth Uchaf. Gorffenodd yr wythnos gyda thaith dros y Garth. "Rydyn ni wedi cael ymateb arbennig o dda o'r ysgolion, a does dim dwywaith amdani, mae'n rhaid i ni ddechrau gyda'r plant os ydym am ddatrys y broblem o ysbwriel a diogelu ein cefn gwlad", meddai'r Cynghorydd Tony Hughes. Yn ystod y misoedd nesaf bydd y nifer o fanciau papur yn treblu a bydd y nifer o fanciau caniau yn dyblu. Bydd safleoedd banciau newydd sbon ym Makro Nantgarw ac yng Nghanolfan Gymuned Brynna. Gobeithir y bydd y cyfleusterau newydd yn galluogi'r cyngor i gyrraedd at ei darged ailgylchu. Cymeradwywyd y targed gan y Swyddfa Gymreig a cheir manylion pellach am y targed ailgylchu yng Nghynllun Ailgylchu'r Cyngor sydd ar werth o Swyddfeydd y Cyngor. Ceir crynodeb o'r cynllun mewn pamffled sydd ar gael mewn llyfrgelloedd ac adeiladau'r cyngor. Mae'r cynllun yn pwysleisio'r angen i ailgylchu ac arbed adnoddau, e.e. bydd blychau gwneud tail ar gael i ysgolion sydd eisiau eu defnyddio mewn prosiectau gwyddoniaeth. (Mae pry genwair yn gallu bwyta gwastraff gegin ac yn gadael gwrtaith defnyddiol). Dengys adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Hydref gan Hybu Iechyd Cymru fod angen gwella deiet pobl ifanc yng Nghymru. Mae'r adroddiad, Deiet a Phobl Ifanc yng Nghymru, 1986-1992, yn dangos y newididau mewn arferion bwyta dros y blynyddoedd diwethaf. Ymysg y canlyniadau gwelir fod nifer y pobl ifanc sy'n bwyta prydau bwyd rheolaidd wedi syrthio er 1986 ac mae bwyta byrbrydau rheolaidd -sy'n aml yn cynnwys cryn dipyn o fraster, siwgr a halen - ar gynnydd hefyd. Mae'r cyfanwsm o ffrwythau a gaiff eu bwyta yn isel yn ol safonau rhyngwladol. Ar yr ochr gadarnhaol, dywed yr adroddiad fod mwy o bobl ifanc yn hoffi cinio ysgol a gwelwyd cynnydd yn y nifer sy'n yfed llaeth sydd a llai o fraster. Mae Hybu Iechyd Cymru eisoes yn chwarae rhan mewn amryw fentrau sy'n annog bwyta'n iach ymhlith oedolion a phlant. Yn y Bocs Sebon y mis hwn mae Gill Rees yn mynd â ni i fyd y gyfraith ac yn trafod un o'n hawliau sylfaenol. RHEITHGOR AI PEIDIO A ddylai diffinydd gerbron llys troseddol gadw'r dewis sydd ganddo ar hyn o bryd o gael ei achos wedi ei glywed o flaen rheithgor ai peidio? Un o argymhellion y Comisiwn Brenhinol ar Gyfiawnder Troseddol yw y dylid cwtogi ymhellach ar hawl diffinydd i ddewis rheithgor i glywed ei achos - hawl sydd yn deillio o'r Magna Carta. Dywed rhai mae pendraw'r broses a argymhellir fydd dileu'r rheithgor yn gyfangwbl. Mae'r dadleuon a roddir o blaid cwtogi ymhellach ar yr hawl hon wedi'u seilio ar ddiffyg cyllid, a'r angen i leihau costau achosion gerbron Llys y Goron ac i esmwytho gweinyddiad y llysoedd hynny. Gellid cyfiawnhau pob un o'r dadleuon hyn ond ystyriwch am eiliad un o ganlyniadau gweithredu argymhelliad y Comisiwn. Ar hyn o bryd, mae gan ddiffinydd, sydd wedi ei gyhuddo o ddwyn, yr hawl i ddewis gwrandawiad o'i achos naill a'i gerbron Llys yr Ynadon neu gerbron rheithgor yn Llys y Goron. Un o argymhellion y Comisiwn yw y dylid cwtogi'r hawl i ddewis gwrandawiad gerbron rheithgor, mewn achos o ddwyn, i'r achosion hynny sydd yn ymwneud ag arian neu eiddo o werth lleiafswm penodol (crybwyllwyd gan rai œ200 fel y swm priodol). Byddai gweithredu argymhelliad o'r fath yn golygu y byddai diffynydd sydd wedi ei gyhuddo o ddwyn arian neu eiddo o werth œ199 yn colli'r hawl i ddewis gwrandawiad gerbron rheithgor yn Llys y Goron, ond ni fyddai'n colli'r hawl petai gwerth yr arian neu'r eiddo yn œ201. O ystyried y mater o safbwynt ariannol yn unig, hawdd yw anghofio difrifoldeb sylfaenol y cyhuddiad o ddwyn, beth bynnag yw'r swm penodol, ac effaith dedfryd o euogrwydd o gyhuddiad o'r fath nid yn unig ar enw da a chymeriad y diffinydd ond hefyd ar ei swydd, ei deulu a'i safle yn y gymdeithas. Felly, nid ar chwarae bach y dylid diddymu'r hawl i ddiffinydd ymddangos gerbron rheithgor. Cred y cyhoedd y cânt wrandawiad teg gan y bobl gyffredin hynny sydd yn aelodau o'r rheithgor ac mae ganddynt ffydd, felly, ym mhenderfyniadau'r rheithgor. Mae'r dewis o gael ymddangos gerbron rheithgor yn hawl sylfaenol ac ni ddylid ei chwtogi ymhellach. Fel y dywedodd yr Arglwydd Devlin - "Y rheithgor yw'r llusern sydd yn dangos fod democratiaeth yn fyw%. ESECIEL Ple bynnag yr oedd yr ysbryd yn mynd, yno yr aent hwythau hefyd; ac fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd yr oedd ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion. Pan symudai'r naill, fe symudai'r llall; pan safai'r naill, fe safai'r llall; pan godai'r creaduriaid oddi ar y ddaear, fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd bod ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion. Uwchben y creaduriaid yr oedd math ar ffurfafen, yn debyg i belydrau grisial ac yn ofnadwy; yr oedd wedi ei lledaenu dros eu pennau oddi uchod. O dan y ffurfafen yr oedd adenydd pob un wedi eu lledu nes cyffwrdd â rhai'r agosaf ato, ac yr oedd gan bob un ohonynt ddwy i guddio'i gorff. Ac yr oeddwn yn clywed sŵn eu hadenydd wrth iddynt symud, ac yr oedd fel sŵn llawer o ddyfroedd, fel sŵn yr Hollalluog, fel sŵn storm, fel sŵn byddin; pan oeddent yn aros, yr oeddent yn gostwng eu hadenydd. Yr oedd sŵn uwchben y ffurfafen oedd dros eu pennau; pan oeddent yn aros, yr oeddent yn gostwng eu hadenydd. Uwchben y ffurfafen oedd dros eu pennau yr oedd rhywbeth tebyg i faen saffir ar ffurf gorsedd, ac yn uchel i fyny ar yr orsedd ffurf oedd yn debyg i ddyn. O'r hyn a edrychai fel ei lwynau i fyny, gwelwn ef yn debyg i belydrau o bres, yn debyg i dân wedi ei gau mewn ffwrnais; ac o'r hyn a edrychai fel ei lwynau i lawr, gwelwn ef yn debyg i dân gyda disgleirdeb o'i amgylch. Yr oedd y disgleirdeb o'i amgylch yn debyg i fwa mewn cwmwl ar ddiwrnod glawog; yr oedd yn edrych fel ffurf ar ogoniant yr ARGLWYDD. Galw Eseciel Wedi imi weld, syrthiais ar fy wyneb, a chlywais lais yn siarad, ac yn dweud wrthyf, Fab dyn, saf ar dy draed, ac fe siaradaf â thi. Ac fel yr oedd yn siarad â mi, daeth yr ysbryd arnaf a'm codi ar fy nhraed, a gwrandewais arno'n siarad â mi. Dywedodd wrthyf, Fab dyn, yr wyf yn dy anfon at blant Israel, at y genedl o wrthryfelwyr sydd wedi gwrthryfela yn fy erbyn; y maent hwy a'u tadau wedi troseddu yn fy erbyn hyd y dydd heddiw. At blant wynebgaled ac ystyfnig yr wyf yn dy anfon, ac fe ddywedi wrthynt, <Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW.> Prun bynnag a wrandawant ai peidio -- oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt -- fe fyddant yn gwybod fod proffwyd yn eu mysg. A thithau, fab dyn, paid â'u hofni hwy nac ofni eu geiriau, er eu bod yn gwrthryfela yn dy erbyn ac yn gwrthgilio, a thithau yn eistedd ar sgorpionau; paid ag ofni eu geiriau nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt. Ond llefara di fy ngeiriau wrthynt, prun bynnag a wrandawant ai peidio, oherwydd gwrthryfelwyr ydynt. Yn awr, fab dyn, gwrando ar yr hyn a ddywedaf wrthyt, a phaid â gwrthryfela fel y tylwyth gwrthryfelgar hwn; agor dy geg a bwyta'r hyn yr wyf yn ei roi iti. Ac fel yr oeddwn yn edrych, gwelais law wedi ei hestyn tuag ataf gyda sgrôl ynddi. Datododd y sgrôl o'm blaen, ac yr oedd ysgrifen ar ei hwyneb a'i chefn; yn ysgrifenedig arni yr oedd galarnadau, cwynfan a gwae. Yna dywedodd wrthyf, Fab dyn, bwyta'r hyn sydd o'th flaen; bwyta'r sgrôl hon, a dos a llefara wrth dÅ· Israel. Agorais fy ngheg, a rhoddodd imi'r sgrôl i'w bwyta, a dweud wrthyf, Fab dyn, bwyda dy hun a llanw dy fol â'r sgrôl hon yr wyf yn ei rhoi iti. Bwyteais, ac yr oedd cyn felysed â mêl yn fy ngenau. Dywedodd wrthyf, Fab dyn, dos yn awr at dÅ· Israel a llefara fy ngeiriau wrthynt. Nid at bobl ddieithr eu hiaith ac anodd eu lleferydd y'th anfonir, ond at dÅ· Israel. Na, nid at lawer o bobl ddieithr eu hiaith ac anodd eu lleferydd, a thithau heb ddeall eu geiriau; yn wir, pe bawn wedi dy anfon atynt hwy, byddent yn gwrando arnat. Ond nid yw tÅ· Israel yn fodlon gwrando arnat, am nad ydynt yn fodlon gwrando arnaf fi, oherwydd y mae tÅ· Israel i gyd yn wynebgaled ac yn ystyfnig. Yn awr, fe'th wnaf mor wynebgaled ac ystyfnig â hwythau. Gwnaf dy dalcen fel diemwnt, yn galetach na challestr; paid â'u hofni nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt. Yna dywedodd wrthyf, Fab dyn, gwrando ar yr holl eiriau yr wyf yn eu llefaru wrthyt, a derbyn hwy i'th galon. Dos yn awr at dy bobl sydd yn y gaethglud, a llefara wrthynt a dweud, <Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW>, prun bynnag a wrandawant ai peidio. Cododd yr ysbryd fi, a chlywais o'r tu ôl imi sain tymestl fawr: Bendigedig yw gogoniant yr ARGLWYDD yn ei le. Clywais sŵn adenydd y creaduriaid yn cyffwrdd â'i gilydd, a sŵn yr olwynion wrth eu hochr, a sain tymestl fawr. Cododd yr ysbryd fi a'm cario ymaith; ac yr oeddwn yn mynd yn gynhyrfus fy ysbryd, a llaw yr ARGLWYDD yn drwm arnaf. Deuthum i Tel-abib at y caethgludion oedd wedi ymsefydlu wrth afon Chebar, ac aros lle'r oeddent hwy yn byw; arhosais yno yn eu mysg wedi fy syfrdanu am saith diwrnod. Gosod Eseciel yn Wyliwr Ar ddiwedd y saith diwrnod daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud: Fab dyn, gosodais di yn wyliwr i dÅ· Israel; byddi'n clywed gair o'm genau ac yn rhoi rhybudd iddynt oddi wrthyf. Pan ddywedaf wrth y drygionus, <Byddi'n sicr o farw>, a thithau heb ei rybuddio a heb lefaru wrtho i'w droi o'i ffordd ddrygionus er mwyn iddo fyw, bydd y dyn drwg hwnnw farw am ei bechod, a byddaf yn ceisio iawn gennyt ti am ei waed. Ond os byddi wedi rhybuddio'r drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni ac o'i ffordd ddrygionus, bydd ef yn marw am ei bechod, ond byddi di wedi dy arbed dy hunan. Os bydd dyn cyfiawn yn troi oddi wrth gyfiawnder ac yn gwneud drwg, a minnau wedi rhoi rhwystr o'i flaen, bydd hwnnw farw; am na rybuddiaist ef, bydd farw am ei bechod, ac ni chofir y pethau cyfiawn a wnaeth; ond byddaf yn ceisio iawn gennyt ti am ei waed. Ond os byddi wedi rhybuddio'r cyfiawn rhag pechu, ac yntau'n peidio â phechu, yn sicr fe gaiff fyw am iddo gymryd ei rybuddio, a byddi dithau wedi dy arbed dy hunan. Caethiwo Eseciel Daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf yno, a dywedodd wrthyf, Cod a dos i'r gwastadedd, ac fe lefaraf wrthyt yno. Codais a mynd i'r gwastadedd, ac yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn sefyll yno, yn union fel y gogoniant a welais wrth afon Chebar, a syrthiais ar fy wyneb. Yna daeth yr ysbryd arnaf a'm codi ar fy nhraed, a llefarodd wrthyf a dweud, Dos a chau arnat dy hun yn dy dÅ·. Fe roddir rhwymau amdanat ti, fab dyn, a'th glymu â hwy fel na elli fynd allan ymysg dy bobl. Gwnaf i'th dafod lynu wrth daflod dy enau, a byddi'n fud, fel na elli eu ceryddu, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt. Ond pan lefaraf fi wrthyt, fe agoraf dy enau, ac fe ddywedi wrthynt, <Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW.> Bydded i'r sawl sy'n gwrando arnat wrando, ac i'r sawl sy'n gwrthod wrthod; oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt. Darlunio'r Gwarchae ar Jerwsalem Tithau, fab dyn, cymer briddlech a'i gosod o'th flaen, a darlunia arni ddinas Jerwsalem. Gosod warchae arni, adeilada warchglawdd o'i hamgylch, cod esgynfa tuag ati, rho wersylloedd yn ei herbyn a gosod beiriannau hyrddio o'i chwmpas. Yna cymer badell haearn a'i rhoi fel mur o haearn rhyngot ti a'r ddinas, a thro dy wyneb tuag ati; a bydd dan warchae, a thithau'n ymosod arni. Arwydd fydd hyn i dÅ· Israel. Yna gorwedd ar dy ochr chwith, a gosodaf bechod tÅ· Israel arnat; byddi'n cario eu pechod am nifer y dyddiau y byddi'n gorwedd ar dy ochr. Yr wyf wedi pennu ar dy gyfer yr un nifer o ddyddiau ag o flynyddoedd eu pechod, sef tri chant naw deg o ddyddiau, iti gario pechod tÅ· Israel. Wedi iti orffen hyn, gorwedd ar dy ochr dde, a charia bechod tÅ· Jwda; yr wyf wedi pennu ar dy gyfer ddeugain o ddyddiau, sef diwrnod am bob blwyddyn. Tro dy wyneb tuag at warchae Jerwsalem, ac â'th fraich yn noeth proffwyda yn ei herbyn. Rhoddaf rwymau amdanat fel na elli droi o'r naill ochr i'r llall nes iti orffen dyddiau dy warchae. Cymer iti wenith a haidd, ffa a phys, miled a cheirch, a'u rhoi mewn un llestr, a gwna fara ohonynt; byddi'n ei fwyta yn ystod y tri chant naw deg o ddyddiau y byddi'n gorwedd ar dy ochr. Byddi'n bwyta dy fwyd wrth bwysau, ugain sicl y dydd, ac yn ei fwyta o bryd i'w gilydd. A byddi'n yfed dŵr wrth fesur, chweched ran o hin, ac yn ei yfed o bryd i'w gilydd. Byddi'n ei fwyta yn deisen haidd wedi ei chrasu yng ngŵydd y bobl ar gynnud o garthion dyn. A dywedodd yr ARGLWYDD, Fel hyn y bydd plant Israel yn bwyta bara halogedig ymysg y cenhedloedd y gyrraf hwy atynt. Atebais, O Arglwydd DDUW, nid wyf erioed wedi fy halogi fy hun; o'm hieuenctid hyd yn awr nid wyf wedi bwyta dim a fu farw nac a ysglyfaethwyd, ac ni ddaeth cig aflan i'm genau. Yna dywedodd wrthyf, Edrych, fe ganiatâf iti ddefnyddio tail gwartheg yn lle carthion dyn i grasu dy fara. Dywedodd hefyd, Fab dyn, yr wyf yn torri ymaith y gynhaliaeth o fara o Jerwsalem; mewn pryder y byddant yn bwyta bara wrth bwysau, ac mewn braw yn yfed dŵr wrth fesur. Bydd y fath brinder o fara a dŵr fel y byddant yn brawychu o weld ei gilydd; byddant yn darfod oherwydd eu pechod. Rhannu Gwallt y Proffwyd Tithau, fab dyn, cymer iti gleddyf llym a'i ddefnyddio fel ellyn barbwr i eillio dy ben a'th farf, ac yna cymer gloriannau a rhannu'r gwallt. Llosga draean ohono mewn tân yng nghanol y ddinas pan ddaw dyddiau'r gwarchae i ben; cymer draean a'i daro â'r cleddyf o amgylch y ddinas; gwasgara draean i'r gwynt, ac fe'i dilynaf â chleddyf. Cymer hefyd ychydig bach ohono a'i glymu yng ngodre dy wisg. Cymer ychydig ohono eto a'i daflu i ganol tân a'i losgi; bydd tân yn lledu ohono i holl dÅ· Israel. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma Jerwsalem; fe'i gosodais yng nghanol y cenhedloedd, gyda gwledydd o'i hamgylch, ac y mae wedi gwrthryfela'n waeth yn erbyn fy marnau a'm deddfau na'r cenhedloedd a'r gwledydd o'i hamgylch, oherwydd y mae'r bobl wedi gwrthod fy marnau, ac nid ydynt yn dilyn fy neddfau. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am i chwi fod yn fwy terfysglyd na'r cenhedloedd o'ch amgylch, a pheidio â dilyn fy neddfau nac ufuddhau i'm barnau, na hyd yn oed farnau'r cenhedloedd o'ch amgylch, felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Edrych, yr wyf fi fy hun yn dy erbyn. Gwnaf farn â thi yng ngŵydd y cenhedloedd; oherwydd dy holl ffieidd-dra gwnaf i ti yr hyn nas gwneuthum erioed ac nis gwnaf eto. Am hynny, yn dy ganol di bydd tadau yn bwyta eu plant a phlant yn bwyta eu tadau; gwnaf farn â thi, a gwasgaraf i'r pedwar gwynt y rhai a weddillir ohonot. Felly, cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, am i ti halogi fy nghysegr gyda'th holl bethau atgas a ffiaidd, byddaf finnau yn eillio, ac ni fyddaf yn tosturio; ni fyddaf fi yn trugarhau. Bydd traean o'th bobl yn marw o haint ac yn darfod o newyn o'th fewn; bydd traean yn syrthio trwy'r cleddyf o'th amgylch; a byddaf yn gwasgaru traean i'r pedwar gwynt ac yn eu dilyn â'r cleddyf. WEDI bod yma ers pum wythnos a nawr yr ydw i'n teimlo fy mod yn dechrau cael fy nhraed o danaf! Yn yr wythnosau cyntaf roedd problemau yr iaith, diffyg cartref iawn, diffyg ystafell yn VIC I, ddim yn nabod neb a dieithrwch gwlad newydd i gyd yn ein rhwystro rhag parhau â'r gwaith. Aml i dro dwi'n meddwl sut y byddwn yn dygymod ac 09 oeddwn yn addas i'r gwaith. Yn araf bach ac heb yn wybod i mi daeth pob dim i'w le. Wrth fynd i VIC I bob diwrnod daeth y plant i'n nabod. Trwy chwarae gyda nhw roeddynt yn edrych ymlaen ac yn mwynhau cael ein gweld yn dod bob dydd. Yn weddol fuan, dechreuodd rhai o'r rhieni gymryd diddordeb a'n gwahodd i'w hystafelloedd am baned a sgwrs. Trwy hyn, mae ein gwybodaeth o'r iaith Bosnieg wedi gwella, rydw i'n lot mwy parod i arbrofi ac i ymarfer fy iaith! Trwy sgwrsio a'r gwirfoddolwyr eraill, dysgais fod y teimladau ansicr a oedd gen i ar y dechrau yn rhai digon naturiol, roedd hyn yn fy ngalluogi i'w anghofio! Yn Roska rydym yn dysgu Saesneg i chwe dosbarth o blant yn ysgol y ffoaduriaid - 11 15 oed (35 40 ym mhob dosbarth). Rydym yn dysgu 14 awr yr wythnos, 3 diwrnod o'r wythnos - 11am 3.15pm. Ar y cychwyn, roedd yn anodd ond yn araf bach rydym yn dod yn gyfarwydd gyda'r dysgu. Mae ambell i grŵp sydd â lot o Saesneg, felly rydym yn dysgu gramadeg Saesneg iddynt. Bob nos Lun am 8pm y Tombola (Bingo) sy'n boblogaidd iawn ymysg y ffoaduriaid. Er mai plant a phobl ifanc yw'r rhan fwyaf ohonynt, ceir mamau, tadau a hen bobl yn troi i mewn o dro i dro. Maent yn cymryd y Tombola o ddifri. Rydym yn trefnu i fynd a rhai o'r plant i'r sinema yr wythnos nesaf. Rydym yn chwarae nifer o gemau canu gyda'r plant ac mae llawer iawn ohonynt wedi dysgu "Gee Ceffyl Bach," gydag acen Gymraeg. Cafodd y ganolfan rodd o fwrdd tenis ac mae llawer o'r bechgyn yn chwarae arno trwy'r dydd ymhob tywydd! Yn anffodus does unman i'w roi ond tu allan ac felly ni fydd e'n para yn hir er ei fod yn newydd ar y funud. Gyda'r newid yn y tywydd yn y dechrau mae pobl yn ein gwahodd i'w ystafelloedd felly rydym yn treulio mwy o amser yn ystafelloedd un neu ddau a llai gyda'r gweddill. Mae hyn yn dechrau achosi ychydig o ddrwg deimlad, gyda rhai o'r ffoaduriaid yn teimlo fod ganddynt hwy fwy o hawl drosom na'r lleill, mae'n anodd iawn ceisio cadw pawb yn hapus. PAN gyrhaeddais i gyntaf a gweld cymaint o ffrindiau yr oedd pawb gyda Suzi a Sigrid, ro'n i'n teimlo ychydig o anobaith a fyddwn i byth yn cael fy nerbyn fel nhw? Wrth gwrs, roeddwn yn atgoffa fy hun eu bod nhw wedi bod yma ers wyth mis bryd hynny. Ar ôl mis, serch hynny, mae llawer o blant VIC yn ein nabod ni ac yn ein croesawu wrth i ni gyrraedd. Rydym ni erbyn hyn yn cael ein gwahodd i'r ystafelloedd am goffi, ond y duedd yw mynd i'r un ddwy ystafell bob tro, a dyna reswm arall pam bod angen ystafell arnom ni - fel y gallen nhw ddod atom ni am goffi, yn lle'n bod ni'n tarfu arnyn nhw drwy'r amser. Dydyn nhw ddim i weld yn poeni, ond wedi'r cyfan yr ystafelloedd yma yw eu cartrefi nhw. Mae llawer o afiechyd wedi bod yn ddiweddar - symptomau ffliw ac mae'r tair ohonom wedi dioddef yn ogystal â llawer o'r plant yn VIC - dydyn ni ddim yn licio mynd i'r ystafelloedd a pheswch 'germs' drostyn nhw i gyd! Yr ysgol yn Roska. Mae pethau'n gwella yna hefyd ac ry'n ni wedi cael rhyw fath o drefn ar ddysgu yn y rhan fwyaf o'r dosbarthiadau. Mae hi'n hanner tymor yr wythnos hon sydd yn rhoi cyfle i fi fynd i'r 'British Council' i lunio gwersi ar gyfer dosbarth 6 a 7 - mae eu Saesneg nhw'n reit dda ac felly mae angen gwneud mwy o baratoi atyn nhw. Fe orlifodd y boilyr yn storfa'r ysgol ddydd Iau diwethaf gan ddinistrio tipyn o'n hadnoddau. Efallai y gallwn ni ffeindio mas os byddai ein harian ni'n dod mewn yn handi gyda nhw yn rhywle.Sendina yn dysgu Bosnieg i mi ROEDD yr wythnos gyntaf yn amser i ni weld y gwersylloedd a chwrdd â phawb oedd angen gwrdd. Yr ail wythnos oedd gwir ddechreuad y gwaith, chwarae â'r plant, dod i'w hadnabod nhw a'u teuluoedd a gwario amser yn VIC I er mwyn cynnal gweithgareddau. Siaradom â'r is-gyfarwyddwr a'r gweithiwr cymdeithasol ond roedd rhannu ystafell yn broblem oherwydd diffyg lle. Nid oedd hyn yn broblem ar y dechrau oherwydd roedd y tywydd yn sych ond yng nghanol y mis newidiodd y tywydd, felly roedd yn anodd gwario cymaint o amser yn VIC I, er ein bod yn cael ein gwahodd mewn i ystafelloedd pobl, roedd gweddill y plant yn meddwl ein bod wedi eu gadael nhw oherwydd nid oedd yn bosib iddyn nhw fynd i mewn i'r ystafell. Pan ddechreuodd y dysgu yn Roska roedd yn anodd credu y byddai'n bosibl cael trefn, tri diwrnod yr wythnos, chwe dosbarth, 35-50 o blant ym mhob un. Erbyn hyn mae' na drefn ar y dysgu a nawr rwy'n edrych ymlaen at y gwersi. Ni'n dysgu plant 9-15 oed, y tri dosbarth ifancaf ni'n dysgu fel dosbarth cyfan, ac yna'r rhai hþn mewn grwpiau oherwydd gwahanol safon Saesneg o fewn y dosbarth. Mae'r nosweithiau Bingo yn gwella, ar y dechrau roedd y plant yn wyllt i'r eithaf bod un wedi poeri arnaf, ond nawr mae pethau wedi tawelu ac mae'r plant a'r oedolion yn mwynhau. Mae Sendina, merch 12 mlwydd oed, yn dysgu Bosnieg i mi tra fy mod yn dysgu Saesneg iddi hi. Mae'n dal yn anodd i gyfathrebu â'r ffoaduriaid ond dim hanner mor galed ag oedd hi ar y dechrau. Ychydig ddyddiau cyn i mi adael Ljubjana clywsom efallai y gallwn rannu ystafell â'r gweithiwr cymdeithasol. Gobeithio bydd hyn yn bosib fel y gallwn ddechrau ar y gweithgareddau yn VIC I. Neges Blwyddyn Newydd PDAG DYLAI'R Gymraeg gael ei thrin yn gydradd â'r Saesneg yn holl ysgolion Cymru. Dyna neges y Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg (PDAG) i'r Ysgrifennydd Gwladol ar drothwy'r flwyddyn newydd. Gelwir am ddysgu'r Gymraeg ym mhob ysgol yng Nghymru o'r cyfnod dan bump oed hyd ddiwedd y cyfnod statudol yn 16 oed. Er mwyn cryfhau statws y Gymraeg yn ysgolion uwchradd Cymru gofynnir i'r Bwrdd Iaith bwyso am newid Deddf Addysg 1988 a gwneud y Gymraeg a'r Saesneg yn bynciau craidd ym mhob ysgol yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor hefyd yn pwyso ar y Swyddfa Gymreig i sicrhau digon o arian ar gyfer cynnal rhaglen hyfforddiant mewn swydd a rhaglen benodi staff hyd at ddiwedd y ganrif o leiaf. Meddai cyfarwyddwr PDAG, Bill Raybould: "Rydym am weld y disgyblion hyn yn cael eu hasesu Yn y Gymraeg a'r Saesneg yn statudol ar ddiwedd eu haddysg gynradd ym 1996, ac yn mynd ymlaen i astudio'r ddwy iaith hyd at 16 oed. "Golyga hyn y bydd y Gymraeg yn dod yn bwnc craidd ochr yn ochr a'r Saesneg i ddisgyblion 14-16 oed ym mhob ysgol yng Nghymru erbyn 1999. Er mwyn cyflawni'r amserlen hon bydd gofyn newid y ddeddf erbyn Medi 1995 ac fe fydd angen rhaglen sylweddol o gymorth uniongyrchol i rai ysgolion i geisio sicrhau eu bod yn medru cyflwyno'r Gymraeg i bawb am y tro cyntaf." Cyflwynodd y pwyllgor saith o argymhellion penodol i'r ysgrifennydd Gwladol a'r Bwrdd Iaith Statudol: * Dylid datgan fod y Gymraeg yn bwnc craidd i bob disgybl "Y mae angen i'r Gweinidogion wneud y datganiad hwn yn awr er mwyn dechrau trin y Gymraeg yn gydradd â'r Saesneg ym mhob ffordd," meddir. * Dylai Bwrdd yr Iaith weithredu ar unwaith i newid Deddf Diwygio Addysg 1988 erbyn Medi 1995 i ddatgan bod y Gymraeg yn bwnc craidd i bob disgybl o fis Medi 1955 fan bellaf. * Dylai asesu statudol, a chyhoeddi'r canlyniadau, gael ei hepgor yn Gymraeg ar gyfer disgyblion ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf yn union fel y mae asesu'r Saesneg yn cael ei hepgor mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn bennaf. * Ni ddylid pwyso am adfer asesu'r Gymraeg Ail Iaith, ym 1994 na chwedyn, gan mai amhriodol yw asesu'r ail iaith, boed Cymraeg neu Saesneg yn statudol yn y cyfnod allweddol cyntaf. * Dylid dechrau asesu Cymraeg Ail Iaith yn statudol ym 1996. * Dylid cydnabod yn achos y Gymraeg, fel yn achos Saesneg, fod disgyblion yn anelu at ennill rhwyddineb llawn yn yr iaith ac y dylid asesu pob disgybl yn y pendraw yn erbyn yr un targedau cyrhaeddiad. "Ni chydnabyddir yn y Ddeddf, yn y targedau cyrhaeddiad nac yn y rhaglenni astudio, fod man cychwyn nifer o'r disgyblion yn bell islaw'r disgwyl yn gyffredinol. Y mae hyn yn wir yn enwedig am blant 'cymunedau'r Gymanwlad newydd' yn Lloegr a'r plant o gartrefi Cymraeg yng Nghymru. Disgwylir i ysgolion ddarparu profiadau priodol fel bo'r holl ddisgyblion yn cyrraedd yr un targedau. Dylai hynny fod yn I amcan i bob ysgol yng Nghymru yn achos y Gymraeg hefyd ac fe ddylai'r Llywodraeth ddarparu'n briodol i'w galluogi i wneud hynny. "Os na ddiffinir un model ar gyfer y Gymraeg a'i gorffori mewn statud, dylid diffinio dau fodel statudol ar gyfer Saesneg hefyd, hyd at ddiwedd cyfnod allweddol 2 o leiaf, er mwyn cydnabod mai ail iaith yw'r Saesneg i blant ysgolion cyfrwng Cymraeg. Wedyn, fe ddylid asesu Cymraeg Ail Iaith a Saesneg Ail Iaith, yn rhan o'r cwricwlwm craidd yng Nghymru i bob plentyn, yn niwedd cyfnod allweddol 1 hefyd," meddir. Dylid darparu rhaglen estynedig o hyfforddiant-mewn-swydd a rhaglen o benodi staff ychwanegol, hyd ddiwedd 2000 o leiaf, er sicrhau fod pob ysgol wedi'i staffio'n ddigonol ar gyfer cyflwyno Cymraeg yn bwnc craidd. "Mater i'r Bwrdd Taith, i'r Awdurdod Cwricwlwm ac Asesu, i'r awdurdodau addysg lleol ac i bob ysgol unigol yw pwyso am gael digon o arian i hwyluso'r symud o ddulliau gweithio uniaith Saesneg i ddulliau gweithio dwyieithog ym mhob ysgol. Mater i'r Ysgrifennydd Gwladol yw sicrhau'r ddarpariaeth," meddir. Ymgyrchu dros fywyd gwyllt Cymru MAE perygl i lafant y môr prin, lili Eryri a phlanhigion ac anifeiliaid eraill ddiflannu am byth o Gymru os na fydd ymdrechion newydd i amddiffyn ein harfordir a'n cefn gwlad. Dyna rybudd chwech o grwpiau cadwraeth Prydain sy'n galw ar y Llywodraeth i lunio mesurau i amddiffyn holl rywogaethau Prydain. Yn eu hadroddiad Her Bio-amrywiaeth rhaglen ar gyfer ymgyrch gadwriaethol ym Mhrydain ceir rhybudd bod amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt a'u cynefin dan fygythiad. lluniwyd yr adroddiad gan arbenigwyr o Cadwraeth gloÿnnod Byw, Cyfeillion y Ddaear, Plantlife, Y Gymdeithas frenhinol er Partneriaeth Ymddiriedolaethau Cadwraeth a Bywyd Gwyllt Cymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, a Chronfa Natur y Byd, Nature sydd, gyda'i gilydd yn cynrychioli oddeutu dwy filiwn o bobl ym Mhrydain yn unig. Mae'r adroddiad hefyd yn gosod nodau arbennig ar gyfer sicrhau parhad bio-amrywiaeth ymysg rhyw 530 o wahanol rhywogaethau. Yng Nghymru, dywedir bod hyd at 151 o Safleoedd o Ddiddordeb. arbennig dan fygythiad oddi wrth effeithiau glaw asid gyda 15 o safleoedd mewn perygl oddi wrth hen gynlluniau cloddio, wyth mewn perygl oherwydd lonydd newydd a dau oherwydd cynlluniau i greu argae. Mae'r tiroedd gwlyb sydd dan fygythiad yn cynnwys tir gwelltglas yn Ynys Môn, Pen LlÅ·n a Lefelau Gwent a chorsydd megis Cors Fochno a Chors Caron. Mae rhostiroedd uchel mewn perygl o gael eu gor-bori; yng Ngwynedd, dim ond 241 hectar o'r math yma o gynefin sydd ar ôl. Bellach dim ond yn ne a gorllewin Cymru y gwelir twyni þ yn Kenfig, Bae Oxwich, Burry, Towyn, Talacharn a Harlech, ac mae rhai o'r rhain dan fygythiad oddi wrth glaw asid. Ymhlith yr aberoedd sydd mewn perygl mae Dyfrdwy, a Hafren yr olaf wrth gwrs yn yn fannau bwydo o bwys rhyngwladol i adar megis y gylfinir, a hwyaid a gwyddau gwyllt. Mae gweirgloddiau, sy'n bwysig mewn rhannau o Ddyfed ar gyfer cadwraeth rhai mathau o bili pala a thegeirian, hefyd dan fygythiad. Ymhlith y planhigion prin sydd mewn perygl, rhestrir lili'r Wyddfa, a'r lafant mor unigryw, Dewi Sant. Diwrnod Tan Gamp - Gruff Roberts (Tud. 38-58) Pennod 3 Y peth cyntaf dynnodd sylw Joni pan gyrhaeddson nhw'r pier oedd y bylchau oedd rhwng ystyllod y llawr. synnodd hefyd fod cymaint o bellter rhwng yr ystyllod a'r môr oddi tanynt. "Gobeithio bod y pier 'ma'n saff," meddai wrth Sandra, gan graffu ar y coed dan ei draed. "Mae o, siŵr," meddai Sandra. "Edrych y coesa' cry' sy'n ei ddal o yn y môr." Ond, coesau cryf neu beidio, fedrai Joni ddim peidio â chofio am y rhaglenni teledu a welodd am y môr. Cofiodd am y llongau anferth oedd wedi diflannu heb i neb glywed sôn amdanyn nhw wedyn, am donnau oedd yn uwch na phen uchaf goleudai, am fôr oedd yn medru torri concrit trwchus yn union fel petai'n blisgyn wy. "Be'wyt ti'n 'i freuddwydio, rŵan?" gofynnodd Sandra iddo'n sydyn. "Tyrd i fan'cw i edrych fedrwn ni weld y lleill. Rydyn ni'n ddigon uchel yn y fan'ma." O ochr y pier, wrth graffu dros y rheiliau, roedd modd gweld am filltiroedd. Roedd y bobl ar y traeth fel morgrug. "Edrych, mae Julie Angharad wedi deffro," meddai Sandra gan bwyntio hefo'i llaw chwith. "Edrych arni'n cicio'i choesa'." "Gobeithio na wnaiff y pier 'ma ddim dechra cicio'i goes', 'te," meddai Joni. Wrth iddyn nhw gerdded ar hyd y pier, sylwodd fod gwylan fôr yn eu dilyn. Roedd hi'n aros yn ei hunfan bob tro roedden nhw'n stopio. Hofran, gerfydd ei hochr, rywsut, roedd hi, gan gadw ryw fymryn o'u blaenau. Bron na fedrai Joni ei chyffwrdd petai wedi codi ei fraich. Prin bod yr wylan yn symud ei hadenydd o gwbwl. "Dangos ei hun mae hi, 'sti," meddai Joni. "Pwy?" gofynnodd Sandra. "Hon'na," meddai Joni gan godi ei ben i edrych. "Paid â chymryd sylw ohoni." Gallai daeru bod yr wylan wedi gwyro'i phen ac wedi gwenu'n sbeitlyd arno pan ddywedodd hynny. Wrth fynd heibio i un o'r cilfachau ymochel ar y pier fe welson nhw hen ŵr a hen wraig yn eistedd gyda'i gilydd. Roedd yr hen wraig yn pendympian cysgu, a'i sbectol wedi llithro i lawr ei thrwyn. Eisteddai'r hen ŵr yn ei hymyl, yn edrych ar ei bapur ac arni hithau bob yn ail. Bob tro yr edrychai arni, cyffyrddai â'i llaw. Dau gariad, meddyliodd Joni. Busnes rhyfedd oedd y busnes caru yma, yng ngolwg Joni. Y noson cynt, cyn iddo fynd i'w wely, roedd dau rhinoseros ar y teledu yn hel yn erbyn ei gilydd yn union fel y byddai ceffylau'n gwneud yng nghae Ffermau Isa'. "Mam," gofynnodd, "ydych chi'n meddwl bod rhinoserosys yn lecio rhinoserosys?" "Mae'n rhaid 'u bod nhw, 'ngwas i," oedd yr ateb, "neu fyddai 'na ddim rhinoserosys bach, yn na fyddai?" A dyna Sandra a Hubert wedyn. Roedd yn ddirgelwch i Joni sut y gallai unrhyw ddyn syrthio mewn cariad efo'u Sandra nhw. Roedd ganddi goesau mor fain a phengliniau mor esgyrniog. Weithiau mi fyddai ganddi blorod ar ei hwyneb hefyd. A sut ar y ddaear y gallai ei chwaer o syrthio mewn cariad hefo un tebyg i Hubert? A hwnnw'n methu nofio. Wel dim ond fel bricsen. Doedd Joni ddim yn deall. Dipyn o ddirgelwch oedd y bwth hefyd pan gyrhaeddson nhw'r lle yn y diwedd. Cwt cymharol fychan oedd o, heb lun na phoster ar ei gyfyl. Ar ei ochr roedd rhywun wedi printio, mewn llythrennau breision, y geiriau: Dau ben, chwe braich a dim coesa', A dyna i chi'r peth rhyfedda' A welsoch bob un, Eich llun chi eich hun. Tew, tinfawr neu dena', Hir a cham fel banana, Crwn fel consyrtina. Brenin y Bratia! Dewch i mewn! "Be' wyt ti'n feddwl, Sandra?" gofynnodd Joni. "Be' wyt ti'n feddwl ydi o?" "'Sgen i ddim syniad, ond mae o'n codi arswyd arna' i." "Taw." "Ydi, wir yr." "Tyrd o 'na. Mi fentrwn ni," meddai Joni. Creadur digon surbwch oedd y perchennog. Cymerodd eu harian heb ddweud diolch, a heb godi ei ben o'i bapur hyd yn oed. Sylwodd Joni mai The Sun oedd ei bapur yntau. "Mae hwn'na'n licio'r haul hefyd," meddai wrth Sandra, gan wenu. Sandra aeth gyntaf, a Joni'n dilyn yn dynn wrth ei sodlau. Roedd heb sachau digon budr o boptu iddyn nhw ar y dechrau, a'r lle'n llwyd dywyll. Safodd Sandra'n ei hunfan pan gyrhaeddodd hi drofa. "Gafael yn fy llaw i," meddai. "I be'?" gofynnodd Joni. "Shhhh!" meddai hi. "Wyt ti'n clywed rhywbeth?" "Nac ydw i." "Na finna' chwaith." "Sandra, pam rwyt ti'n sibrwd?" gofynnodd Joni, gan ddal i wneud hynny ei hun. "Dwn i ddim. Cau dy geg am funud," meddai hithau. Roedd y ddau'n sefyll yn ymyl ei gilydd erbyn hynny. Roedd hi'n dal ei law yn dynn, dynn. O'u blaenau roedd planced yn llenwi'r llwybr, a llun rhywbeth arni. Llun rhywbeth tebyg i gorila. Beth oedd o'u blaenau, tybed? Beth oedd yn llechu yn y tywyllwch tu ôl i'r blanced? Ai gorila cyffredin? Neu un gyda dau ben? Neu un â chwech o freichiau? Iesgob! meddyliodd Joni, gan geisio dyfalu. Os oedd y gorila mewn caets, oedd hwnnw'n un diogel? Neu fe allai fod yn rhydd. Neu wedi ei glymu mewn rhyw ffordd. Yn y tywyllwch o'u blaenau gallai daeru ei fod yn clywed rhywbeth yn anadlu. Ac nid anadl creadur bychan oedd o'n ei glywed chwaith. Dipyn o gamgymeriad oedd talu deg ceiniog am ddod i'r fath le. Wedi mynd cyn belled, tybed oedd modd troi'n ôl? "Barod, Joni?" Gwasgodd Sandra ei law ac ar hynny cododd ei braich i symud y blanced o'r ffordd. Aeth pethau'n wyllt wallgof ar ôl hynny. Cyn gynted ag y cyffyrddodd Sandra'r blanced, fe gododd honno ohoni'i hun, a daeth rhyw sgrech fyddarol, annaearol o rywle. O'r nenfwd uwch eu pennau, o'r waliau o'u cwmpas ac o'r llawr oddi tanynt daeth tonnau gwynion o oleuni llachar. Ac yno, yn sefyll o'u blaenau yn y goleuni hwnnw, fe welson nhw'r peth hyllaf yn y byd i gyd. Camodd Joni a Sandra'n ôl yn eu dychryn, ond chwyddodd y bwystfil gan ymddangos yn fwy, ddwywaith, nag o'r blaen. Roedd fel petai'n ysu am neidio arnyn nhw a'u llethu. Yr oedd yn un o liwiau, a'r rheini'n toddi i'w gilydd ac yn newid o hyd, yn union fel roedd ei ffurf yn newid. Clywodd Joni ei galon yn curo fel gordd, ac ar yr un pryd rhoddodd Sandra sgrech nes bod y lle'n diasbedain. Roedd Joni wedi cael cymaint o fraw fel na allai symud na bys na bawd. Yna, yng nghanol ei ddychryn mawr, clywodd ei chwaer, oedd eiliad ynghynt wedi bod yn sgrechian am ei bywyd, yn gweiddi chwerthin. Yn ei sgîl, dechreuodd yntau chwerthin. Nid bwystfil oedd o'u blaenau. Yr hyn a gododd arswyd arnyn nhw oedd nhw eu hunain. Roedden nhw wedi bod yn edrych arnyn nhw eu hunain mewn drych ystumio! Fe gafodd y ddau andros o hwyl yn ystod y munudau nesaf. Ar y parwydydd o'u cwmpas yr oedd chwech o ddrychau, a phob un o'r chwech yn wahanol. Roedd un yn gwneud ichi grebachu, ac edrych fel corrach, ac un arall yn eich gwneud yn hir a main fel coes brws. Wrth sefyll o flaen un o'r lleill roedd eich pen a'ch traed i'w gweld ond eich canol yn diflannu'n llwyr. O sefyll o flaen hwnnw'n wysg eich ochr roeddech chi'n diflannu'n gyfan gwbl, bron. Yn y fath sefyllfa roedd Joni a Sandra fel dau o bethau gwirion, yn neidio ac yn prancio, yn chwifio'u breichiau ac yn gwneud ystumiau o bob math. Gwnaeth Joni ei wddf yn dew fel gwddf hipopotamws, a'i gorff yn fain fel corff jirá ff. Llwyddodd Sandra i dyfu pedwar pen ar yr un pryd, a phob un ohonyn nhw'n wahanol. Gwnaeth y drych yn y gornel i'r ddau ohonyn nhw edrych fel doliau clwt. Roedd hynny'n ddigon i ddod â phlwc arall o chwerthin. Pan ddaethon nhw allan i olau dydd unwaith et roedd y ddau wedi chwerthin cymaint nes roedd eu hochrau'n brifo. Pennod 4 Fel roedden nhw'n mynd i lawr y grisiau ger ochr y pier, fe ddigwyddodd Joni sylwi ar ei dad. Hyd yn oed o'r pellter hwnnw roedd hi'n amlwg fod rhywbeth yn bod. I ddechrau, roedd ei dad ar ei draed. Yn ail, roedd o'n dal Julie Angharad ar ei fraich dde. Yn drydydd roedd o'n chwifio un o'i 'sanau uwch ei ben gyda'i law chwith. "Be' sy'n bod ar Dad, Sandra?" gofynnodd. "Wedi cael gormod o haul mae of iti," meddai hithau. Pan gyrhaeddson nhw, buan y gwelodd Sandra nad oedd pethau mor syml ag yr oedd wedi tybio. Roedd wyneb ei mam yn dangos fod rhywbeth o'i le. "Ydi Julie Angharad wedi bod yn biwis, Mam?" gofynnodd. "Fasat ti ddim yn gwybod ei bod hi yma," meddai ei mam. "Dim mymryn o drafferth, chwarae teg i'r beth bach." "Dy nain," meddai ei thad, gan ddal i chwifio'i hosan fel coblyn. "Dwn i ddim lle ar y ddaear yr aeth hi." "Welsoch chi ddim golwg ohoni, naddo?" gofynnodd eu mam. "Dim golwg. Ydi hi wedi mynd ers meitin?" gofynnodd Sandra. "Ers hydoedd," meddai ei mam. "A mae dy fam fel gafr ar d'rana'," meddai'r tad wrth ei ferch. "Mi wyddost am dy nain. Mi ddaw i'r fei yn y munud. Fel y gŵr drwg ei hun." "Cychwyn i'r lle chwech wnaeth hi," meddai Mam, "ond welson ni ddim golwg ohoni wedyn. Rydw i wedi bod draw ddwywaith i chwilio, ond dydi hi ddim ar gyfyl y lle. A doedd y ddynes sy'n llnau'r lle ddim yn cofio'i gweld hi, chwaith." Bu tawelwch rhyngddyn nhw am eiliad cyn i Mam siarad eto. "Paid â meddwl 'mod i'n gwneud môr a mynydd, Sandra bach," meddai hi, "ond dydi hi ddim wedi mynd â'i sbectol hefo hi. Ofn sy' arna'i y bydd hi'n treio croesi'r ffordd yn rhywle." "Dydi hi ddim ffit," meddai Dad, gan ddal i chwifio'r hosan nes roedd pawb o'u cwmpas yn edrych yn rhyfedd arno. "Pam mae o'n gwneud hyn'na, Mam?" gofynnodd Joni. "Ddim ffit!" meddai Dad wedyn, gyda mwy o bwyslais fyth. "Meddwl mae o y bydd dy nain yn ei weld o," meddai ei fam wrth Joni. "Lle mae Hubert, Mam?" gofynnodd Sandra. "Mi biciodd yn ôl yma pan oeddech chi'ch dau draw ar y pier. Wedyn mi aeth yn ôl i'r amiwsments - i chwilio amdani, medda'fo. Roedd o wedi colli dwybunt," meddai Mam. "Eitha' gwaith â fo," meddai Sandra. "Wel, be' wnawn ni? Be' ar y ddaear wnawn ni?" gofynnodd Mam. "Pam nad ewch chi i wahanol gyfeiriada' i chwilio amdani," meddai Dad. "Mi arhosa' inna' yn fan'ma i edrych ar ôl y fechan." Edrychodd Mam yn hyll, hyll arno. "Dynion," meddai. "Mi wnewch chi ryw esgus. Aros yn fan'ma wir! A wnei di roi'r hosan 'na i lawr, ddyn gwyn? Mi fyddan nhw'n dod yma i fynd â chdi i ffwrdd hefyd os na fyddi di'n ofalus ar y naw." Y darn o'r prom oedd yn ymestyn cyn belled â'r cwrs golff oedd y darn gafodd Joni i'w chwilio. Ond cafodd siars gan ei fam cyn cychwyn. "Cymer di ofal na cheisi di ddim croesi'r ffordd," meddai. "A chadw di'n ddigon pell o'r hen amiwsments 'na. Cofia di, rŵan." Ac yr oedd Joni'n adnabod ei fam yn ddigon da i wybod ei bod hi o ddifrif, ac y byddai raid iddo osgoi'r amiwsments. Wrth gerdded trwy'r tyrfaoedd ar y prom fe ddechreuodd Joni chwibanu. Er bod ei nain ar goll, doedd o ddim yn poeni gormod amdani. Wedi'r cyfan yr oedd hyn wedi digwydd o'r blaen. Roedd hi'n siŵr o ddod i'r fei yn y diwedd. Cofiodd am y tro hwnnw yr aeth hi ar goll yn Ffair y Borth. Fe fuon nhw'n chwilio am ddwy awr cyn dod o hyd iddi. Yng nghanolfan yr heddlu yr oedd hi'r tro hwnnw, yn yfed paneidiau o de ac yn bwyta bisgedi. Roedd hi wedi dangos y cyrn oedd ganddi ar ei thraed i'r plismyn. "Ac mi ddangosodd y siwpar ei gyrn i mi," oedd ei hymateb pan oedd pawb yn dweud y drefn wrthi. "Ww - traed mawr oedd ganddo fo." Cymro ar y Copa - Emrys Roberts (Tud. 15-21) Coesau Metel "Douglas Bader, dewch yma!" gwaeddodd prifathro'r ysgol uwchradd. Brysiodd y plant eraill i gyd o'r coridor ac i'w gwersi fel llygod. "Mae o mewn trwbwl eto," meddai un ohonyn nhw. "Ydi," ebe'i ffrind, "Torrodd y llythrennau "D.B." hefo'i gyllell boced ar un o lysiau gorau'r prifathro yn ei dÅ· gwydr. Yr oedd y bos wedi meddwl ennill hefo'r bwmpen honno yn y sioe." Disgynnodd y gansen yn galed chwech o weithiau ar law Douglas. Caeodd ei lygaid mewn poen ond wnaeth o ddim gweiddi unwaith. Roedd wedi arfer cael ei gosbi fel hyn gan ei fod mor ddireidus. Brysiodd o ystafell y prifathro ac i'r cae rygbi. "Ddaru o dy frifo di?" gofynnodd un o'i gyfeillion. "Dim peryg," atebodd Douglas gan gipio'r bêl a rhedeg fel milgi i sgorio unwaith eto. Y fo oedd un o chwaraewyr rygbi gorau'r ysgol. Cafodd gwpan am focsio hefyd. Er iddo gael cansen yn aml, doedd dim rhyfedd mai fo oedd yr hogyn mwyaf poblogaidd yn y lle. "Y mae'n hen bryd i ti feddwl am dy wersi," ebe'i rieni wrtho un diwrnod pan oedd yn ddeunaw oed. "Tydi bocsio a rygbi a myn di drwbwl o hyd ddim yn mynd i dy helpu i fynd i'r coleg." Gan mai peilot oedd Douglas eisiau bod, yr oedd yn rhaid iddo astudio yn galed er mwyn cael mynd i goleg Cranwell. "Hen bethau sych ac annifyr ydi llyfrau," meddai wrtho fo'i hun. "Ond rwy'n cael motor beic os wna i lwyddo. Roedd ei rieni yn falch iawn y diwrnod y cychwynnodd am y coleg ar ôl cael ei dderbyn. Ond wrth frysio yno ar gefn ei fotor beic newydd, ac edrych ar awyren uwch ei ben yr un pryd, syrthiodd i ffos. Doedd o fawr gwaeth, ond welodd neb yn Cranwell un yn cyrraedd yn llaid o'i ben i'w draed o'r blaen! Dysgodd Douglas Bader yn gyflym sut oedd gyrru awyren. Yn fuan iawn, gallai ei llywio heb hyfforddwr hefo fo. Gwnâi'r peilot bob math of driciau wedyn gan droi a throi fel pry yn yr awyr. "Y gamp fwyaf ydi hedfan yn isel, nid yn uchel," meddai peilot arall tra'n bwyta brecwast un diwrnod. Nid oedd hwn yn hoffi Douglas. Roedd yn ei herio'n sbeitlyd o hyd. "Mi gei di weld." Brysiodd Douglas i orffen ei fwyd. Rhedodd allan wedi gwylltio at un o'r awyrennau. Bristol Bulldog oedd hon ac âi yn gynt na'r Avro 504 y bu'n dysgu ynddi. "Paid â gwrando ar y ffŵl yna!" gwaeddodd un peilot wrth redeg allan ar ei ôl. "Mae pawb yn gwybod mai ti yw'r gorau. Does dim raid i ti brofi hynny i neb." Yr oedd yn rhy hwyr. Edrychai pawb yn syn ar Douglas Bader yn dringo i'r awyr fel eos. Yna daeth â'r Bristol Bulldog i lawr tua'r ddaear yr un fath â hebog yn disgyn ar brae. "Mae o'n rhy isel!" gwaeddodd rhywun gan wyro'i ben wrth i Douglas ruthro tuag atyn nhw. Trawodd blaen un o'r adenydd y llawr. Trodd y Bristol Bulldog fel pêl rygbi yn bowndio. Bu anferth o glec, a chwympodd yr awyren i'r ddaear. "Mae'n syndod dy fod yn fyw," ebe un o'i gyfeillion tra'n ceisio rhyddhau Douglas o'i sedd. Cawsant drafferth fawr i'w gael allan o'r awyren gan fod ei goesau'n sownd. Brysiodd ambiwlans ag ef i ysbyty. Edrychodd y meddygon yno yn ddigalon ar ei gilydd. "Bydd yn rhaid torri ei goes dde i ffwrdd uwchben y ben- lin," ebe un. "Rhaid," sylwodd meddyg arall. "Dyna'r unig ffordd i achub ei fywyd." A dyna ddigwyddodd. Gweithiodd y meddygon a'r nyrsus yn hir a thawel am oriau yn y theatr. Yr oedd Douglas Bader yn wael iawn drwy'r amser. "Y mae'i galon o wedi peidio â churo!" rhybuddiodd y llawfeddyg. Wrth lwc, dim ond am eiliad neu ddau y digwyddodd hynny. Aethant â'r claf yn ôl i'r ward. Ymhen ychydig, bu'n rhaid iddyn nhw dorri ei goes chwith i ffwrdd yn ogystal, dipyn yn is na'r ben-lin. "Tydw i ddim am dorri fy nghalon chwaith," meddai Douglas Bader wrtho fo'i hun ar ôl sylweddoli beth oedd wedi digwydd. Yr oedd y peilotiaid eraill yn drist iawn wrth feddwl na châi o chwarae rygbi na llywio awyren byth wedyn. Ond er yr holl boen, daeth Douglas yn well a dysgodd gerdded ar ddwy goes fetel. Cwympai o hyd ar y dechrau, ond llwyddodd o'r diwedd. Lluchiodd ei ddwy ffon gan benderfynu gwneud hebddyn nhw. "Rwyt ti'n ystyfnig fel mul," gwenodd un nyrs. 2Fedri di byth gerdded heb goesau iawn os nad oes ffyn gennyt i dy helpu. Does neb erioed wedi gallu gwneud." Ond doedd hi ddim yn nabod Douglas Bader. Gadawodd yr ysbyty ar ôl deg wythnos. Y peth cyntaf wnaeth o oedd mynd i faes awyr. Gofynnodd i gyfaill iddo ei godi i sedd y peilot yn un o'r awyrennau bach araf. "Hwrê! Rwy'n gallu hedfan yn iawn," chwarddodd pan oedd yn uchel yn yr awyr. Er hynny, gwrthododd y llu awyr ei gymryd yn ôl fel peilot. Yr oedd wedi ei siomi unwaith eto. Bu mewn tymer ddrwg am yn agos i saith mlynedd! Yna, daeth yr Ail Ryfel Byd. "Croeso'n ôl," ebe un o swyddogion yr awyrlu. "Y mae angen dynion ifanc da fel ti i yrru'r Spitfires." Awyren newydd sbon oedd hon. Bu Douglas yn hedfan mewn un uwchben llongau i edrych ar eu hôl. "Y mae cannoed ar gannoedd o filwyr Prydain ar y traethau yn Dunkirk. Y mae pob math o longau, bach a mawr, yn brysio yno i'w nôl adref," meddai peilot arall wrtho un bore. "Dyma ein cyfle i gyfarfod â'r gelyn," atebodd Douglas gan hercian tuag at ei Spitfire yn y maes awyr. Codai'r milwyr eu breichiau yn hapus wrth weld awyrennau o Brydain yn hedfan uwch eu pennau yn Dunkirk. Roedd y dynion druain at eu canol yn y môr yn disgwyl am long i'w hachub o Ffrainc. "Gwyliwch. Mae pedair Messerschmitt 109 yn dod amdanom!" gwaeddodd un o swyddogion y fyddin. Ond yr oedd Douglas Bader a'i ffrindiau y tu ôl i awyrennau y gelyn. Pwysodd Douglas ei fawd ar fotwm y gwn. Taniodd wyth o ynnau'r Spitfire ar unwaith fel dreigiau yn poeri tân. Rhwygodd y bwledi drwy un o awyrennau'r Almaenwyr yr un fath â chenllysg yn taro cae y Å·d. Trodd Douglas i'r chwith a gwelodd y gelyn yn cwympo fel carreg i'r ddaear. Disgynnodd y peilot gyda'i barasiwt. Wedi ennill y frwydr yn yr awyr, daeth y rhan fwyaf o filwyr Prydain yn ôl yn ddiogel o Dunkirk. Ymhen ychydig amser yr oedd Douglas Bader yn swyddog pwysig yn y llu awyr. Y fo oedd yn gofalu am sgwadron newydd - un rhif 242. Roedd rhai o'r peilotiaid newydd ddianc o Ffrainc ac yn ddigalon ar ôl colli llawer o'u cyfeillion yn y rhyfel. "Ac yn waeth fyth, maen nhw'n disgwyl i ddyn heb goesau ein harwain ni!" meddai un yn drist. Collodd Douglas Bader ei dymer unwaith yn rhagor. Awyrennau Hurricane oedd gan y sgwadron newydd yma. Aeth i mewn i un. Rhuodd yn ôl ac ymlaen drwy'r awyr yn uchel, uchel. Yna daeth i lawr mor isel â phen y peiotiaid eraill ar y ddaear. Gofalodd, er hynny, beidio â gwneud yr un camgymeriad ag o'r blaen. Daliodd pawb eu gwynt coesau iawn yn gwneud hyn, heb sôn am beilot hefo coesau metel! Cafodd ei dderbyn yn bennaeth y sgwadron yn hawdd iawn wedi hynny. "Mae'n rhaid i ni saethu Hurricane hwn i lawr!" rhuodd un o swyddogion y Lufftwaffe, llu awyr yr Almaen. "Er mai coesau metel sy ganddo, mae o yn gallu dinistrio ein hawyrennau ni yn well na neb bron!" "Rhaid wir," gwylltiodd Almaenwr arall. "Mae o'n dod o gyfeiriad yr haul, a'n peilotiaid ni'n cael eu dallu wrth geisio chwilio amdano. Does dim rhyfedd ei fod wedi ennill medalau D.S.O. a D.F.C." "Mae o'n gallu arwain ei sgwadron fel un yn hela llwynog. Hei lwc y gallwn ei ladd, neu ei ddal." Un diwrnod bu brwydr fawr yr yr awyr uwchben traethau Ffrainc. Ambell dro, Spitfire oedd yn ennill. Dro arall, chwarddai peilot Messerschmitt wrth weld awyren o Brydain yn ffrwydro, a'r gweddillion yn plymio fel tân gwyllt i'r môr. Roedd Douglas Bader wedi dechrau blino, a thop ei goesau yn brifo yn ddychrynllyd. Oherwyd hyn, ni fu'n ddigon cyflym i weld y gelyn wrth gynffon ei Spitfire. Trawodd y ddwy awyren yn erbyn ei gilydd. Agorodd Douglas do y cocpit yn barod i ddianc a disgyn hefo'i barasiwt. Ond roedd ei goes dde yn sownd, fel asgwrn yng ngheg ci. tynnodd a thynnodd, ond methai â'i chael yn rhydd. Roedd yn rhaid iddo ddianc! Deuai'r ddaear oddi tano yn nes ac yn nes o hyd. Ar ôl un plwc sydyn arall, syrthiodd darn metel ei goes dde i ffwrdd a disgyn i waelod y cocpit. Roedd yn rhydd o'r diwedd! Disgynnodd Douglas yn ddiogel yn Ffrainc. Er hynny, roedd milwyr yr Almaen yn barod amdano. Wedi mynd â fo i ysbyty, synnodd y meddygon nad oedd coesau fel pawb arall ganddo. Aeth y newyddion drwy'r lle fel tân mewn rhedyn sych. Roedd Douglas Bader, arwr enwog llu awyr Prydain, wedi ei ddal! Nid oedd gobaith iddo ddianc gan fod milwyr yn gwarchod yr ysbyty fel carchar. "Dyma'r goes fetel," gwaeddodd un o'r gelyn wrth edrych drwy ddarnau o'r Spitfire ar ôl iddi gwympo. Gwnaeth yr Almaenwyr gamgymeriad mawr wrth ei rhoi yn ôl i Douglas Bader wedi ei thrwsio. "Mae'n rhaid i mi feddwl am gynllun i ddianc," meddai wrtho fo'i hun, yn syth wedi iddo'i chael yn ôl. Gwnaeth raff hefo dillad sbâr un o'r gwelâu yn yr ysbyty. Cuddiodd hi wedyn o dan ei wely yn y ward. Trefnodd nyrs o Ffrainc i un o'i chyfeillion helpu Douglas. Un o'r Ffrancod a oedd yn barod i ymladd yn ddirgel yn erbyn yr Almaenwyr, er eu bod wedi concro eu gwlad, oedd hwn. "Rhaid i chi ddianc drwy un o'r ffenestri heno," sibrydodd y nyrs garedig wrth Douglas Bader pan gafodd gyfle. "Bydd Ffrancwr yn aros amdanoch tu allan i'r ysbyty. Cymerwch ofal." Clymodd Douglas y rhaff o ddillad yn sownd wrth un o goesau ei wely pan oedd pob man yn dawel y noson honno. Gwyrai'n ddistaw gan ofalu bod y nyrs arall a edrychai ar ôl y ward yn ddigon pell. Yna llithrodd drwy'r ffenest ac allan. Daeth y ffrind newydd o Ffrainc ato mor dawel â chwningen. Aeth y ddau i fwthyn yn ymyl yr ysbyty. Cysgodd y peilot yn dawel yno weddill y noson er na thynnodd ei ddillad iddi amdano. "Codwch!" sibrydodd gwraig y bwthyn wrtho fore drannoeth. "Brysiwch, mae milwyr yr Almaen yn chwilio amdanoch ym mhob tÅ· yn yr ardal." Sleifiodd y peilot o Brydain allan trwy ddrws y cefn. Dywedodd gŵr y bwthyn wrtho am guddio tan y gwellt yn y cwt oedd tu cefn i'w gartref. Yn ffodus, fe wyddai ei wraig ac yntau ddigon o Saesneg i Douglas eu deall. "Mae'n rhaid i mi beidio â thisian," meddai wrtho'i hunan tra'n swatio tan y gwellt a gosai ei drwyn. Yna clywodd ddrws y cwt yn cael ei gicio yn agored. "Mae'r cena yma yn rhywle," ebe llais cras. "Mae o wedi gwneud sbort am ein pennau trwy ddianc. Ond fe fyddwn yn siŵr o'i ddal, o byddwn!" Clywodd Douglas Bader sŵn bidogau yn taro'r llawr cerrig wrth iddyn nhw edrych ym mhob man yn y cwt amdano. Arhosodd un Almaenwr wrth y twmpath gwellt lle cuddiai'r peilot. Plannodd hwnnw y bidog i mewn i'r pentwr. Gwelai Douglas yr haearn yn fflachio o flaen ei drwyn. "Arhoswch!" gwaeddodd. Peidiodd y milwyr â symud. Roedd yn well gan Douglas gael ei ddal na'i ladd. Gobeithiai gael cyfle arall i ddianc. Drannoeth, roedd mewn gwersyll i garcharorion rhyfel. "Dyden ni ddim am wneud yr un camgymeriad eto," chwarddodd pennaeth y gwersyll yma gan gymryd coesau metel oddi arno. "Mi rydw i yn addo peidio â cheisio dianc," ebe Douglas. Edrychodd yr Almaenwr arno. Er mai gelyn iddo oedd Douglas Bader, yr oedd wedi edmygu ei ddewrder ers blynyddoedd. Newidiodd ei feddwl. "Dyma ti'r coesau yn ôl, ond cofia dy fod wedi addo," meddai'n garedig. Straeon ac Arwyr Gwerin Llydaw (tud. 40-46) Craig o ithfaen caled yn dal ei thir yn nannedd tonnau Môr Iwerydd yw Llydaw. Mae'r graig wedi'i naddu'n glogwyni serth mewn sawl man wrth wynebu ymosodiadau'r lli ers canrifoedd maith. Y clogwyn hyn yw muriau gwarchod y wlad. Ers miloedd o flynyddoedd, mae pobol Llydaw wedi gwneud defnydd o'r graig hon ar gyfer dau ddiben yn arbennig, sef rhyfel a chrefydd. Mae hen gromlechi a siambrau claddu ledled y wlad þ dyma eglwysi cadeiriol cyfnod crefydd y derwyddon. Mae hen geyrydd cyntefig yn y wlad yn ogystal, gyda thomennydd anferth o bridd a cherrig yn eu gwarchod. A nodwedd arall amlwg iawn yn Llydaw yw'r meini hirion. Anferth o gerrig ithfaen yn sefyll ar eu cyllyll yn y ddaear yw'r rhain, wedi eu gosod yno drwy ymdrech ugeiniau neu gannoedd o lafurwyr, mae'n debyg. Does neb yn |
:: Command execute :: | |
--[ c99shell v. 2.0 [PHP 7 Update] [25.02.2019] maintained by KaizenLouie | C99Shell Github | Generation time: 0.0349 ]-- |